Swyddi ar lein
Rheolwr Strwythurau - Cyf: 22-24815
£47,573 - £49,590 y flwyddyn | Parhaol
- Teitl swydd:
- Rheolwr Strwythurau
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Darparu ac Arolygu
- Dyddiad cau:
- 06/04/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £47,573 - £49,590 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS7
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Strwythurau
CYFLOG: PS7 SCP 41-43 £47,573 - £49,590
LLEOLIAD: Halkyn, Bangor, Conwy, Dolgellau, Llandrindod
(Trefn gweithio hybrid o gartref ar gael)Pam gweithio i Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru? - YouTube
Rheoli tîm o 15 o staff mewnol gyda chadwyn gyflenwi ehangach sy'n cefnogi cyflawni rhaglenni gwaith archwilio, cynnal a chadw a chyfalaf ar holl strwythurau Cefnffyrdd yng ngogledd chanolbarth Cymru. Mae hyn yn cynnwys dros 2000 o strwythurau gyda chyllideb flynyddol o tua £6m.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol am y swydd uchod, cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Mark McNamara ar 07833 400560
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076.
Dyddiad Cau: 10.00 AM, DYDD IAU 6 o Ebrill
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu arwain timau ac ysgogi staff
Gallu rheoli gwaith o gydredeg swyddogaethau amlddisgyblaethol
Gallu arwain a chydlynu darparwyr gwasanaeth
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon
Gallu cydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflwyno rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth
Gallu gweithio dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd mewn disgyblaeth sy’n ymwneud â Pheirianneg Sifil / Peirianneg Strwythurol neu gyfwerth
Wedi cyflawni ac yn mynd i gynnal statws Peiriannydd Sifil / Peiriannydd
Strwythurol
Dymunol
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Hyfforddiant Rheolwyr
Achrediad NHSS 31 (BICS) ar lefel Uwch Arolygwr
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad perthnasol mewn rheoli asedau strwythurau priffyrdd o ran eu hasesu, eu harchwilio, eu cynnal a’u cadw, eu dylunio a’u gwella
Profiad fel rheolwr prosiect ar gyfer cynlluniau strwythurau priffyrdd
Profiad o reoli rhaglenni archwilio a chynnal a chadw pontydd
Profiad o reoli tîm amlswyddogaethol ar lefel uwch
Dymunol
Profiad o ddarparu prosiectau strwythurau ar rwydwaith ffyrdd cyflym
Profiad gyda gofynion geodechnegol prosiectau sy'n ymwneud â phriffyrdd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau rhyngbersonol cadarn ynghyd â sgiliau ysgrifennu a chyflwyno da
Gwybodaeth drylwyr o reoli asedau strwythurau, cynnal a chadw, asesiadau, prosesau a gofynion cryfhau ac adnewyddu
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill yn ymwneud â rheoli asedau strwythurau priffyrdd
Trwydded Yrru Gyfredol
Dymunol
Gwybodaeth fanwl o systemau rheoli asedau LlC
Gwybodaeth o beirianneg geodechnegol
Anghenion ieithyddol
Gwrando a siarad
Cymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol Strwythurau Priffyrdd Cefnffyrdd gyda chyfrifoldeb penodol am:
•Archwilio Cyflwr Asedau a;
•Rheoli'r dasg o gyflawni rhaglenni Asesu, Cryfhau, Cynnal a Chadw, Uwchraddio ac Adnewyddu.
•Rheoli pob rhaglen cynnal a chadw strwythurau arferol;
•Gweithredu fel arweinydd technegol yr Asiant ar bob mater yn ymwneud â strwythurau.
•Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu holl brosiectau strwythurau'r Asiant o ran sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd.
•Cynorthwyo i gydlynu a rhaglennu cynlluniau adnewyddu, cynnal a chadw ac uwchraddio strwythurau a chynlluniau diogelwch blynyddol a phob pum mlynedd yr Asiant.
•Rheoli sut caiff y swyddogaethau Archwilio a Rheoli Data eu gweithredu a’u cyflawni gan ddefnyddio Systemau Rheoli Asedau Asiant Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlC), a rhoi cyngor ar gyflwr yr asedau a rhaglenni gwaith er mwyn sicrhau y gellir dangos gwerth am arian.
•Rheoli Strwythurau'r Asiant, darparwyr gwasanaeth ac ymgynghorwyr allanol Awdurdodau Partner i gyflwyno comisiynau strwythurau priffyrdd yn unol â gweithdrefnau’r Asiant er mwyn sicrhau y gellir bodloni targedau ansawdd, amser a chostau.
•Adolygu’r gwasanaeth yn barhaus ac adnabod y mannau ble ceir yr ymarfer gorau a chynghori uwch reolwyr ynghylch y mesurau gwella priodol. Rhaglennu a gweithredu cynlluniau gwella y cytunir arnynt.
•Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd.
•Caffael a bod yn rheolwr prosiect ar wasanaethau dylunio ymgynghorol a chontractio yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli'r tîm mewnol sy'n gyfrifol am gyflawni, archwilio a chynnal a chadw prif strwythurau (15 staff)
•Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (darparwyr gwasanaethau LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat);
•Rheoli'r gwaith o baratoi bidiau a chyllidebau strwythurau cysylltiedig.
Prif ddyletswyddau
Rheoli Strwythurau
•Gweithredu, rheoli ac adolygu polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud ag archwilio, cryfhau, cynnal a chadw, uwchraddio a rheoli cyflwr strwythurau ac asedau geodechnegol LlC yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru i leihau costau oes gyfan.
•Caffael a rheoli darparwyr gwasanaeth strwythurau, ymgynghorwyr a chontractwyr allanol i gyflawni gofynion cyffredinol strwythurau a gofynion geodechnegol yr Asiant.
•Rheoli'r swyddogaethau allweddol a ganlyn:
•Rheolaeth gyffredinol o’r holl asedau sy’n ymwneud â strwythurau gan gynnwys Pontydd, Twneli, Traphontydd, Cylfatiau, Waliau Cynnal, Pontydd Arwyddion, Strwythurau ITS, Strwythurau Cynnal Daear a Systemau Atal Ffyrdd.
•Rhaglen Asesu a Chryfhau
•Rheolaeth o strwythurau is-safonol
•Rhaglen Uwchraddio Canllawiau
•Asesu / Diogelu Glanfeydd a Phileri
•Rhaglen uwchraddio pontydd (eu gwneud i ddal dŵr, cymalau, berynnau)
•Rheoli rôl Peiriannydd Cyswllt Cynnal a Chadw Geodechnegol (GMLE) dan DMRB HD41 ac ymgymryd â swyddogaethau rheoli geodechnegol dan HD22 gyda chymorth gan ddarparwyr gwasanaeth.
•Cynorthwyo Rheolwr Twnnel Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau yn ymwneud â Strwythurau'r Twnnel fel y bo'r gofyn gan Reoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd a safonau cenedlaethol perthnasol eraill.
•Rheoli'r dasg o gyflawni'r rhaglenni uchod ac ar yr un pryd cael gwerth am arian a sicrhau diogelwch, defnyddioldeb a chynaliadwyedd.
•Cyswllt â budd-ddeiliad allweddol ym mhob mater yn ymwneud â Strwythurau Cefnffyrdd gan gynnwys Uwch Reolwyr LlC, Rheolwyr Pontydd Awdurdodau Lleol, Darparwyr Gwasanaeth, Ymgynghorwyr Sector Preifat, Cyrff Cyhoeddus (Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymgymerwyr Statudol, CADW ac ati), Sefydliadau a Chontractwyr Gwaith Uniongyrchol, Gwasanaethau Brys.
•Adolygu Cymeradwyaeth mewn Egwyddor ar gyfer Asesiadau a Dyluniadau i strwythurau newydd neu addasiad strwythurau presennol yn unol â safonau LlC a safonau Technegol a Chenedlaethol.
•Archwiliadau derbyniad a rheoli holl strwythurau newydd ac asedau geodechnegol fel rhan o gofrestr asedau LlC a’u hymgorffori yn y cyfundrefnau rheoli strwythurau presennol.
•Adolygu'r holl adroddiadau ac arolygon technegol megis Prif Adroddiadau Archwilio ac Adroddiadau Archwilio Cyffredinol.
•Rheoli'r tîm archwilio a chynnal a chadw pontydd mewnol wrth gyflawni Prif Raglenni Archwilio a Rhaglenni Archwilio Cyffredinol ac Arbenigol gan sicrhau y darperir gwasanaeth yn unol â gofynion a dangosyddion perfformiad LlC.
•Rheoli sefydliadau llafur uniongyrchol darparwyr gwasanaeth a chontractwyr allanol wrth gyflawni'r Rhaglen Waith Cynnal a Chadw Arferol strwythurau a geodechnegol yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC.
•Cynghori’r Asiant ynghylch materion yn ymwneud â strwythurau a materion geodechnegol yn y gwaith ar y rhaglenni strwythurau a materion yn ymwneud â rhaglenni gwaith eraill.
•Rheoli perfformiad darparwyr tîm archwilio mewnol wrth gyflawni rhaglen o archwiliadau, asesiadau ac astudiaethau asedau gan gynnwys casglu a choladu data cyflwr yn unol â gofynion LlC.
•Gweithredu cronfeydd data Rheoli Asedau LlC a gweithredu prosesau a systemau i ddiweddaru a chynnal rhestrau stoc a chofnodion sy’n perthyn i asedau LlC.
•Cynorthwyo Llywodraeth Cymru i adnabod a blaenoriaethu rhaglen o gynlluniau adnewyddu ac uwchraddio drwy ddarparu gwybodaeth ynghylch y cyflwr.
•Unrhyw ddyletswyddau eraill sydd eu hangen er mwyn darparu’r gwasanaeth rheoli pontydd sydd gymesur â graddfa’r swydd.
•
Rheoli Prosiect
•Rheoli caffael gwaith cefnffyrdd a gwasanaethau ymgynghori gan gynnwys adnewyddu prif gontractau cynnal a chadw a chynlluniau uwchraddio / gwella, gan ddefnyddio gweithdrefnau tryloyw ac effeithlon.
•Ymgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer holl brosiectau strwythurau a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd.
•Sicrhau bod egwyddorion Rethinking Construction yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn ei weithdrefnau caffael a chyfarwyddo rheolaeth pob contract adeiladu a chontractau eraill a osodir gan yr Asiant.
•Rheoli amryw o raglenni cynlluniau gwella.
•Cysylltu gyda Rheolwyr Asedau a Rheolwyr Rhanbarthol / Llwybrau i adnabod, dylunio a darparu cynlluniau i wella’r rhwydwaith.
•Cyflawni rhaglenni gwaith treigl sydd wedi’u rhaglennu ar gyfer seilwaith asedau strwythurau yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
•Rheoli gweithredu gwaith drwy weithdrefnau caffael priodol.
•Defnyddio egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2.
•Cysylltu gyda darparwyr yr Awdurdodau Partner a'r sector preifat ynghylch prosiectau, gan gynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
•Cysylltu gyda’r Uned Cyflawni ac Archwilio yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau
Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau fel y cytunwyd. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau isod:-
•adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid prosiect a pharatoi brîff prosiect;
•sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
•cytuno ar raglen a briff y prosiect
•cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni
•cysylltu â staff perthnasol LlC;
•bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect yn ei gyfanrwydd a rheoli’r gyllideb.
•cytuno ar iawndal a'i gymeradwyo;
•adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol
•derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
•cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
•adrodd ar y gwariant hyd yma, a phroffil gwariant y dyfodol i Uned Fusnes yr Asiant.
•trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
•adolygu a chadarnhau cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â'r prosiect cyn eu cyflwyno i LC.
•sicrhau y caiff prosiectau eu terfynu'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
Gweithredu mewn swyddogaeth uwch wrth ymdrin â materion cytundebol sylweddol gan gynnwys datrys anghydfod, digwyddiadau o iawndal a gaiff eu herio, a’r broses gyflafareddu.
Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Rheoli Rhaglenni
Cynorthwyo i gydlynu’r broses o adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglenni blynyddol a rhaglenni pum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu strwythurau, cynlluniau cynnal a chadw, uwchraddio a chynlluniau diogelwch.
Cefnogi'r Uned Cyflawni ac Archwilio i ddatblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol o brosiectau strwythurau refeniw a chyfalaf ar draws y rhwydwaith Cefnffyrdd yng ngogledd Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).
Galluogi cyflawni’r rhaglenni o brosiectau drwy gaffael gwasanaethau ymgynghorol cefnffyrdd a gwaith adeiladu yn unol â gweithdrefnau’r Asiant.
Dyletswyddau Technegol Eraill
Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys materion hyfforddi a datblygu staff o fewn yr Asiant a gyda darparwyr gwasanaeth.
Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac y cwblheir gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
Cynorthwyo gyda rheoli, casglu, paratoi a chyflwyno amcangyfrifon cost a rhaglennu i LlC yn unol â'r prosesau comisiynu a gytunwyd.
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.
Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth Awdurdodau Partner yr Asiant a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau'r DU / LlC, yn cynnwys:
•Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
•Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
•Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
•Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
•Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
•Contractau NEC
•Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
•Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WAGMAA
Rheoli Perfformiad
Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes ac Ansawdd a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiant.
Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau er mwyn archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
Gweithredu dulliau o arolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
Mynd i’r afael â meysydd lle ceir diffyg perfformiad ar ran y darparwr gwasanaeth.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
•Mae holl staff yr Asiant yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
•Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
Cyd-gysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cynorthwyo a chefnogi’r Tîm Cyflawni ac Archwilio. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid.
Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau.Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
Gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd gofyn gweithio tu allan i oriau swyddfa arferol am gyfnodau yn y swydd hon gan gynnwys bod yn bresennol pan gaeir twnelau’r A55 yn ystod y nos, bod yn bresennol mewn gweithgareddau cynnal a chadw adweithiol / arferol ac yn ystod prosiectau gwaith cyfalaf yn ystod y nos.
•Ymweld â safleoedd adeiladu.
•Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).