Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Chwarae rôl ganolog ym mhob agwedd o’r gwaith sydd yn gysylltiedig â rhedeg prosiectau blaenoriaeth y Cyngor, gan arwain, cyflawni, rheoli a pherchnogi prosiectau sy’n rhan o’r Cynllun Ffyniant Bro Llewyrch o’r Llechi. Mae’r Cynllun yn ymgorffori ystod o ymdrechion ac ymarraethau i uchafu y budd o ddynodiad Safle Treftadaeth Byd y Dyffrynoedd Llechi i’r cymunedau.
• Cyfrannu at prosiectau blaenoriaeth yr Adran Economi a Chymuned, gan arwain, cyflawni, rheoli a pherchnogi prosiectau sydd yn rhan o Fframwaith Adfywio Gwynedd a’r Cynlluniau Ardal. Hynny trwy ystyriaeth lawn o adnoddau, polisïau a blaenoriaethau’r Cyngor a datblygiadau perthnasol ar y lefel ranbarthol, genedlaethol a Phrydain.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Rheoli, monitro ac adrodd ar gyllidebau prosiectau yn ogystal â monitro gwaith prosiectau gan wahanol rhan-deiliaid
Prif Ddyletswyddau.
• Rheoli Cynllun Llewyrch o’r Llechi, yn gyfrifol am reolaeth prosiect o ddydd-i-ddydd, gan adrodd i’r Bwrdd Prosiect ac yn atebol i’r Rheolwr Rhaglen.
• Cyflawni’r rôl rheolaeth prosiect gan lunio dogfennau o safon uchel, gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i: y Ddogfen Cychwyn Prosiect, cynlluniau prosiect, y log risgiau a materion ac adroddiadau cynnydd. Bydd angen sicrhau bod yr holl ddogfennau yn parhau’n gyfredol gydol y prosiect.
• Arwain a rheoli gwahanol agweddau gwaith yn gysylltiedig â phrosiectau Cynllun Llewyrch o’r Llechi
• Gweithredu’n rhagweithiol i yrru’r prosiect yn ei flaen, drwy fod yn gyfrifol am reoli holl elfennau ac adnoddau cysylltiedig.
• Cyflawni’r holl dasgau gwaith perthnasol i sicrhau fod prosiect yn cael ei gwblhau’n llwyddiannus gan anelu i gyflawni amcanion y prosiect mor effeithiol ac effeithlon a sy’n bosibl.
• Arwain, rheoli, monitro ac adrodd ar adnoddau a chyllid prosiectau.
• Cynorthwyo, cyfrannu, arwain, rheoli a chydlynu gwaith i gwblhau achosion busnes.
• Cyfarwyddo ac ysgogi timau prosiect a monitro eu gwaith.
• Sicrhau bod y prosiect yn cyrraedd at yr holl allbynnau a chanlyniadau angenrheidiol, a hynny o fewn terfynau cost, amser ac ansawdd.
• Llunio ac arwain ar weithrediad strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr ar gyfer y prosiect
• Defnyddio dulliau a thechnegau rheoli newid i gefnogi cyflawni yn effeithiol ac yn effeithlon, gan feddwl am ddatrysiadau creadigol ac arloesol i rwystrau, a’u gweithredu’n llwyddiannus.
• Cydweithio’n agos gyda’r budd-ddeiliaid perthnasol, gan feithrin perthynas effeithiol a dylanwadol gyda phrif swyddogion y Cyngor, y Cabinet, aelodau etholedig a budd-ddeiliaid allanol fel sy’n ofynnol.
• Rheoli unrhyw gyfraniadau allanol / trydydd parti i’r gwaith yn y prosiect.
• Rheoli a monitro’r risgiau o fewn y prosiect, gan ddatrys problemau a materion sy’n codi, a chymryd camau adferol, neu uchafu materion o bwys.
• Adrodd ar gynnydd y prosiect i Fyrddau Rhaglen, byrddau prosiect, Cyfarfodydd Herio Perfformiad, y Cabinet ac unrhyw bwyllgor/grwp mewnol arall neu gyrff allanol perthnasol yn ôl y gofyn,
• Gwirio a rheoli ansawdd cynhyrchion ac allbynnau’r prosiect– gan sicrhau cysondeb, eu bod yn gydnaws â strategaethau eraill y Cyngor, a’u bod yn bodloni unrhyw safonau corfforaethol technegol ac arbenigol eraill.
• Cydweithio gydag aelodau eraill y tîm, swyddogion Cyfadrannau’r Cyngor a budd-ddeiliaid allanol fel Gweision Sifil Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y prosiectau.
• Ymateb i ohebiaeth ac ymholiadau yn gysylltiedig â phrosiectau unai ar lafar, dros ffon, ar e-bost neu drwy lythyr.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Trwydded yrru gyfredol ddilys ac yswiriant busnes car.
• Bydd angen gweithio ar ben eich hun tu allan i oriau swyddfa arferol yn ôl y gofyn.
• Bydd angen i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio drwy Wynedd gyfan ar adegau.