Swyddi ar lein
Uwch Gymhorthydd Arbenigol SIY - Cyf: 22-24822
£18,524 - £20,300 y flwyddyn | Dros dro (gweler hysbyseb swydd)
- Teitl swydd:
- Uwch Gymhorthydd Arbenigol SIY
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
- Dyddiad cau:
- 30/03/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro (gweler hysbyseb swydd)
- Cyflog:
- £18,524 - £20,300 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Swydd tymor ysgol:
- 39 Wythnos
- Lleoliad(au):
- Amrywiol
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD
Yn eisiau: Cyn gynted â phosib
Uwch Cymhorthydd Arbenigol Saesneg Fel Iaith Ychwanegol (SIY)
SWYDD DROS DRO HYD AT 07.04.2024 YN Y LLE GYNTAF.
Mae’r Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol (Gwynedd a Môn) yn awyddus i benodi Cymhorthydd brwdfrydig i fod yn rhan o’r tîm ac i weithio yn ardal Arfon yn benodol.
Mae’r Gwasanaeth yn gweithio ar draws Ysgolion Cynradd ac Uwchradd y ddwy Sir yn cefnogi disgyblion o amryw o gefndiroedd ac ieithoedd i ddysgu Saesneg fel ail/ trydedd iaith.
Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gydag unigolion a grwpiau bach o fewn Ysgolion Bangor a’r ffiniau o dan arweiniad yr Uwch Athrawes.
Byddai profiad o weithio gyda disgyblion sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn fanteisiol ond mi fydd hyfforddiant ar gael. Gellir ystyried secondiad i rywun sydd yn awyddus i ennill profiad o weithio yn y maes arbenigol yma.
Oriau gwaith: 32.5
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (sef £18,524 i £20,300) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd. Mae’r adran yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Am sgwrs anffurfiol a manylion pellach am y swydd gellir cysylltu â Helen Speddy, Uwch Athrawes Saesneg fel Iaith Ychwanegol ar rif ffôn 01286 679007.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B , DYDD IAU, 30 MAWRTH, 2023.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn y swydd.
(This is an advertisement for a Senior EAL Specialist Teaching Assistant, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth.
• Hyrwyddo cynhwysiad a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion ystod oedran 3 – 16 oed i gael mynediad at y cwricwlwm gan ddefnyddio sgiliau iaith maent eisoes yn eu meddu tra hefyd yn eu cefnogi mewn meistroli Cymraeg/Saesneg.
• Cyflenwi gwaith proffesiynol athro/athrawes trwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu cytunedig o dan system cytunedig o oruchwyliaeth. Gall hyn olygu cynllunio, paratoi a trosglwyddo gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu yn y tymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar gyrhaeddiad, cynnydd a datblygiad disgyblion.
• Cyfrifol am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol ac/neu reolaeth cymhorthyddion dysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.
Prif Ddyletswyddau. .
Hyrwyddo lles emosiynol
Chwarae rôl bwysig o ran helpu disgyblion i ymgartrefu yn eu hamgylchfyd newydd, gan eu cynorthwyo i adeiladu eu hunan-hyder, hunan-barch ac annibyniaeth
Annog disgyblion i ddeall a cydymffurfio â disgwyliadau sy’n gysyllltiedig ag ymddygiad yn yr ysgol
Cefnogi disgyblion gael at weithgareddau ysgol estynedig
Gwarchod lles disgyblion SIY/CIY
Adnabod a dileu rhwystrau i ddysgu
Annog athrawon i hyrwyddo defnydd disgyblion o’u mamiaith ar gyfer dysgu ble bynnag bo modd pan fo’r plentyn yng nghamau cynnar dysgu Cymraeg/Saesneg.
Ble bo modd ac yn briodol (h.y. fel arfer ble mae gan Cymhorthydd Dosbarth fynediad at iaith gyntaf disgybl), defnyddio gwybodaeth o iaith gyntaf disgybl i ddehongli geiriau a cyfarwyddiadau allweddol, archwilio cysyniadau mewn mwy o ddyfnder a datblygu uwch sgiliau dysgu y gall disgyblion yna eu trosglwyddo i CIY/SIY.
Darparu mewnwelediad i athrawon i wybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o feysydd cwricwlwm, yn cynnwys datblygiad iaith a datblygiad cysyniadol yn ogystal â cynnydd cyffredinol mewn dysgu
Helpu athrawon gael mynediad at ddysgu a gwybodaeth blaenorol disgyblion, gan adnabod y cysyniadau mae disgyblion eisoes wedi eu dysgu yn eu gwlad enedigol – hefyd adnabod bylchau mewn dysgu.
Codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion o wahaniaethau diwylliannol a all effeithio ar beth mae disgyblion eisoes wedi ei ddysgu - a’r anhawster y gall rhai disgyblion ei wynebu o ran deall agweddau o’r cwricwlwm Cymreig
Ble bo’n modd ac yn briodol, defnyddio sgiliau iaith penodol i gyd-rannu gwybodaeth gyda rhieni
Rôl/Dyletswyddau Gweinyddol
Helpu i gasglu gwybodaeth yn rheolaidd ar ddisgyblion SIY/CIY, gan fynd ar drywydd disgyblion, monitro cefnogaeth, ayb, gan fwydo’r gwybodaeth ar fas data a ddefnyddir gan y tîm.
Trefnu a dosbarthu adnoddau ar gais aelodau o’r tîm.
Prif Ddyletswyddau. .
Cefnogi’r tîm mewn cael mynediad at, paratoi a storio adnoddau priodol i’w defnyddio mewn ysgolion.
Cydweitho â cydweithwyr
Mynychu cyfarfodydd tîm a gynhelir yn rheolaidd
Delio’n sensitif â materion cyfrinachol
Gweithio fel aelod o dîm a gweithio’n annibynnol
Hyblygrwydd i weithio mewn sawl ysgol a gydag amrywiaeth o dimau staff
Cyfrifoldeb am ddatblygu eu datblygiad parhaus eu hunain
Cefnogi disgyblion
Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu disgyblion.
Sefydlu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda disgyblion, gan fod yn ddelfryd ymddwyn a gosod disgwyliadau uchel.
Datblygu a gweithredu CDU.
Hyrwyddo cynhwysiad a derbyn pob disgybl o fewn yr ystafell ddosbarth.
Rhoi cefnogaeth i ddisgyblion yn gyson tra’n cydnabod ac ymateb i’w gofynion unigol.
Annog disgyblion i ryngweithio a cydweithio ag eraill a bod yr holl ddisgyblion yn cymryd diddordeb mewn gweithgareddau.
Hyrwyddo annibyniaeth a rhoi strategaethau ar waith i gydnabod a gwobrwyo cyrhaeddiad o hunan-ddibynadwyedd.
Darparu adborth i ddisgyblion o ran cynnydd a cyrhaeddiad.
Cefnogaeth i’r Athro
Trefnu a rheoli amgylchfyd ac adnoddau dysgu priodol.
O fewn system cytunedig o oruchwyliaeth, cynllunio nodau addysgu a dysgu heriol i arfarnu ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel bo’n briodol.
Monitro ac arfarnu ymatebion disgyblion i weithgareddau dysgu trwy ystod o strategaethau asesu a monitro yn erbyn nodau dysgu wedi eu pennu ymlaen llaw.
Rhoi adborth ac adroddiadau gwrthrychol a manwl-gywir fel bo angen ar gyrhaeddiad, cynnydd disgyblion a materion eraill, gan sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gael.
Cofnodi cynnydd a cyrhaeddiad mewn gwersi/gweithgareddau yn systematig a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a cyrhaeddiad.
Gweithio o fewn polisi disgyblaeth wedi ei sefydlu i ragweld a rheoli ymddygiad gan wneud hynny ‘n gadarnhaol, hyrwyddo hunan-reolaeth ac annibyniaeth.
Cefnogi swyddogaeth rhieni yn nysg disgyblion a cyfrannu tuag at/arwain cyfarfodydd gyda rhieni i ddarparu adborth adeiladol ynghylch cynnydd/cyrhaeddiad disgybl, ayb.
Gweinyddu ac asesu/marcio profion a goruchwylio arholiadau/profion.
Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayb.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
Trosglwyddo gweithgareddau dysgu i ddisgyblion o fewn system o oruchwyliaeth cytunedig, gan addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion disgyblion.
Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a cenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, a defnyddio cyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill yn effeithiol i gefnogi datblygu sgiliau disgyblion.
Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd disgyblion a gallu defnyddio TGCh yn annibynnol.
Dethol a paratoi adnoddau sydd eu hangen ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd diddordebau a iaith a cefndir diwylliannol disgyblion i ystyriaeth.
Cynghori ar leoliad priodol a defnydd o gymorth/adnoddau/offer arbenigol.
Cefnogaeth ar gyfer yr Ysgol
Cydymffurfio gyda a cynorthwyo gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n gysylltiedig ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a gwarchod data, hysbysu’r unigolyn priodol ynghylch pryderon.
Cyffredinol
Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
Cydymffurfio â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y gweithle 1974 a Polisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisiau cyfleoedd cyfartal a cydraddoldeb y Cyngor.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau’r Cyngor ar reoli gwybodaeth. Sicrhau caiff gwybodaeth bersonol ei thrin yn unol â deddfwriaeth Amddiffyn Data.
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon, ac annog eraill i gymryd camau positif tuag at leihau allyriadau Carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall sy’n rhesymol i’w chyflawni sy’n cyfateb i lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
Cyfrifol am hysbysu ynghylch unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.