NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Cydwybodol, ymroddedig, brwdfrydig, gweithgar, gonest a dibynadwy.
Medru gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm neu’n annibynnol.
Medru gweithio oriau anghymdeithasol yn unol â’r gofyn.
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol a bod yn ddiplomyddol wrth ddelio gyda’r cyhoedd
Y gallu i fedru gweithio oriau anghymdeithasol.
DYMUNOL
Amyneddgar a synnwyr digrifwch.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Trwydded yrru ddilys.
Sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol
DYMUNOL
Tystysgrif cymorth cyntaf, trwydded radio VHF, tystysgrif cwch pŵer lefel 2, tystysgrif bad dwr personol, tystysgrif gyrru cerbydau 4x4, tystysgrif olwyn garw, cymhwyster asesu risg.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Delio wyneb yn wyneb a’r cyhoedd
DYMUNOL
Delio a thrin arian (peiriant PDQ), profiad o reoli staff neu weithio fel rhan o dîm, profiad o weithio gyda chychod neu yn y diwydiant twristiaeth. Profiad o weithio gyda pheiriannau.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth sylfaenol o egwyddorion diogelwch traethau ac ymwybyddiaeth o is-ddeddfau arfordirol.
DYMUNOL
Gwybodaeth a dealltwriaeth o weithgareddau morwrol a gwybodaeth llanw a thywydd.
ANGHENION IEITHYDDOL
Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol
Medru darllen a deall yn Gymraeg a Saesneg
Medru ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg i lefel dderbyniol