Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth]
Mae llifogydd dŵr wyneb yn broblem ddifrifol sy’n cael effeithiau a chanlyniadau go iawn ar ein cymunedau a’n trigolion lleol. Mae’r gofynion cynyddol a roddir ar systemau anaddas sy’n heneiddio o ganlyniad i ddatblygiadau a newid hinsawdd yn achosi mwyfwy o bryder. Yn dilyn cyflwyniad diweddar Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr Cymru, mae Cyngor Gwynedd fel Corff Cymeradwyo SDC (CCS) wedi ymrwymo i sicrhau bod Systemau Draenio Cynaladwy (SDCau) effeithiol yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â datblygiadau newydd yn y Sir.
Byddwch yn helpu yr Uwch Beiriannydd i lunio a datblygu gwasanaeth CCS effeithiol a llwyddiannus, archwilio ac adrodd ar blaniau technegol ac archwilio gwaith ar safle. Gydag agwedd a dull gweithio cadarnhaol tuag at rhwystrau, byddwch yn gweithio ar y cyd â thimau eraill y Cyngor, megis y timau Cyfreithiol, Cynllunio a Phriffyrdd, i gyflawni hyn. Yn gyfnewid, gall yr ymgeisydd llwyddiannus ddisgwyl cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau technegol, gan nodi bylchau mewn gwybodaeth neu sgiliau sy’n bwysig ar gyfer y swydd.
Mae rhywfaint o fuddion pellach o weithio i cyngor Gwynedd yn cynnwys:
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol gyda cyfraniadau’r Cyngor yn 20.4% ar hyn o bryd.
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn cynyddu i 30 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth, yn ogystal a 3.5 diwrnod o wyliau statudol wedi eu ychwanegu i’ch cerdyn gwyliau ac 8 gŵyl y banc.
- Gwyliau arbennig i rhai amgylchiadau
- 37 awr gwaith yr wythnos gyda system super flexi sy’n gallu creu 14 diwrnod o wyliau flexi ychwanegol y flwyddyn.
- Gweithio’n hyblyg i gynorthwyo cydbwysedd bywyd a gwaith.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Owain Ellis Griffith ar 01758 704 113
Rhagwelir cynnal cyfweliadau, dyddiadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 06.04.2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.