Swyddi ar lein
Athro/Athrawes Addysg Gorfforol - Ysgol Uwchradd Tywyn - Cyf: 23-24972
£29,278 - £45,085 y flwyddyn | Dros dro (cyfnod mamolaeth)
- Teitl swydd:
- Athro/Athrawes Addysg Gorfforol - Ysgol Uwchradd Tywyn
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 23/05/2023 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro (cyfnod mamolaeth)
- Cyflog:
- £29,278 - £45,085 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Ysgol Uwchradd Tywyn
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL UWCHRADD TYWYN
(Cyfun 11 - 16: 365 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1AF O FEDI 2023
ATHRO/ATHRAWES ADDYSG GORFFOROL (DROS DRO)
(SWYDD DROS GYFNOD MAMOLAETH)
Swydd dros dro yw hwn yn ystod cyfnod mamolaeth un o athrawon yr ysgol. Daw'r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i’w gwaith.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol i addysgu Addysg Gorfforol i ddisgyblion CA3 a CA4. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canolbwyntio’n bennaf ar addysgu agweddau’r pwnc i ferched.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£29,278 - £45,085) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd yma. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr David Thorp.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael Lynsey Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Uwchradd Tywyn, Ffordd yr Orsaf, Tywyn, Gwynedd, LL36 9EU (Rhif Ffôn: 01654 710256; Ffacs: 01654 711815). Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DDYDD MAWRTH, 23AIN O FAI, 2023.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
(This is an advertisement for the post for a Physical Education Teacher (Maternity Cover) at Ysgol Uwchradd Tywyn for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential The Council will require a Disclosure and Barring Service disclosure and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Manylion Person
Teitl y Swydd Athro /Athrawes Addysg Gorfforol (Mamolaeth) Ysgol Uwchradd Tywyn
Adran Addysg
Lleoliad Ysgol Uwchradd Tywyn
GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD
CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU
• Gradd Anrhydedd
• Statws athro wedi cymhwyso
GWYBODAETH A SGILIAU
• Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol
• Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd ac uwchradd
• Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau hunan-arfarnu a dealltwriaeth gyflawn o bwrpas cynllun busnes yr ysgol
• Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy’n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb
• Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
• Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd
• Deall gofynion cynllunio ariannol strategol, rheolaeth gyllidebol ac egwyddorion gwerth gorau.
• Meddu ar wybodaeth dda o’r cwricwlwm ehangach tu hwnt i’r ysgol a’r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol
• Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o’r Iaith Gymraeg/Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgolPROFIAD
• Tystiolaeth o brofiad cyson a perthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth
• Profiad o ddatblygu strategaethau addysgu a dysgu effeithiol
• Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill
• Tystiolaeth o weithio’n effeithiol gyda llywodraethwyr
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
• Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at y broses ddysgu
• Hawdd mynd ato/ati a gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill
• Gallu arddangos yn glir i ba gyfeiriad mae’r ysgol yn mynd
• Parod i gydweithio ag asiantaethau eraill er lles disgyblion, teuluoedd a’r gymuned
• Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg
ANGHENION Y BUASAI’N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD
• Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
ATODIAD I SWYDD DDISGRIFIAD: ATHRO / ATHRAWES ADDYSG GORFFOROLSafonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth - wedi eu haddasu gan yr ysgol
Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
• Iaith a Diwylliant Cymru
Mae’r athro yn pwysleisio’n gyson ei bod yn hollbwysig hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ym mhob maes dysgu ac achubir ar bob cy e i ymestyn sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
• Hawliau Dysgwyr
Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn ymagwedd yr athro at ei swydd. Mae gan yr athro ddisgwyliadau uchel ac ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni.
• Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
Mae’r athro yn pwysleisio’n gyson bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn hollbwysig. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ym mhob maes dysgu ac achubir ar bob cy e i ymestyn sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
• Dysgwyr Proffesiynol
Mae’r athro yn ddysgwr proffesiynol ac yn ymrwymo i ddatblygu, cydweithredu ac arloesi’n barhaus drwy gydol ei yrfa.
• Rôl yn y System
Mae’r athro yn ymrwymedig i ddysgwyr ym mhob man ac mae’n chwarae rhan ddylanwadol wrth ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
• Hawl Broffesiynol
Mae gan yr athro hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy’n ystyried ei hun yn sefydliad dysgu. Mae gan yr athro yr ymreolaeth i gyfrannu at y proffesiwn yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang ac mae ganddo’r hawl i ddechrau a chefnogi gwelliannau i’r ysgol er budd dysgwyr.
Y Pum Safon Proffesiynol ar gyfer addsygu ac arweinyddiaeth
• Addysgeg…mae’n holl bwysig
• Arweinyddiaeth…helpu i dyfu
• Dysgu Proffesiynol…mynd yn ddyfnach
• Arloesi…symud ymlaen
• Cydweithredu…galluogi lledaenuSafon Elfennau
ADDYSGEG
Mireinio Addysgu Rheoli’r amgylchedd dysgu
Asesu
Gwahaniaethu
Cofnodi ac Adrodd
Cynnwys Partneriaid mewn dysgu
Hyrwyddo Dysgu Pedwar diben i ddysgwyr
Ymelwa ar ddisgyblaethau pynciol mewn meysydd dysgu
Profiadau dysgu cyfunol
Cyd-destunau bywyd go iawn dilys
Dilyniant mewn dysgu
Themau trawsgwricwlaidd
Dylanwadu ar Ddysgwyr Herio a disgwyliadau
Gwrando ar ddysgwyr
Dysgwyr yn arwain dysgu
Ymdrech barhaus a gwydnwch dysgwyr
Myfyrio ar ddysgu
Deilliannau dysgu a lles
CYDWEITHREDU Ceisio cyngor a chymorth
Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol
Cefnogi a datblygu eraill
Galluogi gwelliannau
DYSGU PROFFESIYNOL Darllen ehangach a chanfyddiadau ymchwil
Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol
Dysgu proffesiynol parhaus
Sgiliau Cymraeg
ARLOESI Cynnig arbenigedd
Datblygu technegau newydd
Gwerthuso effaith newid mewn ymarfer
ARWEINYDDIAETH Cymryd cyfrifoldeb personol
Arfer cyfrifoldeb corfforaethol
Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni
Cefnogi rolau arweinyddiol ffurfiol
Swydd Ddisgrifiad
Swydd: ATHRO/ATHRAWES ADDYSG GORFFOROL
Amcan/Pwrpas: • I weithredu a chyflwyno cwricwlwm eang, cytbwys perthnasol a gwahaniaethol fydd yn addas i’r disgyblion, a chefnogi cwricwlwm penodedig fel bo’n addas.
• I fonitro a chefnogi cynnydd a datblygiad cyflawn y ddisgyblion fel athro/athrawes ddosbarth.
• I hwyluso ac hybu y profiad o ddysgu fydd yn rhoi i’r ddisgyblion y cyfle i gyrraedd eu potensial fel unigolion.
• I gyfrannu tuag at godi safonau cyrhaeddiad y ddisgyblion.
• Rhannu a chefnogi cyfrifoldeb yr ysgol i gyflwyno ac i fonitro cyfleon i ddisgyblion lwyddo’n bersonol ac yn academaidd.
Yn adrodd yn ôl i: Y Pennaeth Adran
Yn gyfrifol am: Ddarpariaeth o brofiadau dysgu llawn a chefnogi y ddisgyblion.
Cysylltu â: Pennaeth/Dirprwy Bennaeth, staff dysgu a chefnogi, cynrychiolwyr yr AALl, asiantaethau allanol a rhieni.
PRIF DDYLETSWYDDAU/DYLETSWYDDAU CRAIDD
Cynllunio Gwerthredol a strategol: • Cynorthwyo i ddatblygu meysydd llafur addas, adnoddau, cynlluniau gwaith, polisiau marcio a dysgu strategaethau yn y Cwricwlwm ac yn yr Adran.
• Cyfrannu tuag at y Cwricwlwm a chynllun datblygu yr Adran a’i weithredu.
• Cynllunio a pharatoi cyrsiau a gwersi.
• Cyfrannu tuag at gynllunio gweithgareddau yr ysgol gyfan.
Darpariaethy Cwricwlwm: • I gynorthwyo y Pennaeth Adran, i sicrhau fod y Cwricwlwm yn cynnig ystod eang o ddysgu fydd yn cydfynd ac amcanion yr ysgol.
Datblygu y
Cwricwlwm: • I gynorthwyo yn y broses o ddatblygu a newid y Cwricwlwm fel ag i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer anghenion y disgyblion, cyrff archwilio o dyfarnu a Chynllun Datblygu yr ysgol.
StaffioDatblygiad Staff:Recriwtio/Datblygiad Staff • Cymryd rhan yn rhaglen datblygu staff yr ysgol, drwy rannu yn y trefniadau ar gyfer hyfforddi pellach a datblygiad profesiynol.
• Parhau i ddatblygu’n bersonol mewn ardaloedd addas gan gynnwys gwybodaeth o bwnc a dulliau dysgu.
• Cymryd rhan weithredol yn y broses o Adolygu Rheoli Perfformiad.
• Sicrhau y defnydd effeithiol ac effeithlon o gefnogaeth yn y dosbarth.
• Gweithio fel aelod o dîm penodedig, ac i gyfrannu yn bositif i berthynas effeithiol a gweithgar oddifewn i’r ysgol.
Sicrhau Ansawdd: • Helpu i weithredu dulliau ansawdd yr ysgol a chadw atynt.
• Cyfrannu tuag at y broses o fonitro a gwerthuso datblygiad y cwricwlwm/yr adran, i gydfynd â dulliau cytun yr ysgol, yn cynnwys gwerthuso yn ôl safonnau ansawdd a pherfformiad.
• I geisio/cario allan newidiadau a gwelliannau fel bo’r angen.I arolygu o dro i dro, y dulliau dysgu a rhaglenni gwaith.
• I gymryd rhan, fel bo’r angen, yn yr arolygu, datblygiad a rheolaeth y gweithgareddau sydd yn gysylltiedig â’r cwricwlwm, trefniant a gweithgarwch bugeiliol yr ysgol.
Gwybodaeth Rheoli: • I gadw cofnodion addas a chynnig gwybodaeth gywir, manwl, a chyfoes i’r MIS, cofrestrau, ayyb.
• I gwblhau y dogfennau perthnasol i gynorthwyo yn y dasg o fonitro y disgyblion.
• I fonitro cynnydd y disgyblion a defnyddio yr wybodaeth i roi gwybod am y dysgu a’r addysgu.
Cyfathrebu: • I gyfathrebu yn effeithiol gyda rhieni y myfyrwyr fel bo’n addas.
• Fel bo’n addas, i gyfathrebu a chydweithio gyda phobl neu sefydliadau y tu allan i’r ysgol.
• I ddilyn y polisiau cytunedig ynglyn â chyfathrebu oddifewn i’r ysgol.
Marchnata a
Chysylltiadau: • Cymryd rhan mewn gweithgareddau marchnata a chysylltiadau fel Nosweithiau Agored Rhieni, dyddiau Arolygu a digwyddiadau i gysylltu gydag ysgolion mewn partneriaeth.
• I gyfrannu tuag at ddatblygu cysylltiadau pynciol effeithiol gydag asiantaethau allanol.
Rheoli Adnoddau: • I gyfrannu tuag at y broses o archebu a dosbarthu cyfarpar ac adnoddau.
• I gynorthwyo y Pennaeth Adran i benderfynu ar anghenion adnoddau a chyfrannu tuag at y defnydd effeithiol/effeithlon o adnoddau materol.
• I gydweithio gyda’r staff i sicrhau defnydd effeithiol a’r rhaniad teg o’r adnoddau, er lles yr ysgol, adran a‘r disgyblion.
• I werthuso a monitro cynnydd y myfyrwyr a chadw y cofnodion diweddaraf fel bo’r angen.
• I gyfrannu tuag at baratoi ‘Action Plus’, a ffeiliau cynnydd, ac adroddiadau eraill.
• I sicrhau fod y staff addas yn effro i’r problemau sydd gan y disgyblion, ac i argymell ffyrdd o ddatrys y rhain.
• I gyfathrebu, fel bo’n addas, gyda rhieni y disgyblion a chyda phobl a chyrff tu allan i’r ysgol sydd â wnelo â lles y disgyblion unigol, wedi cysylltu gyda’r athrawon pwrpasol.I gyfrannu i ABaCh, Dinasyddiaeth a Menter yn ôl polisi yr ysgol.
• I weithredu sustemau rheoli ymddygiad, fel bo dysgu effeithiol yn cymryd lle.
Dysgu: • I ddysgu disgyblion yn ôl eu hangen addysgol, gan gynnwys gosod a marcio gwaith wneir gan y disgyblion yn yr ysgol a thu allan.
• I asesu, cofnodi ac adrodd ar bresenoldeb, cynnydd, datblygiad a chyrhaeddiad disgyblion, a chadw cofnodion fel bo’r angen.
• I gynnig, neu gyfrannu, tuag at asesu ar lafar, neu yn ysgrifenedig, roi adroddiadau a chyfeirnodau sydd yn berthnasol i’r disgyblion yn unigol ac fel grwp.
• I sicrhau bod TGC, Llythrennedd a Rhifedd ac arbenigedd pwnc, yn cael ei adlewyrchu yn y profiad o ddysgu/addysgu y disgyblion.
• I gario allan rhaglen dysgu penodedig.I sicrhau profiad dysgu o ansawdd uchel i’r myfyrwyr - fydd yn cwrdd â safonau ansawdd mewnol ac allanol.
• I baratoi a diweddaru adnoddau pwnc.
• I ddefnyddio gwahanol ddulliau o gyflwyno gwersi, fydd yn hybu y dysgu sydd yn addas i anghenion y disgyblion a gofynion y maes llafur.
• I gadw a chynnal disgyblaeth yn ôl dulliau yr ysgol, a hybu ymarfer da lle bo prydlondeb, ymddygiad, safonau gwaith a gwaith cartref yn y cwestiwn.
• I gario allan asesu y disgyblion yn ôl gofynion cyrff arholi allanol, amodau yr adran a’r ysgol.
• I farcio, graddio a rhoi adborth diagnostig yn ysgrifenedig ac yn llafar fel bo’r angen.Dyletswyddau Penodol Ychwanegol:
• I gymryd rhan gyflawn ym mywyd cymunedol yr ysgol, i gefnogi ei bwriadau pendant ac ethos yr ysgol, ac i annog y staff a’r disgyblion i ddilyn yr esiampl yma.
• I gefnogi yr ysgol i gwrdd â gofynion y deddf ynglyn âg addoli ar y cyd.
• I hybu yn ymarferol, bolisiau yr ysgol fel corff.
• I barhau gyda datblygiad personol yn ôl y cytundeb.
• I gydfynd â pholisi yr ysgol ynglyn ag Iechyd a Diogelwch a chydymffurfio ag Asesu Risg, fel bo’r angen.
• I ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall, yn ôl gofynion y Tîm Rheoli - nad sydd ar y rhestr uchod.
• I hyrwyddo dwyieithrwydd fel modd o ddatblygiad personol a phroffesiynol.Tra gwneir pob ymdrech i egluro prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd, nid yw’n bosibl i fanylu ynglyn â phob tasg wneir.
Disgwylir i’r cyflogedig i gydfynd âg unrhyw gais rhesymol gan reolwr i wneud gwaith tebyg, ond heb ei olrhewnio yn y disgrifiad yma.
Disgwylir i’r cyflogedig i fod yn gwrtais tuag at ei gydweithwyr, a chynnig amgylchfyd groesawgar i ymwelwyr â’r rhai sydd yn ffonio.
Bydd yr ysgol yn ceisio gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r swydd a’r amgylchfyd gwaith, i greu cyfleon gwaith i’r anabl fydd yn cynnig am swydd neu i sicrhau parhad y gwaith i unrhyw un fydd yn cael ei hun yn y sefyllfa yma.
Mae’r swydd ddisgrifiad yma yn bodoli ar hyn o bryd, ond yn dilyn trafodaeth gyda chi, gall y Tîm Rheoli ei newid i adlewyrchu neu rhagweld newidiadau yn y swydd, fydd yn cydfynd â’r cyflog a teitl y swydd.
Dyddiad 05/05/2023