PWRPAS Y SWYDD
• Darparu cefnogaeth glercio, gweinyddol, ariannol gyffredinol dan gyfarwyddyd ac arweiniad uwch staff.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Trefniadaeth
• Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa, ateb ymholiadau ffôn a wyneb yn wyneb ac arwyddo ymwelwyr i mewn.
• Cynorthwyo gyda chymorth cyntaf/dyletswyddau lles disgyblion, gofalu am ddisgyblion sy’n sâl, cysylltu â rhieni/staff, ayyb.
• Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer ymweliadau gan nyrs yr ysgol, ffotograffydd, ayyb.
Gweinyddu
• Darparu cefnogaeth glercio, e.e. llungopïo, ffeilio, ffacsio, e-bostio, cwblhau ffurflenni arferol a.y.y.b.
• Cadw cofnodion/systemau gwybodaeth rheolaethol yn gyfredol, yn cynnwys mewnbwn Data Star.
• Ymgymryd â theipio, prosesu geiriau a thasgau eraill TG –seiliedig.
• Trefnu a dosbarthu’r post.
• Ymgymryd â gweinyddu arferol, e.e. cofrestrau/prydau ysgol.
Adnoddau
• Gweithredu offer swyddfa, e.e. llungopïwr, cyfrifiadur.
• Trefnu storio cyflenwadau’n drefnus a diogel, casglu a chadw llechres ysgol.
• Ymgymryd â gweinyddu ariannol arferol, e.e. casglu a chofnodi arian cinio.
Cyfrifoldebau
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau a chydymffurfio â’r rhai hynny sy’n berthynol i amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cydgyfrinachedd a gwarchod data, adrodd ar bob pryder i berson priodol.
• Bod yn ymwybodol o wahaniaethau a’u cefnogi a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Gwerthfawrogi a chefnogi swyddogaeth pobl broffesiynol eraill.
• Mynychu cyfarfodydd perthnasol fel y bo’n ofynnol a chyfranogi ynddynt.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygiad perfformiad fel bo’r gofyn.