ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BOTWNNOG
(Cyfun 11 - 16; 446 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1 Medi, 2023
ATHRO/ ATHRAWES CYMRAEG A PHYNCIAU AMRYWIOL
Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar. Bydd dysgu Cymraeg yn rhan allweddol o’r swydd, gyda’r gallu i ddysgu rhai pynciau eraill, yn bennaf i ddisgyblion CA3, yn hanfodol. Gofynnir i chi nodi pa feysydd eraill y buasech yn gymwys i’w dysgu ac i ba lefel yn eich llythyr cais.
Gellir ystyried swydd rhan amser i ymgeiswyr priodol a gallai’r swydd yma fod o ddiddordeb i athrawon cynradd sydd yn dymuno trosglwyddo i’r sector uwchradd.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£29,278 - £45,085) y flwyddyn yn ôl profiad a chymwysterau.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Dylan Minnice (Rhif ffôn 01758 730220) neu trwy e-bost: Dylan.MINNICE@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Ms. Nia Williams, Ysgrifenyddes, Ysgol Botwnnog, Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd (Rhif Ffôn:01758 730220; Ffacs:01758 730439; e-bost: Dylan.MINNICE@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DDYDD GWENER, 19 MAI, 2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma ar ddydd Mawrth, 23 Mai, 2023.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.