Pwrpas y Swydd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynnal Archwiliadau Strwythurau Priffyrdd Cyffredinol ac Archwiliadau Diogelwch Priffyrdd a Chyflwr Asedau yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru.
•Cynorthwyo i reoli'r rhaglen arferol cynnal a chadw strwythurau priffyrdd.
•Bodloni rhwymedigaethau ACGChC dan Adran 41, “Duty to maintain highways maintainable at public expense” ac Adran 58 “Special defence in action against a highway authority for damages for non-repair of Highway”, Deddf Priffyrdd 1980.
•Cynorthwyo’r Peiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau i weithredu gofynion Rheoliad 13 Endidau Archwilio Priffyrdd o ran asedau strwythurau priffyrdd dan Reoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd 2007 (fel y’i diwygiwyd yn 2009).
•Ymgymryd â’r swyddogaethau ar y ffordd ac yn y swyddfa sy’n gysylltiedig â rheoli asedau strwythurau priffyrdd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•Yr holl offer, cerbydau a systemau sy’n berthnasol i’r dyletswyddau
Prif Ddyletswyddau.
•Swyddogaeth Archwilio
•Cynnal archwiliadau yn cynnwys Archwiliadau Cyffredinol, Prif Archwiliadau ac Archwiliadau Arbenigol o strwythurau priffyrdd cefnffyrdd yn unol â Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WG-TRMM) a gofynion System Wybodaeth Ffyrdd Integredig Cymru (IRIS) a physt pontydd.
•Adnabod, asesu risg a blaenoriaethu diffygion WG-TRMM ac arwyddion anawdurdodedig.
•Cynnal archwiliadau (rhai wedi’u rhaglennu neu rai adweithiol), yn cynnwys y rhai a ganlyn:
•Pontydd dros ac o dan y ffordd
•Waliau cynnal
•Twneli
•Sianeli
•Cyfleusterau technoleg (elfennau adeileddol)
•Archwiliadau strwythurau amrywiol eraill, fel y cytunwyd arnynt gyda’r Uwch-beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau
•Creu gwybodaeth Archebion Gwaith am ddiffygion gydag amcan fesur fel sy’n ofynnol gan y meddalwedd cofnodi data archwilio yn system IRIS.
•Hysbysu’r Rheolwyr Llwybr Cynorthwyol, y Swyddogion Traffig, ACGChC neu’r Gwasanaethau Brys fel y gellir ‘cywiro a diogelu’ diffygion Categori 1 cyn gynted ag y bo’n briodol gwneud hynny.
•Archwilio, adnabod a chodi diffygion Adran 81 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd sy’n gysylltiedig ag ailosod gwasanaethau a chodi Archebion Gwaith am ddiffygion Categori 1 cysylltiedig er mwyn i Reolwyr Llwybrau Cynorthwyol / Awdurdodau Partner eu rheoli.
•Cysylltu â’r Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol ac/neu’r Awdurdodau Partner ynglŷn â chynnal archwiliadau ac unioni diffygion.
•Cynorthwyo'r Rheolwr Hawliadau Trydydd Parti a Rheolaeth Ddatblygu o ran ymdrin â hawliadau.
•Cynnal arolygon i greu gwybodaeth rhestr eiddo asedau gan fanylu ar asedau priffyrdd newydd a phresennol yn unol â Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi ar IRIS / system rheoli Strwythurau LlC, SMS.
Swyddogaeth Cynnal a Chadw Arferol
•Cynorthwyo’r Uwch Beirianwyr Cynnal a Chadw Strwythurau a’r Peirianwyr Cynnal a Chadw Strwythurau i reoli'r rhaglen arferol cynnal a chadw priffyrdd, yn cynnwys:
•Comisiynu a goruchwylio'r uned gweithrediadau ac adnoddau contractwr i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw arferol.
•Adnabod gofynion gwaith, monitro defnydd adnoddau ac awdurdodi taliadau contractwyr / Awdurdodau Partner yn unol ag Atodlen SOR ACGChC.
•Gweinyddiaeth Dechnegol RMMS (IRIS)
•Cofnodi, dilysu, golygu ac uwchlwytho data archwiliadau ac arolygon i mewn i’r system IRIS, gan gynnwys data archwiliadau arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth atodol ar gyfer cynhyrchu Archebion Gwaith Categori 1 (e.e. ffotograffau a mesurau rhagarweiniol).
•Darparu adroddiadau “diffyg heb ei ddatrys” a gwybodaeth atodol arall i’r Uned Weithredol yn ôl yr angen.
•Cynorthwyo’r Uwch-beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau gydag Adroddiadau Gweithredol neu Adroddiadau Asedau ad hoc yn seiliedig ar brosiect o arolygon, IRIS neu gronfeydd data eraill ar gyfer yr Uned Cyflawni ac Archwilio, yr Uned Fusnes, yr Uned Weithredol, Llywodraeth Cymru ac eraill.
•Cyffredinol
•Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan staff y darparwr gwasanaeth.
•Ymgymryd yn rhagweithiol ag amrediad eang o ddyletswyddau gweinyddol, yn cynnwys mewnbynnu data, ffeilio cyffredinol, llungopïo a phrosesu geiriau.
•Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
•Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol ar y safle neu yn y swyddfa.
•Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol o'r ACGCC.
•Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd ar gais y rheolwr llinell.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol
•Cydymffurfio ag agweddau iechyd a diogelwch y tîm Rheoli Strwythurau, yn cynnwys rheoli risg drwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel wedi’u sefydlu ac asesiadau risg gweithredol er enghraifft.
•Sicrhau yr ystyrir prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn llawn ym mhob agwedd o waith y Gwasanaeth Archwilio Asedau Priffyrdd megis rheoli traffig.
•Mae holl staff yr Asiant yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
•Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
•Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
•Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Parodrwydd i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn, er enghraifft archwiliadau gyda’r nos neu ar benwythnos o fewn rheoli traffig a Chau Twneli.
•Y gofyn i ymgymryd â hyfforddiant yn ôl yr angen gan roi ystyriaeth arbennig i faterion Iechyd a Diogelwch a hyfforddiant Archwilio Asedau Priffyrdd arbenigol.