Swyddi ar lein
Mentor Cyflogaeth - Cyf: 22-24836
£30,151 - £32,020 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2024
- Teitl swydd:
- Mentor Cyflogaeth
- Adran:
- Economi a Chymuned
- Dyddiad cau:
- 10/04/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2024 | 37 Awr
- Cyflog:
- £30,151 - £32,020 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S3
- Lleoliad(au):
- Sirol
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Kelvin Roberts on 07435 629621.
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma
Cynnal cyfweliadau yr wythnos cychwyn 17eg o Ebrill, 2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD LLUN, 10/04/2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Ariennir y swydd drwy raglen Cymunedau am Waith a Mwy, Llywodraeth Cymru.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau gofal cwsmer amlwg
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg gyda chwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid mewn iaith glir a hawdd i’w deall, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Ymrwymiad clir i gydraddoldeb ac amrywiaeth a gwir awydd i helpu pobl
Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac adeiladu a chynnal perthnasau effeithiol a chefnogol gyda chyfoedion a phartneriaid
Dull creadigol ac arloesol i ymgysylltuDYMUNOL
Sgiliau Arwain EffeithiolCYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster perthnasol Lefel 3 neu uwchDYMUNOL
Gradd neu gymhwyster proffesiynol mewn maes perthnasol
ECDL neu gymhwyster TG cyfwerthPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddarparu cymorth a mentora un ai mewn gwasanaeth yn seiliedig ar gyflogaeth neu wasanaeth cefnogol dwys arall
Profiad o weithio gyda chwsmeriaid sy’n profi tlodi a rhwystrau i gyflogaeth
Profiad o asesu a datblygu cynlluniau gweithredu a’u rhoi ar waith i gwsmeriaidDYMUNOL
Profiad o weithio ar y cyd gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol
Profiad o weithio gyda chwsmeriaid sy’n anodd eu cyrraedd gydag anghenion
niferus
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Dealltwriaeth o wasanaeth cwsmer mewn lleoliad darparu gwasanaeth
Dealltwriaeth o brosesau rheoli perfformiad a monitro
Dealltwriaeth o anghenion cefnogi pobl ddi-waith hirdymor a phobl sy’n economaidd anweithredol, teuluoedd a chwsmeriaid unigol
Gwybodaeth am wasanaethau cysylltiad a chaiff eu darparu gan y sector statudol a gwirfoddol
Dealltwriaeth o gyfrinachedd a materion gwarchod data
Gwybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad
Gwybodaeth am raglenni meddalwedd angenrheidiol, megis Microsoft OfficeDYMUNOL
Gwybodaeth drylwyr a chyfredol am gyflogaeth a materion budd-daliadau.
Dealltwriaeth o ddiwygio lles a’r goblygiadau i gwsmeriaid
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Bydd Mentor Cyflogaeth yn gweithio o fewn Tîm Darparu Lleol Cymunedau am Waith a Mwy (C4W). Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth i unigolion sydd mewn tlodi gwaith, gan eu cefnogi i uchafu incmwn.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllidebau penodol wedi’u clustnodi i’r prosiect
• Offer personol (offer TG, ffôn symudol, ac ati)
Prif Ddyletswyddau.
• I weithio ar y cyd gyda thîm darparu lleol Cymunedau am Waith a Mwy o fewn Gwaith Gwynedd.
• Monitro, coladu a diweddaru gwybodaeth rheoli perfformiad, adroddiadau a gofynion monitro eraill yn gyson, er mwyn sicrhau bod holl fonitro Llywodraeth Cymru yn gywir ac yn cydymffurfio.
• Bod yn gyfrifol am gefnogi baich achosion o gleientiaid gan ddefnyddio dull holistaidd, galluogi a chydweithredol.
• Darparu gwasanaeth hyblyg, gan ddatblygu cynlluniau cefnogi cynhwysfawr gyda chleientiaid ac ymgymryd ag asesu pellach ac adolygiadau rheolaidd fel y bo’n briodol, mewn cydweithrediad â CaW+.
• I chwarae rhan yn y broses Triage o fewn Gwynedd a sicrhau y ceir mynediad at y gefnogaeth berthnasol a'i bod ar gael i’r cleient.
• Datblygu cynlluniau gwaith unigol cynhwysfawr gyda chleientiaid ac ymgymryd ag asesu pellach ac adolygiadau rheolaidd fel y bo’n briodol, mewn cydweithrediad â’r Tîm Darparu C4W+ Lleol.
• Sicrhau bod yr holl ddata personol yn cael ei drin a’i warchod yn effeithiol, o fewn protocolau. Rhannu Gwybodaeth y cytunwyd arnynt yn lleol.
• Cefnogi unigolion i fynd i’r afael â rhwystrau eang i gyflogaeth; mynediad i hyfforddiant, addysg, cyfleoedd datblygu a chyflogaeth.
• Sicrhau bod pob cofnod a phob ffeil cleient yn cael eu diweddaru, gan gynnwys mewnbynnu i gyfarfodydd Triage rheolaidd.
• Cyflawni tasgau a chyfrifoldebau eraill tebyg fel y’u pennwyd o dro i dro gan y rheolwr yng nghyswllt rhediad esmwyth y gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd weithio gyda’r nos a phenwythnosau ambell waith
• Dylai deilydd y swydd fod yn berchen ar drwydded yrru llawn a hefyd bod â mynediad i gerbyd preifat