Swyddi ar lein
Gweithiwr Tim Tacluso ‘Ardal Ni’ - Cyf: 22-24821
£22,369 - £24,054 y flwyddyn | Dros dro
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Tim Tacluso ‘Ardal Ni’
- Adran:
- Priffyrdd, Peirianneg a YGC
- Dyddiad cau:
- 30/03/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro blwyddyn | 37 Awr
- Cyflog:
- £22,369 - £24,054 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS4
- Lleoliad(au):
- Ardal Arfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â David Charles Williams ar 07767647779 neu Peter Simpson ar 07500973964Cyfweliadau i’w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymruDYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 30/03/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio yn unigol ac fel rhan o dîm.DYMUNOL
Y gallu i gyfathrebu gyda’r cyhoedd.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Bod yn berchen ar drwydded yrru gyfredol llawn.DYMUNOL
Hyfforddiant o weithio yn y maes PriffyrddPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Gwybodaeth o’r ardal, lleoliadau ac ati.DYMUNOL
Profiad o weithio yn y maes gwasanaethau stryd e.e. Priffyrdd a Cynnal TiroeddSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Ymwybyddiaeth o’r ardal.DYMUNOL
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir. Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Ymgymryd â gweithgareddau medrus mewn perthynas â gwaith yr Tim Tacluso.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am gerbydau, offer, pheiriannau a nwyddau.Prif Ddyletswyddau.
• Ymgymryd â gweithgareddau medrus sy’n cynnwys adnabod gwaith a dehongli gweithgareddau, gyrru a gweithredu offer trwm/cymhleth a chyfarpar sydd angen sgiliau arbenigol.Tasg (Ymgymryd â gwaith sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddelwedd y Sir megis, glanhau dwfn, glanhau dodrefn ac arwyddion, tynnu graffiti a thorri chwyn trefol/gordyfiant.)
· Cyflawni gwaith amrywiol ar gais aelodau lleol/grwpiau cymunedol i'r safon uchaf
· Adrodd ar gynnydd y gwaith ar dabled/ffôn symudol drwy ddiweddaru system fewnol y Cyngor. Rhaid sicrhau bod y manylion yn gywir a manwl er mwyn adrodd yn ôl i'r cwsmer.
· Derbyn ceisiadau am waith gan gymryd i ystyriaeth unrhyw risgiau ychwanegol a wynebir.
· Dilyn, ac ar adegau chynllunio’r ffordd fwyaf effeithlon i gwblhau’r gylchdaith/amserlen mewn ardal benodol. Hynny i gynnwys newid y gylchdaith pan fo angen er mwyn ymdopi gyda ffyrdd wedi cau, tywydd garw a blaenoriaethu ceisiadau brys.
· Cynorthwyo gyda dylunio cylchdeithiau sydd i gynnwys gweithredu cylchdeithiau newydd.
· Torri gordyfiant/chwyn mewn mannau trefol/lonydd prysur gan weithio’n ddiogel a rheoli traffig a cherddwyr.
· Glanhau, adnewyddu a pheintio dodrefn stryd i'r safon gorau.
· Cynorthwyo grwpiau cymunedol/gwirfoddolwyr gyda phrosiectau amgylcheddol.
· Bydd angen cynorthwyo’r adran Priffyrdd gyda’r gwaith cynnal gaeaf fydd yn golygu gweithio mewn tywydd garw i clirio rhew, eira a dail.
· Cynorthwyo gyda’r broses o anwytho staff, hynny i gynnwys mentora aelodau newydd o’r tîm
· Rheoli amser yn effeithiol er mwyn sicrhau fod y gylchdaith/amserlen yn cael ei chwblhau.Offer/Cyfarpar
· Cyfrifoldeb am gynnal a chadw peiriannau amrywiol gan gynnwys offer llaw a phŵer a’u cadw yn ddiogel o fewn depos y Cyngor mewn modd diogel.
· Oherwydd natur y gwaith bydd angen dealltwriaeth o offer amrywiol/arbenigol megis peiriant Glanhau Dwfn a thynnu graffiti sy’n cynhyrchu stem. Rhaid monitro a gwirio lefelau dŵr, olew a thanwydd y peiriant yn ddyddiol.
· Sicrhau bod stoc ddigonol o bartitâu/sbarion pheiriannau drwy ddiweddaru’r Arweinydd Tîm ar unrhyw lefelau isel/diffyg partitâu.Iechyd a Diogelwch
· Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch eich hun, eich cydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
· Gweithio yn unol â gweithdrefnau rheoli yn ddiogel, asesiadau risg, polisïau’r Cyngor un unol a chyfrifoldebau’r gweithiwr fel a nodi’r yn Neddf Iechyd a Diogelwch. Gwisgo offer diogelu personol gan gynnwys siacedi llachar uchel, trowsus balistig, esgidiau diogelwch ac unrhyw ddillad diogelwch neu wisg berthnasol.
· Cymryd rhan mewn archwiliadau Iechyd a Diogelwch ac arddangos deallusrwydd o’r risgiau a chydymffurfiad.
· Adrodd a chynorthwyo gyda chwblhau adroddiadau damweiniau / digwyddiadau treisgar (ffurflenni HS11) yn ogystal â ffurflenni yswiriant.
· Cydymffurfio gyda rheolau, rheoliadau a chyfarwyddiadau penodol mewn mannau cyhoeddus.Gofal Cwsmer
· Cynrychioli’r Tîm drwy fod yn llysgennad a sicrhau bod egwyddorion y Prosiect yn cael ei hyrwyddo gan greu ymdeimlad o falchder bro.
· Sicrhau'r lefel uchaf posibl o ofal cwsmer - cysylltu yn hyderus a brwdfrydig gydag aelodau o’r cyhoedd a busnesau a chynghori ar bob agwedd ar faterion sy’n effeithio delwedd y Sir. Hynny i gynnwys ymdrin â sefyllfaoedd anodd rhwng cwsmeriaid a modurwyr.
· Cyd-weithio gyda gwirfoddolwyr, ysgolion ac unrhyw gymuned sydd yn awyddus i hybu’r fenter ‘Ardal Ni’/Tîm Tacluso.
· Cadw lefel stoc briodol o becynnau gwybodaeth/newid ymddygiad er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth glir o waith y Timau.
Gyrru
· Gyrru cerbyd dosbarth BE Mewn modd diogel a chwrtais yn unol â chyfyngiadau cyflymder y ffordd ac o fewn y gofynion y gyfraith.
· Cydymffurfio gyda polisïau Fflyd, hynny i gynnwys cynnal archwiliadau dyddiol ar y cerbyd a trelar bob bore er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel i fod ar y ffordd. Cofnodi pob gwiriad ac adrodd ar unrhyw ddiffygion yn syth i’r modurdy.
· Cynnal a chadw arferol rheolaidd sydd i gynnwys gwirio lefelau olew a dŵr y cerbyd.
· Sicrhau fod y cerbyd yn cael ei gadw yn lan – sicrhau fod y cerbyd yn cael ei lanhau i safon uchel gan gynnwys trelar.
· Ymgymryd ag asesiad risg dynamig a phenderfynu ar y lleoliad mwyaf diogel i leoli’r cerbyd ar y ffordd tra mae’r gwaith yn cymryd lle.
· Cyfrifoldeb am sicrhau fod modd bacio’r cerbyd yn ddiogel hynny i gynnwys cyfarwyddo cynorthwywyr bacio fel bod angen.
· Mynychu hyfforddiant perthnasol i'r cerbyd/peiriannau a sicrhau eich bod wedi cwblhau’r modiwlau perthnasol o fewn amserlen benodol.
· Gweithredu’r mecanwaith pŵer ar y cerbyd i gwagio a tail-lift.
Adrodd a Chydymffurfio
· Ar ddiwedd y diwrnod gwaith, adrodd i’r arweinydd tîm / swyddog prosiect ar gynnydd y gwaith ac unrhyw faterion neu broblemau sydd wedi codi.
· Cydymffurfio gyda phob polisi a gweithdrefn fewnol mewn perthynas ag adrodd ar salwch a cheisiadau am wyliau blynyddol.Corfforaethol
· Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
· Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
· Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
· Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
· Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
· Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drinAmgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Fe fydd galw a’r gwasanaeth hwyrach i weithio ar wyliau banc fel bo angen ac fe fydd angen gweithio ar y diwrnodau hyn.
• Hefyd fe fydd gofyn am weithio goramser mewn cyfnod o argyfwng.