Swyddi ar lein
Peiriannydd Rhwydwaith (Llais)
£30,151 - £32,020 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25061-H2
- Teitl swydd:
- Peiriannydd Rhwydwaith (Llais)
- Adran:
- Cyllid
- Gwasanaeth:
- Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid
- Dyddiad cau:
- 27/07/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £30,151 - £32,020 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S3
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwyn Jones ar 01286 679605 neu Ian Roberts ar 01286 679606
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 27FED O GORFFENNAF, 2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben/phen ei hun ac fel rhan o dîm.
• Yn rhagweithiol wrth barhau i ddysgu am y diweddaraf mewn diwydiant cymhleth sy’n newid yn gyflym
• Medru ennill sgiliau a diweddaru’n barhaus wrth i’r diwydiant fynd yn ei flaen.
• Trwydded yrru.DYMUNOL
•CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Addysg gyffredinol at Lefel A neu gyfatebolDYMUNOL
• Yn meddu ar radd (neu gymhwyster cyfatebol).
• Cymhwyster mewn rhwydweithio cyfrifiadurol neu llais.
• Wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol ar system llais VoIP
• Cymhwyster proffesiynol (e.e. Cisco CCNA)PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Yn brofiadol mewn cefnogi, cynnal a dylunio rhwydweithiau cyfrifiadurol a llais
• Profiad o osod a ffurfweddu teleffonau VoIP.
• Profiad o gefnogi systemau llais
• Profiad o greu adroddiadau o systemau gwybodaeth llais.DYMUNOL
• Profiad o weinyddu cofnodion o gysylltiadau llais.
• Profiad o hyfforddi defnyddwyr ar ddefnyddio system llais ac/neu fideo gynadledda
• Profiad o gynhyrchu dogfennaeth pensaernïo rhwydwaithSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes arbenigedd
• Medru cyfathrebu mewn modd technegol ac annhechnegol
• Medru datrys problemau yn rhesymegol.
• Sgiliau cofnodi cadarnDYMUNOL
• Gwybodaeth a gallu mewn peirianneg rhwydwaith a bod â gwybodaeth am dechnoleg ymylol, meddalwedd ac arferion gwaith.
• Gwybodaeth am y cylch datblygu systemau.
• Gwybodaeth o unrhyw safonau perthnasol e.e. ISO27001.
• Gwybodaeth o’r model ITIL
• Gwybodaeth am faterion diogelwch rhwydwaith
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Darllen a Deall Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i gyflwyno, cynnal a chefnogi’r rhwydwaith (a rhwydwaith llais) dros ardal leol ac eang ledled Gwynedd.
•Gosod a ffurfweddu teleffonau. Cynnal, cefnogi a monitro ein systemau llais, cyfathrebu unedig a fideo. Mae hyn yn golygu datrys problemau ac optimeiddio ein cyfarpar, systemau a gwasanaethau llais ac ein amgylchedd fideo gynadledda.
•Dadansoddi problemau cysylltiadau llais a’u datrys drwy gydweithio gyda’r Ddesg Gymorth a pheirianwyr rhwydwaith ac/neu cyflenwr y cysylltiad / system deleffoni
•Disgwylir i’r peiriannydd fod yn bwynt cyswllt rhwng y Cyngor a’r cwmni sy’n darparu’r system llais.
•Bydd gan y peiriannydd wybodaeth sylfaenol ynglŷn â cyfathrebu data a rhwydweithio cyfrifiaduron. Bydd y peiriannydd yn gorfod ymgymryd a peth o lwyth gwaith y tîm rhwydwaith o dro i dro.
•Sicrhau y glynir wrth Fethodoleg Datblygu Sustemau Cyngor Gwynedd a sicrhau bod pob pecyn gwaith yn cael ei gyflawni ar amser, o fewn y gyllideb ac yn unol â’r fanyleb.
•Sicrhau y cefnogir y maes TGCh yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sydd wedi’i nodi.
•Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer.
•Bod yn gyfrifol am sicrhau bod offer a sustemau TGCh y Cyngor yn gweithio bob amser.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
•Gall fod yn arweinydd technegol ar gyfer timau prosiect sy’n canolbwyntio ar dechnoleg.
•Bod yn fentor i beirianwyr rhwydwaith iau.
Cyllid:
•Yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chyfyngiadau prosiect/contract cefnogi.
•Archwilio mentrau bychain/canolig
Data/Offer/Meddalwedd:
•Teleffonau
•Systemau llaisbost
•Systemau cyfathrebu unedig
•System llais y ganolfan gyswllt
•Systemau adrodd ar ddefnydd systemau llais a fideo
•Bod â mewnbwn i agweddau technegol y rhwydwaith sydd ag effaith ar y Cyngor i gyd ac sy’n cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd (a gwneud penderfyniadau yn eu cylch).
•Rhoi cefnogaeth ar gyfer y rhwydwaith sy’n hanfodol i waith beunyddiol y Cyngor a hefyd i gymwysiadau a ddefnyddir gan y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi problemau, eu datrys a’u hosgoi.
•Yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb data sy’n hanfodol i’r Cyngor.
•Cysylltu gydag unigolion/cyrff allanol i ddatrys materion.
•Sicrhau bod yr holl ddogfennau sy’n berthnasol i’r rhwydwaith yn cael eu diweddaru pan fo newidiadau’n cael eu gwneud i bob elfen sy’n gysylltiedig a’r cyfarpar TG.
Prif Ddyletswyddau.
Tasgau gweithredol, penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
•Rhoi cymorth technegol i eraill.
•Addysgu aelodau iau o staff yn rheolaidd a rhoi arweiniad iddynt.
•Rhoi mewnbwn i syniadau newydd/arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleon newydd o fewn ei swyddogaeth ei hun ac o fewn i’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd.
•Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod elfennau o brosiectau’n cael eu cwblhau ar amser, y tu mewn i’r gyllideb ac i’r safonau disgwyliedig.
•Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau.
•Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch.
•Mewnbwn i bolisïau a gweithdrefnau, efallai y bydd gofyn iddo/iddi eu cofnodi.
•Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i sustemau TGCh y Cyngor.
•Gosod a chefnogi isadeiledd llais a fideo gynadledda ac unrhyw feddalwedd cysylltiedig.
•Ffurfweddu, profi, gosod, cynnal, monitro a datrys unrhyw broblemau i wneud ag offer defnyddwyr, teleffonau, offer fideo gynadledda, llaisbost, system llais y ganolfan gyswllt (a’i ryngwynebau).
•Deall holl systemau adrodd i wneud a llais a fideo, cynhyrchu adroddiadau angenrheidiol fel y mae’r galw.
•Cofnodi bob cysylltiad llais sydd gan y Cyngor.
•Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
•Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.
•Cydweithio gydag adrannau eraill y Cyngor i hwyluso unrhyw newid sy’n cael ei wneud i ffurfweddiad eiddo’r Cyngor neu symudiad a’r staff y Cyngor o un darn o’r eiddo i’r llall.
Cyfathrebu:
•Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at yr uwch reolwyr.
•Cofnodi gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu gyda defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
•Datblygu manylebau cysyniadol a thechnegol.
•Cynrychioli’r adran TGCh mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor ac yn allanol o bryd i’w gilydd.
Sgiliau a Gwybodaeth:
•Yn brofiadol mewn cefnogi, cynnal a rhwydweithiau
•Yn awdurdod technegol / arbenigwr ar faes penodol o’i (d)dewis.
•Gwybodaeth a gallu mewn peirianneg rhwydwaith a bod â gwybodaeth am dechnoleg ymylol, meddalwedd ac arferion gwaith.
•Yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes arbenigedd
•Medru cyfathrebu mewn modd technegol ac annhechnegol
•Gwybodaeth am y cylch datblygu sustemau
•Sgiliau cofnodi cadarn
•Yn rhagweithiol wrth barhau i ddysgu am y diweddaraf mewn diwydiant cymhleth sy’n newid yn gyflym
Arall:
•Medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd.
•Gweithio ar sawl tasg yr un pryd.
•Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt.
Cyffredinol:
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.