Swyddi ar lein
Cynorthwydd Swyddfa Prosiect
£22,369 - £24,054 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25011
- Teitl swydd:
- Cynorthwydd Swyddfa Prosiect
- Adran:
- Cyllid
- Gwasanaeth:
- Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid
- Dyddiad cau:
- 01/06/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £22,369 - £24,054 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS4
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y (Pecyn Gwybodaeth)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Karen Ann Jones ar 01286 679771.
Cynnal cyfweliadau ar ddyddiad i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymruDYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 01/06/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Person trefnus sy’n gweithio’n annibynol ac fel rhan o dim
Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben ei hun ac fel rhan I dîm
Yn gorfforol abl i allu cario cyfarpar a all fod yn drwm/swmpus
Person amyneddgar pan yn delio a phobl
Y gallu i weithio o dan bwysa
Dymunol
Yn barod i ddysgu sgiliau newydd
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Lefel Addysg Dda
Dymunol
Cymhwyster ECDL
Profiad perthnasol
Hanfodol
Y gallu i weithio yn hyblyg ac o dan bwysa
Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
Profiad o ddefnyddio systemau cyfrifiadurol amrywiol
Profiad eang o greu a diweddaru taenlenni Excel
Profiad eang o ddefnyddio pecyn Microsoft Word
Profiad o baratoi archebion, prosesu anfonebau a derbyn nwyddau
Profiad o weithio mewn Tim
Dymunol
Profiad o negodi prisiau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Medru datrus problemau yn rhesymegol
Medru gweithio ar sawl tasg yr un pryd
Medru gwneud penderfyniadau gan defnyddio ei ben/phen ai bastwn/phastwn ei hun
Rheoli llwyth gwaith cymleth er mwyn sicrhau y cyrheddir targedau lefel gwasanaeth
Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda defnyddwyr a chyflenwyr allanol
Dymunol
Gwybodaeth am systemau a gweithdrefnau ariannol Cyngor Gwynedd
Gwybodaeth elfennol am gyfarpar TG
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol wrth brynu TGCh ledled Gwynedd
•Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle gall TGCh roi gwell Gwerth am Arian o ran prynu, contractau a gwasanaethau i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwella Gofal Cwsmer.
•Sicrhau y cefnogir gofynion gweithredol TG yr awdurdod o ran argraffu, diogelu sustemau gwybodaeth a gwasanaethau cyffredinol.
•Bod yn gyfrifol am sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu rheoli a’u bod yn rhoi gwerth gorau. Datrys problemau fel bo’n briodol a rheoli agweddau o reoli newid, problemau a ffurfwedd.
•Sicrhau bod deall y contractau’n iawn ac y cânt eu logio’n ganolog yn yr uned TGCh a’u bod yn unol â pholisïau a threfniadaethau
•Gweithio fel rhan o dîm i sicrhau y cwblheir Prosesau Cefnogi a Methodoleg Sustemau’r Cyngor o fewn yr amser y cytunwyd arno ac yr edrychir i mewn i wahaniaethau a rhoi gwybod amdanynt yn syth.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Cyllid
•Mewnbwn i’r gwaith o adolygu prosesau a chontractau i adnabod a gwireddu ffyrdd o weithio’n fwy cost effeithiol
•Yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chyfyngiadau contractau cefnogi.
•Rhoi’r gwerth cyllidol gorau i’r Cyngor ar bopeth a brynir ac ar gontractau
•Cymryd cyfrifoldeb am gysylltu gyda chyflenwyr allanol yng nghyswllt yr holl faterion cyllidol.
Data/Offer/Meddalwedd
•Rhoi cefnogaeth ar gyfer y maes TGCh ar yr holl faterion sy’n ymwneud ag offer a brynir.
•Cysylltu gyda chyflenwyr allanol i ddatrys materion
•Darparu a chynnal data (a diogelu offer) yn unol â pholisïau a gweithdrefnau
Prif ddyletswyddau
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL
Gwenud penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
•Derbyn e-byst ac archebion mewnol yng nghyswllt gwasanaethau, problemau a cheisiadau am newidiadau
•Categoreiddio, cofnodi a blaenoriaethu archebion, talu anfonebau a datrys unrhyw broblemau yn eu cylch
•Cymryd cyfrifoldeb am restr o galedwedd newydd, rheoli stoc, meddalwedd a perifferolion a brynir a sicrhau (lle bo’n briodol) bod eitemau’n cael eu trosglwyddo’n ddiogel i ddefnyddwyr.
•Cyfrifoldeb dros sicrhau bod ceisiadau gwaith swp sy’n rhedeg yn ganolog yn cael eu cwblhau’n gywir ac yn unol â thargedau lefel gwasanaeth y cytunwyd arnynt
•Cyfrifoldeb dros gynhyrchu a rheoli pob tasg argraffu sy’n gysylltiedig a deunydd swyddfa diogel
•Cyfrifoldeb dros sicrhau bod y cyfrwng wrth gefn ar gael ar gyfer diogelu data’n electronig a rheoli’r gwaith o storio’r cyfrwng ar y safle ac oddi arno.
•Cyfrifoldeb dros drosglwyddo data electronig i BACS.
•Rheoli gwaith cysoni Cyfrifon Dal, Stoc a Chyllidol diwedd blwyddyn TGCh, croniadau a thaliadau ymlaen llaw sy’n ymwneud ag archebion a gwasanaethau
•Bod yn gyfrifol am wneud penderfyniad i sicrhau bod elfennau prosiectau, ceisiadau a phroblemau gwasanaethau yn cael eu cwblhau/datrys ar amser, y tu mewn i’r gyllideb ac i safon ddisgwyliedig.
•Derbyn galwadau ffôn ac e-byst oddi wrth staff y Cyngor ynghylch problemau neu wasanaethau
•Categoreiddio, cofnodi, trosglwyddo, datrys (lle bo’n briodol) y broblem neu’r gwasanaeth.
•Rhoi mewnbwn i syniadau newydd/arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleon newydd o fewn ei swyddogaeth ei hun ac o fewn i’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd.
•Rheoli llwyth gwaith cymhleth er mwyn sicrhau y cyrhaeddir targedau lefel gwasanaeth.
•Rhoi cymorth technegol mewn meysydd penodol i eraill yn y tîm
•Mewnbwn sylweddol i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch
•Mewnbwn sylweddol i bolisïau a gweithdrefnau. Efallai y bydd gofyn iddo/iddi eu cofnodi.
Cyfathrebu:
•Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda defnyddwyr a chyflenwyr allanol.
•Cofnodi gofynion/ canfyddiadau’n glir trwy gysylltu gyda staff allanol neu/a mewnol.
•Cynrychioli’r Uned TGCh mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol.
•Rhoi cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr a staff TGCh.
•Cydymdeimlo ag anghenion a disgwyliadau defnyddwyr.
•Angen delio gyda chydymdeimlad gyda staff pan na chyrhaeddir targedau gwaith y cytunwyd arnynt
•Angen medru defnyddio sgiliau negodi er mwyn cael y prisiau gorau.
•Rhoi gwybod yn gryno i ddefnyddwyr am y sefyllfa bresennol yng nghyswllt statws archebion.
•Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer defnyddwyr ac eraill yn yr adran technoleg pan weithredir ar archebion a dderbynnir.
Arall:
•Medru datrys problemau yn rhesymegol.
•Medru gweithio ar sawl tasg yr un pryd
•Medru gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio ei ben/phen a’i bastwn/phastwn ei hun.
•Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt
•Medru dadansoddi data, tueddiadau a phrosesu sgiliau cofnodi da.
•Medru llunio adroddiadau o wahanol ffynonellau a medru cyfathrebu canfyddiadau’n effeithiol.
Mae'r swydd ddisgrifiad uchod yn disgrifio pwrpas pennaf a'r prif elfennau y swydd. Mae'n ddarlun o natur a phrif ddyletswyddau y swydd fel mae'n bodoli yn bresennol, ond ni fwriedir iddo fod yn ddarlun holl-gynhwysfawr ac nid yw yn rhan o'r cytundeb cyflogaeth.
Cyffredinol:
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.