Swyddi ar lein
Cydlynydd Treftadaeth Byd Gogledd Orllewin Cymru - Gwasanaeth Rhaglenni Datblygu Economaidd
£32,909 - £34,723 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 23-24809-H2
- Teitl swydd:
- Cydlynydd Treftadaeth Byd Gogledd Orllewin Cymru - Gwasanaeth Rhaglenni Datblygu Economaidd
- Adran:
- Economi a Chymuned
- Gwasanaeth:
- Rhaglenni Datblygu Economaidd
- Dyddiad cau:
- 18/05/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro tair blynedd | 37 Awr
- Cyflog:
- £32,909 - £34,723 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae’r swydd yma wedi ei ariannu ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Cadw ac yn gyfle unigryw i weithio gyda’r ddau sefydliad i gydlynu cynlluniau, gweithgareddau a grwpiau ar gyfer dau o Safleoedd Treftadaeth y Byd Cymru; Cestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd (Cestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd Safle Treftadaeth y Byd | Cadw (llyw.cymru) a Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru (Front page | LLECHI CYMRU).
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)Lleoliad: Hyblyg (i'w gadarnhau)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Hannah Joyce ar 07976441632
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 18/05/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL• Gallu blaenoriaethu gwaith a chadw at derfynau amser penodol;
• Gonest, hyderus, pendant, trefnus a hyblyg;
• Creadigrwydd a’r awydd a’r hyder i gynnig syniadau;
• Sgiliau Cyfathrebu (modern a thraddodiadol);
• Gallu cymryd cyfrifoldeb a cymell;
• Yn ddymunol ac yn gallu Cyfathrebu’n effeithiol;
• Brwdfrydedd a’r awydd i ddatrys problemau;
• Cymeriad diplomyddol ac amyneddgar;
• Y gallu i weld y darlun mawr, i ystyried goblygiadau gweithredoedd ar y rhaglen ehangach, ac adnabod cysylltiadau rhwng y gwahanol elfennau o’r gwaith, o fewn a thu allan i’r rhaglen;
• Y gallu i weithio dan bwysau ac fel rhan o dim;
• Sgiliau cynllunio a threfnu
• Defnydd o gar.DYMUNOL
•
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol neu gymhwyster rheolaeth mewn pwnc sy'n berthnasol i anghenion y swydd (gan ystyried natur y swydd, gellir ystyried profiad helaeth yn y maes fel cymhwyster perthnasol).
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.DYMUNOL
• Cymhwyster Rheoli Prosiect.
• Cymhwyster treftadaeth;
• ECDL neu gymhwyster TGCh cyfatebol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOLProfiad o:
• weithio gydag amrywiaeth o ran ddeiliaid;
• reoli asedau digidol (cyfrifol cyfryngau cymdeithasol, gwefan);
• darparu swyddogaeth ysgrifenyddol ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol gan gynnwys cymryd cofnodion, trefnu cyfieithu, trefnu cyfarfodydd, paratoi papurau;
• paratoi adroddiadau a gohebiaeth ffurfiol (e.e. llythyrau);
• monitro cynnydd yn erbyn tasgau a nodwyd.
• Dargedu grantiau o wahanol ffynonellau ariannol;
• Datblygu, cydlynu a gweithredu rhaglen o weithgareddau;
• Gweithio fel tîm neu fel unigolyn heb oruchwyliaeth;
• Gweithio i derfynau amser tynn a than bwysau;
• Rheoli adnoddau.•DYMUNOL
Profiad o:
• Weithio o fewn dulliau rheoli prosiect cydnabyddedig;
• Gweithredu prosiectau marchnata;
• Paratoi, gweithredu a rheoli contractau a dilyn canllawiau caffael;
• Paratoi a gweithredu rhaglenni gwaith;
• Trefnu digwyddiadau gan gynnwys cyfarfodydd;
• Creu a gweithredu cynlluniau marchnata.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL• Y gallu i gynllunio, monitro ac adrodd;
• Sgiliau cyfathrebu llafar, rhyngbersonol ac ysgrifenedig rhagorol; yn y Gymraeg ac yn y Saesneg;
• Sgiliau TG gan gynnwys MSOffice, Canva (neu debyg), cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a drupal (neu debyg);
• Sgiliau ysgrifenyddol;
• Y gallu i gynnal trafodaethau sensitif a pharchu cyfrinachedd;
• Y gallu i ymdrin a phobl o bob oed a chefndir, a’r gallu i gyfathrebu a rhan ddeiliaid a dylanwadu arnynt wrth ystyried eu hanghenion / dyheadau.DYMUNOL
• Dealltwriaeth o’r heriau sydd yn wynebu cymunedau
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
Mewn partneriaeth efo Cadw, Cydlynu gweithgareddau Safleoedd Treftadaeth y Byd Gogledd-orllewin Cymru (STYB) sy'n cynnwys Cestyll a Threfi Muriog y Brenin Edward I yng Ngwynedd a Thirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru, er mwyn galluogi'r Safleoedd i gyflawni eu hymrwymiadau yn effeithiol i UNESCO, cymunedau lleol, sefydliadau a busnesau..Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfirfoldeb dros gyllid ac offer sydd yn gysylltiedig a’r swydd.2 Prif Ddyletswyddau.
Mae prif ddyletswyddau’r swydd yn cynnwys:Llywodraethu
• Gweithio yn agos gyda Chadeiryddion Byrddau Safle Treftadaeth y Byd i sicrhau bod llywodraethu o'r safon uchaf.
• Gweithredu fel y swyddog cydlynu i'r Byrddau a sicrhau bod ganddynt y wybodaeth sydd ei hangen i'w galluogi i gefnogi'r gwaith o reoli'r Safleoedd.
• Cefnogi'r Byrddau ac is-grwpiau cysylltiedig ar gyfeiriad a datblygiad y STYB, gan gynnwys darparu'r swyddogaeth ysgrifenyddiaeth i’r grwpiau y cytunwyd arnynt .Strategol
• Gweithio gyda Byrddau STYB, Cyngor Gwynedd a staff Cadw (Llywodraeth Cymru), partneriaid a chymunedau lleol i weithredu a monitro Cynlluniau Rheoli Safle Treftadaeth y Byd fel y'u cyflwynwyd i UNESCO.
• Cydlynu datblygiad a gweithredu strategaethau gweithgareddau penodol ar draws y safleoedd, gan gynnwys Marchnata, Dysgu ac Ymgysylltu â'r Gymuned.
• Hyrwyddo gweledigaeth a gwerthoedd Cynllun Rheoli STYB gydag awdurdodau a rhanddeiliaid.Rheolaeth
• Gweithio gyda staff Byrddau STYB, Cyngor Gwynedd a Cadw (Llywodraeth Cymru) yn ogystal â phartneriaid cyllido i gydlynu'r gwaith o gyflawni'r Cynlluniau Rheoli Eiddo a'r strategaethau gweithgaredd.
• Cydlynu ymatebion i faterion cynllunio a allai effeithio ar Gwerth Rhyngwladol Eithriadol y STYB ar ran y Grwpiau Cadwraeth a/neu Fyrddau.Datblygu busnes a rhwydweithiau
• Cynrychioli'r STYB gyda Phartneriaid, Adrannau'r Llywodraeth, Awdurdodau Lleol ac Asiantaethau Statudol yn ogystal â rhwydweithiau a sefydliadau fel World Heritage UK, Icomos UK ac ati.
• Cydlynu unrhyw ymgynghoriadau gyda UNESCO a Chyngor Rhyngwladol Henebion a Safleoedd (DU) ar faterion perthnasol sy'n ymwneud â'r Safleoedd Treftadaeth Byd.
• Mynd ati i chwilio am bartneriaethau newydd a pherthnasol er mwyn hyrwyddo rhaglen weithgareddau'r Byrddau.
• Cefnogi cyfarfodydd a gweithgareddau’r Grwpiau Llechi Lleol.Gwireddu Rhaglenni
• Sicrhau bod partneriaid yn deall eu cyfrifoldebau ac yn eu cefnogi i gyflawni'r allbynnau a'r canlyniadau gofynnol
• Cydlynu a chofnodi trefn fonitro effeithiol ar gyfer tîm STYB yn adrodd i Fyrddau STYBCodi arian a datblygu incwm
• Monitro rhaglenni ariannu a nodi unrhyw rai sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r Bwrdd a meini prawf cyllidwyr a chydlynu datblygiad ceisiadau cyllid perthnasol.Cyfathrebiadau
• Cefnogi a hyrwyddo perthynas weithio dda gyda'r holl randdeiliaid a chyllidwyr
• Cyfrannu at gynyddu ymwybyddiaeth yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
• Trosolwg am ddatblygiad brand, marchnata a chyfathrebu STYB a bod yn bwynt cyswllt allweddol i ymholiadau STYB ynglŷn a defnyddio brand / logos ac ati
• Sicrhau bod partneriaid a rhanddeiliaid yn cael gwybod am weithgareddau sy'n ymwneud â'r STYB, drwy waith cyfathrebu a nodwyd yn y strategaeth gyfathrebuMarchnata
• Cyd-gydlynu cyfraniad partneriaid a rhanddeiliaid i greu dull cydlynus o adnabod a marchnata'r cynnig i ymwelwyr, fel STYB unigol, a hefyd ar y cyd.
• Goruchwylio datblygiad a rheoli’r holl asedau marchnata ar-lein/digidol
• Cydlynu negeseuon marchnata allweddol gyda'r Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau (Cyngor Gwynedd a gwasanaethau tebyg yng Nghonwy ac Ynys Môn), Croeso Cymru, Cadw a phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol eraill.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Trwydded yrru gyfredol ddilys ac yswiriant busnes car.
• Bydd angen gweithio ar ben eich hun tu allan i oriau swyddfa arferol yn ôl y gofyn.
• Bydd angen i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio drwy Wynedd gyfan ar adegau, Ynys Mon a Chonwy.
• Bydd y swydd yn gofyn am ymweliadau safle a phob rhan o’r ddau Stafle Treftadaeth y Byd i ymweld ag adeiladau hanesyddol, henebion, aneddiadau a thirwedd ynghyd a chwrdd a pherchnogion a chymunedau. Bydd yn ofynol i ddeilydd y swydd feddu ar drwydded yrru lawn er mwyn gallu gyrru i leoliadau lle mae’n bosibl na fydd trafnidiaeth gyhoeddus ar gael. Darperir offer iechyd a diogelwch priodol a hyfforddiant ar gyfer ymweld a safleoedd hanesyddol.