Swyddi ar lein
Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant
£52,860 - £60,668 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-24971
- Teitl swydd:
- Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant
- Adran:
- GwE - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol
- Dyddiad cau:
- 25/05/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £52,860 - £60,668 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
                        YMGYNGHORYDD CEFNOGI GWELLIANT: UWCHRADD/CYNRADD
Cyfle am swydd barhaol neu secondiad.
Swydd parhaol - Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
CYFLOG: Graddfa Soulbury EIP 13-16 (+ 3 SPA) £52,860 - £56,831 (+ 3 SPA £60,668)
Lleoliad: i’w gadarnhau - yn un o’r 3 swyddfa rhanbarthol GwE (Caernarfon, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug
Secondiad ar delerau ac amodau presennol - rhaid i'r Corff Llywodraethu gytuno cyn i chi ymgeisio. 
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo. 
Bydd cyfleoedd i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn tîm i gefnogi ysgolion ar draws y continwwm 3 i 18. Bydd yn gweithio gydag ysgolion i gefnogi pob agwedd ar wella ysgolion gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth gydag amrywiol randdeiliaid. 
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion fyddai yn gallu gweithredu fel Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant cyswllt  [cynradd neu uwchradd] NEU fyddai’n gallu cyfrannu yn ranbarthol ar un neu fwy o’r agweddau canlynol:
- Llythrennedd traws ysgol [uwchradd]
- Saesneg [uwchradd]
- Arbenigedd MDaPh – Celfyddydau Mynegiannol
- Arbenigedd MDaPh – Dyniaethau [uwchradd]
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 25 Mai 2023
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag:
- Elfyn Jones, Uwch Arweinydd Uwchradd (07557759240 / elfynjones@gwegogledd.cymru)
- Euros Davies Uwch Arweinydd Cynradd (07580706766 / eurosdavies@gwegogledd.cymru ).
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
                | MEINI PRAWF | HANFODOL | 
| Cymwysterau | 
 | 
| Profiad | 
 mewn ysgol. 
 [i] sicrhau lefelau uchel o gysondeb yn ansawdd addysgu a dysgu; a [ii]gyrru gwelliant mewn safonau. 
 | 
| Gwybodaeth | 
 | 
| Gwerthoedd a chredoau | 
 | 
Swydd Ddisgrifiad
                Teitl y Swydd:                    Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant
Graddfa:                              Graddfa Soulbury EIP 13 – 16 (+ 3 SPA) 
 
 
Pwrpas cyffredinol y Swydd  
Bydd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant yn meddu ar lefelau sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a fydd yn gallu cynnig atebion cyflym a phendant i broblemau ac yn mynnu safonau uchel ymhob agwedd ar ei (g)waith.
Disgwylir i’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant weithio o fewn cyd-destun gwerthoedd a nodau hir dymor strategol y gwasanaeth, ynghyd â’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Ymgynghorwyr er mwyn:
 
- sicrhau bod pob ysgol yn deall ac yn cyflawni ei dyletswyddau;
- cynnig cefnogaeth briodol i ysgolion er mwyn hyrwyddo gwelliant drwy gasglu, dadansoddi a hysbysu a rhoi tystiolaeth ynghylch data;
- sicrhau bod gweithredu yn cefnogi gwelliant ysgol gyfan ac yn mynd i’r afael â lleihau amrywiaethau mewn perfformiad, oddi fewn, ac ar draws ysgolion;
- adnabod a chytuno ar strategaethau i gefnogi gwelliant trwy’r ysgol gyfan;
- sicrhau bod gweithredu effeithiol yn digwydd wrth fonitro a herio gwaith rheoli adnoddau ysgolion er mwyn sicrhau y caiff adnoddau eu cyfeirio i sicrhau y caiff ddisgyblion well canlyniadau;
- darparu cyngor ac argymhellion wrth benodi penaethiaid, rheoli eu perfformiad, mentora a meysydd eraill mewn datblygiad proffesiynol;
- sicrhau y caiff pob ysgol arweiniad a chefnogaeth effeithiol ar weithgareddau cyn ac ôl-arolygiad;
- sicrhau bod mesurau priodol i alluogi Llywodraethwyr ysgol i fod â swyddogaeth heriol gref briodol;
- cyfrannu’n uniongyrchol, neu drwy gefnogaeth a gaiff ei chomisiynu fel y bo’n briodol, i ddatrys materion ysgol penodol sy’n gysylltiedig â materion pwnc/cwricwlwm.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Penodol
Bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant yn ymwneud â chynnig cefnogaeth a gosod her broffesiynol ym meysydd:
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth Ysgol, trwy
- Gefnogi a rhoi arweiniad i ysgol er mwyn sicrhau y caiff ei gweledigaeth, ei hethos a’i phwrpas moesol eu cyd-rannu gan yr holl staff a rhai sydd â diddordeb yn hyn.
- Cefnogi a gosod her i ysgol wella’r arfer o hunan-arfarnu effeithiol a chynllunio gwella ysgol.
- Dadansoddi a defnyddio data i farnu perfformiad a herio’r ysgol i osod targedau uchelgeisiol ond realistig.
- Rhoi adborth positif y gellir seilio gwelliannau i’r dyfodol arno.
- Dysgu ac Addysgu yn y Dosbarth (Addysgeg), trwy
- Roi cefnogaeth a chyngor ar ddulliau dysgu, addysgu a sgiliau, ac ar arfarnu ansawdd y dysgu a’r addysgu.
- Nodi arferion dysgu ac addysgu effeithiol y gellir eu cyd-rannu o fewn, ac ar draws rhwydweithiau.
- Cydlynu Cefnogaeth Gwricwlwm, trwy
- Osod her a chefnogaeth strategol i strategaethau Datblygu Polisi, Dysgu ac Addysgu a datblygu’r cwricwlwm (yn cynnwys o fewn meysydd pwnc penodol).
- Naill ai’n uniongyrchol, neu drwy gyfrwng cefnogaeth wedi ei chomisiynu fel sy’n briodol, cyfrannu tuag at ddatrys materion penodol sy’n ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â phwnc/cwricwlwm.
- Datblygu Pobl a’r Sefydliad, trwy gychwyn a chefnogi ymchwil gweithredol i arfer effeithiol gan roi cyngor ac arweiniad ynghylch gweithdrefnau ac arfer, arfarnu effeithiolrwydd DPP ac effaith rhwydweithiau ar arfer broffesiynol.
- Cefnogi Datblygiad Agweddau Disgyblion, trwy roi arweiniad ar hyrwyddo ethos gynhwysol a rhoi cymaint o gyfleoedd ag y bo modd i blant a phobl ifanc elwa o gysylltiadau ag asiantaethau eraill.
- Hyrwyddo Atebolrwydd Mewnol, trwy ddarparu canllawiau, cefnogaeth ac arfarnu trwy ddatblygu meini prawf sy’n ysgogi gweithdrefnau ymyrraeth o fewn yr ysgol gyfan, adrannau ac yn y dosbarth.
- Hyrwyddo cydweithio ffurfiol rhwng ysgolion er mwyn gweithredu arfer dda a rhagorol trwy hyrwyddo’r cysyniad o sefydliad sydd yn dysgu.
- Adnabod arfer dda a rhagorol i’w rhannu ar draws ysgolion.
Isafswm disgwyliadau ar gyfer y swydd
Bydd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant yn arddel yr isafswm disgwyliadau a nod y gwasanaeth er mwyn sicrhau:
- Arweinyddiaeth a rheolaeth dda yn ein hysgolion;
- Addysgu da ar draws ysgolion y rhanbarth;
- Gwaredu amrywiaeth o fewn ysgol;
- Dim un o ysgolion GwE i fod yng nghategorïau statudol Estyn;
- Dysgu a lles disgyblion yn dda, o leiaf, ym mhob ysgol;
- CiG yn ei le ym mhob ysgol.
Gwerthoedd personol ac ar gyfer y gwasanaeth
Bydd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant yn arddel y gwerthoedd canlynol:
- Parch;
- Ymddiriedaeth;
- Lles;
- Arloesi ac ysbrydoli;
- Cefnogi a chydweithio;
- Cymru a’r Gymraeg;
Ffactorau Ychwanegol
- Gall natur y gwaith olygu bod deilydd y swydd yn cyflawni gwaith tu allan i oriau gwaith arferol.
- Efallai bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd fynychu, o dro i dro, cyrsiau hyfforddi, cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd eraill fel bo angen, yn unol â’i anghenion hyfforddiant ef neu hi ac anghenion y Gwasanaeth.
- Telir treuliau yn unol ag amodau lleol gwasanaeth.
- Bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cynnal archwiliad Estynedig ar Ddeilydd y Swydd i ganfod a gyflawnwyd unrhyw drosedd flaenorol.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y gwasanaeth.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Gwasanaeth yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Gwasanaeth. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
 
          

