Pwrpas y swydd
•I weithio gyda phlant a’u teuluoedd yn unol a’r Ddeddf Plant 1989, Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a Fframwaith Asesu Plant Mewn Angen a’u teuluoedd.Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•I gynnig gwasanaeth i glientau unigol, teuluoedd a’r gymuned yn unol αΊ fframwaith gyfreithiol amrywiol ddeddfau sydd yn berthnasol i lês plant, gan gynnwys amddiffyn plant ac asesiadau o blant mewn angen.
•Yn unol a sgiliau a phrofiad, i ddelio ag achosion mwy cymhelth eu natur gan gynnwys rhai ble mae plant mewn perygl. I gymryd rhan mewn achosion llys gan gynnwys rhoi tystiolaeth a pharatoi adroddiadau.
•Asesu angen a rhoi cefnogaeth i deuluoedd mewn angen. Golyga hyn gydlynnu gwaith gweithwyr o asiantaethau eraill gan ddefnyddio adnoddau yr adran a’r gymuned mewn modd hyblyg.
•I weithio mewn modd sydd yn hybu lles plant sydd mewn gofal i’r Cyngor Sir.
•I fod yn rhan o sustem ddyletswydd y tim a’r swyddfa rhanbarth fel bo’r angen.
•I gydlynnu a phroffesiynau eraill sydd yn gweithio a phlant.
•I gyfrannu at ddatblygu ffurfiau newydd o waith neu wasanaeth.
•I gyfrannu at ddatblygiad cydweithwyr ym maes plant ac mewn arbenigeddau eraill os oes angen.
•Yn dibynnu ar brofiad a chymhwyster, i arolygu myfyrwyr.
•I gwbwlhau’r canllawiau/gofynion gweinydddol angenrheidiol yn unol a chanllawiau, polisiau ac ymarfer.
•I fynychu sesiynau hyfforddi gan anelu at wella sgiliau/ymarfer.
•I helpu cydweithwyr i gario allan eu dyletswyddau. Yn achlysurol, bydd gofyn cydweithio a gweithwyr eraill yn y timau/asiantaethau eraill yn ogystal a chyfrio gwaith cydweithwyr sydd yn absennol.
•Mewn amgylchiadau eithriadol, i ymgymryd a chyfrifoldebau er mwyn ymateb i sefyllfa o argyfwng.
•Unrhyw ddyletswydd neu gyfrifoldeb rhesymol fel y bydd angen gan bennaeth y gwasanaeth.
•Bod yn ymwybodol o ofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran i sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
•Mae’r Cyngor yn gweithredu rhaglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol ynghyd a phroses Gwerthuso sydd yn cyfrannu tuag at hyn, disgwylir i deilydd y swydd cydymffurfio a hyn.
•Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â natur y swydd a’i graddfa yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-