Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo i sicrhau trefniadau gorfodaeth effeithiol ac effeithlon ar gyfer gwasanaethau stryd a rheoli gwastraff yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol, er mwyn lleihau troseddau amgylcheddol i wella ansawdd yr amgylchedd lleol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Bod yn gyfrifol am gadw, gofalu a chynnal offer sy’n gysylltiedig â’r dyletswyddau a nodwyd (e.e. cyfrifiaduron llaw, ffôn symudol, camerâu TCC cudd a TCC personol, offer gosod arwyddion a cherbyd y Cyngor)
Prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo’r Swyddog Gorfodaeth Gwastraff a Strydoedd i weithredu strategaethau a pholisïau perthnasol i Wasanaethau Stryd, Rheoli Gwastraff a Rheoli Cŵn.
•Awdurdod i weithredu pwerau Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014, Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a rheoliadau a phwerau gorfodaeth eraill sy’n gysylltiedig â pherthnasol i Wasanaethau Stryd, megis sbwriel a throseddau amgylcheddol eraill, achosion tipio, rheoli gwastraff, polisi cynwysyddion gwastraff, dyletswydd gofal gwastraff, a gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus, sef rheoli cŵn.
•Prosesu data personol tystion a throseddwyr yn unol â deddfwriaeth berthnasol
•Patrolio ar ac oddi ar y stryd, un ai ei hunan neu fel rhan o dîm. Patrolio ar droed ond efallai y bydd angen defnyddio cerbyd hefyd.
•Cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodol (HCP) yn y man, yn ysgrifenedig, neu drwy ddefnyddio cyfrifiaduron llaw, yn unol â chyfarwyddiadau, gweithdrefnau a’r canllawiau cyfredol.
•Cwblhau’n gydwybodol ac yn gyson, gyda thystiolaeth, pob HCP a gyflwynir a digwyddiadau eraill cysylltiol.
•Defnyddio offer TCC personol i fonitro a chofnodi’r cyhoeddiad o HCP.
•Mynychu gwrandawiadau dyfarnu fel tyst ar ran y Cyngor fel bo’r gofyn a fydd, efallai, yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig.
•Defnydd o feddalwedd sy’n berthnasol i ddyletswyddau’r swydd e.e. DEMS Uploader (TCC Personol), FlyMapper (Taclo Tipio Cymru) a Ffos Symudol.
•Ymateb yn gwrtais i ymholiadau gan y cyhoedd a, lle bo’r angen, rhoi cymorth a chyngor ar bolisi a gweithdrefnau’r Cyngor ynghylch Gwasanaethau Stryd.
•Cynnal archwiliadau, ymholiadau a chyfweliadau anffurfiol ar safle i ymchwil troseddau amgylcheddol, megis sbwriel, tipio anghyfreithlon, baw cŵn a graffiti a defnyddio Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) i ddarganfod gwybodaeth fel bo’r angen.
•Cynorthwyo’r Swyddog Gorfodaeth Gwastraff a Strydoedd i gynnal cyfweliadau gwirfoddol ffurfiol dan rybudd yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
•Cymryd datganiadau gan dystion a chynorthwyo i baratoi ffeiliau achos troseddol ar gyfer erlyniadau yn y Llys.
•Gosod a chamerâu cudd i fonitro achosion tipio a baw cŵn mewn lleoliadau problemus mewn cydymffurfiaeth a’r ddeddfwriaeth berthnasol (Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000)
•Cynorthwyo i wireddu’r polisi cynwysyddion gwastraff, yn cynnwys monitro ar safle, adnabod yr angen i’r swyddfa cefn llythyru trigolion a busnesau a gwaith gorfodaeth ddilynol yn gysylltiedig â’r siart llif a matrics risg.
•Ymateb ar safle i geisiadau am wasanaeth (e.e. Ffos ac ymholiadau cynghorau cymuned) yn ymwneud a throseddau amgylcheddol a diweddaru’r swyddfa cefn ar statws safle, gan gynnwys adnabod yr angen am weithred bellach, e.e. adrodd yn ôl ar yr angen am waith glanhau ymatebol.
•Adrodd yn ôl a chadw mewn cysylltiad yn rheolaidd gyda’r Swyddog Gorfodaeth Gwastraff a Strydoedd a’r swyddfa cefn.
•Gosod arwyddion rhybudd ar safle (e.e. rheoli cŵn a thipio).
•Gosod biniau baw cŵn ar safle yn unol â chyfarwyddyd y Swyddog Gorfodaeth Gwastraff a Strydoedd.
•Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth achlysurol, e.e. ymgyrchoedd baw cwn, gwiriadau stopio cludwyr gwastraff gyda’r Heddlu.
•Cynorthwyo i wireddu’r rhaglen gosod biniau stryd a baw ci gan gynnwys adnabod lleoliadau, gwirio a chymeradwyo’r gwaith.
•Bod yn bersonol ddestlus ac ymddangos yn broffesiynol, sicrhau y gwisgir yr iwnifform bob amser ar ddyletswydd a’i bod yn cael ei chynnal yn lân ac yn daclus.
•Cwblhau dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n gydnaws a statws y swydd.
•Cynorthwyo i fonitro defnydd a wneir o’r gwasanaeth masnachol gan fusnesau er sicrhau cydlyniad ar y cytundebau masnachol gyda’r Cyngor.
•Cynorthwyo i gydgordio gweithgareddau gorfodaeth troseddau amgylcheddol gan gynnwys cyd-weithio gyda swyddogion mewn adrannau eraill y Cyngor.
•Cynorthwyo i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill e.e. Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru (Taclo Tipio Cymru), Cadw’n Gymru’n Daclus a grwpiau cymunedol.
•I gyfrannu'n gadarnhaol at gyflawni amcanion a thargedau tîm.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd gofyn achlysurol i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol, e.e. yn ystod y cyfnodau brig, ar benwythnosau, gwyliau banc ac efallai y bydd raid gweithio oriau ychwanegol neu newid patrymau gwaith er mwyn sicrhau y bydd digon o adnoddau ar gael i foddhau gofynion gorfodaeth.
•Trwydded yrru gyfredol lawn a dilys.
•Ar adegau bydd gofyn i ddeilydd y swydd bod yn weithredol yn pob rhan o Wynedd.