Nodweddion personol
Hanfodol
Bod yn berson sensitif, ymroddedig gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser.
Person aeddfed sydd yn gallu derbyn cyfrifoldebau
Gallu gweithredu fel aelod o dim.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Profiad perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
Profiad o ofalu neu ymwneud a ‘r henoed
Profiad o waith domestig
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dealltwriaeth am anghenion yr henoed
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).