Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo i ddarparu prosiectau a profiadau sy’n cynnig her a chyfleoedd dysgu i bobl ifanc, rhwng 11 ac 19 mlwydd oed, sy’n ymateb i’w hanghenion unigol a’u hanghenion fel grwp. Fe gynllunnir rhaglen i gynnal trawsfudiad y person ifanc i fyd oedolion drwy gynyddu eu sgiliau personol a chymdeithasol a thrwy hynny eu galluogi i ymwneud yn feirniadol ac adeiladol yn y gymuned y maent yn byw ynddi a’r gymdeithas ehangach. Bydd hyn yn ystod y dydd a`r gyda`r nos i gynnig gweithgareddau hwyl ar draws y sir
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Bydd yn gyfrifol am yr offer y bydd yn ei ddefnyddio ar y pryd
Prif ddyletswyddau
•Cyflwyno prosiectau a gweithagreddau i bobl ifanc yn eu cymunedau.
•Sicrhau bod pobl ifanc teimlo’n ddiogel, cael cefnogaeth, cael eu gwerthfawrogi, dysgu sut i gymryd rheolaeth dros eu bywydau gan adnabod a gwrthwynebu dylanwadau neweidiol all eu effeithio
•Cynorthwyo i drefnu rhaglen o Haf o Hwyl a chynnig gweithgareddu ym mhob rhan o`r sir – llogi, ac offer
•Cadw asesiad risg manwl o`r digwyddiadau
•Cadw at yr holl bolisiau perthnasol y cyflogwr a gofynion stadudol eraill, yn cynnwys Cyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch ac Amddiffyn Plant
•Mewnbynnu gwybodaeth angenrheidiol sydd ei angen am bobl Ifanc yn y system gasglu gwybodaeth sydd yn adrodd yn o li Llywodraeth Cymru
•Sicrhau bod llais person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a’i ddatblygu
•Mynychu cyfarfodydd staff yn ôl yr angen
•Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyngor
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Cyflogaeth:
JNC i Weithwyr Ieuenctid a Chymuned
Pwyntiau 5 – 9
Gwyliau Blynyddol:
Telerau JNC - 30 diwrnod o wyliau am y 5 mlynedd cyntaf ac yna 35 diwrnod ar ôl hynny (pro rata)
Lleoliad:
Gwasanaethu Dalgylch - Ar Draws Gwynedd
Oriau Gwaith:
Yr wythnos waith: 25 awr yr wythnos, i’w weithio fin nos ac ar benwythnosau, ac ar brydiau fe all fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol. Swydd dros dro o Gorffenaf hyd at ddiwed Medi 2022 yw hon
Oriau:
Yr oriau i gynnwys gwaith min nos ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl
Defnydd car:
Defnydd o gar a trwydded yrru llawn. Bydd deilydd y swydd yn cael ei ddynodi fel “defnyddiwr car achlysurol”
Ieithyddol:
Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg o’r cychwyn
Byddwch yn cael eich penodi i weithio yn eich dalgylch ond ar amgylchiadau arbennig bydd gofyn i chi weithio tu allan i’ch dalgylch
Mae’r swydd yn amodol ar gwblhau archwyliad llwyddiannus drwy’r Bwrdd Cofnodi Troseddau
Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ymhen blwyddyn i’r apwyntiad