Swyddi ar lein
Swyddog Cefnogi Teulu Dros Dro - Cyf: 22-24798
£27,344 - £29,439 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2024
- Teitl swydd:
- Swyddog Cefnogi Teulu Dros Dro
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Uned Blynyddoedd Cynnar
- Dyddiad cau:
- 30/03/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2024 | 37 Awr
- Cyflog:
- £27,344 - £29,439 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
LLEOLIAD Y SWYDD I’W GADARNHAU – UNAI ARFON NEU DWYFOR
SWYDD HYD AT 31/03/2024 YN Y LLE CYNTAF
YSTYRIR SECONDIAD AR GYFER Y SWYDD HON
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y (Pecyn Gwybodaeth)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Susan Layton, Cydlynydd Rhiantu ar 07827449258
Cynnal cyfweliadau ar ddiwrnod i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymruDYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 30/03/2023
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOLAgwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Person sydd â’r dychymyg i hyfforddi unigolion/grwpiau mewn ffordd ddiddorol.
Personoliaeth ddiplomyddol a chroesawgar.
Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.
Yn fentrus, yn hyderus ac yn barod i gymryd risgiau rhesymol
Gallu i gydweithio ag amrywiaeth ac ystod eang o bobl
Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith ac i gwrdd â therfynau amser penodol.
Un sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm.DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol lefel 5 o fewn y maes addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd/gofal.
Derbynir cymhwyster Lefel 4, a bod yr ymgeisydd yn fodlon gweithio tuag at ofynion Lefel 5.A chymhwyster sydd yn cyfateb i lefel 3 NVQ/QCF ar gyfer gweithwyr cymorth, neu yn fodlon gweithio tuag at y cymhwyster yma.
DYMUNOL
Hyfforddiant mewn rhaglenni rhiantu yn seiliedig ar dystiolaeth
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOLProfiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu’i theuluoedd o fewn y maes gofal, addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd
Profiad o asesu anghenion amrywiol a chymhleth ac ymateb iddynt, gan ganolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau a chyflwyno newid.
Profiad o gynnwys plant, pobl ifanc a'u rhieni wrth gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau.
Profiad o weithio mewn sefyllfaoedd amlasiantaethol ac o feithrin perthynas
Profiad o farchnata gwasanaeth i gynulleidfa amrywiol sy ' n cynnwys gweithwyr proffesiynol, plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr.
Profiad o weithredu rhaglenni neu grwpiau cefnogi teuluDYMUNOL
Profiad o ddarparu cyngor a gwybodaeth broffesiynol i sawl cynulleidfa
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOLGallu i weithio’n arloesol a chreadigol o fewn cyd-destun aml disgybledig.
Sgiliau wrth gynllunio gwaith yn effeithiol ac wrth gyrraedd targedau a chyflawni tasgau.
Ymwybyddiaeth o ACES (profiadau niweidiol yn ystod plentyndod), a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu a gweithredu ymyraethau effeithiol.
Gwybodaeth am ddiogelu, deddfwriaeth gofal plant, a gweithdrefnau amddiffyn plant.
Y gallu i adnabod gallu rhieni i fagu plant, a'r risg a'r ffactorau amddiffynnol.
Dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn.
Y gallu i adnabod a mesur anghenion drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau.
Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol. Sgiliau cyfrifiadurol da a’r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (e.e. Word, Excel, Access, Outlook, PowerPoint)
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.DYMUNOL
Dealltwriaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Helpu plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i ffynu gan weithio’n integredig ac yn aml asiantaethol i sicrhau fod gwasanaethau holistic ac o ansawdd uchel yn cael eu darparu i deuluoedd Gwynedd sy’n seiliedig ar y ‘Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni.’
• Ymgysylltu â rhieni mewn gweithgareddau gwaith unigol a grŵp i'w cynorthwyo i wella eu sgiliau rhiantu.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Offer ac adnoddau cyrsiau.
Offer TG – Laptop a ffôn symudol
Prif Ddyletswyddau.
• Cynllunio, darparu ac arwain ar gynnig ystod o ymyraethau rhiantu a chefnogi teuluoedd sy’n seiliedig ar fframwaith ‘ Rhiantu Yng Nghymru – Canllawiau ar Ymgysylltiad a Chymorth.’ Bydd hyn yn cynnwys:
1. Rhaglenni rhiantu sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
2. Cymorth Unigol i deuluoedd.
3. Rhaglenni rhiantu anffurfiol strwythuredig
4. Cymorth anffurfiol galw heibio.
• Adnabod ac asesu galw gan sicrhau mai'r hyn sydd yn bwysig i’r teulu sydd yn ganolog i bob dim a bod ymateb i’r angen hyn wedi ei deilwra mewn partneriaeth a'r teulu mewn ffordd bositif ac adeiladol ac yn seiliedig ar asesiad neu gynllun teulu cynhwysfawr.
• Cydnabod mai’r rhiant/plentyn yw’r arbenigwyr ar eu bywydau a’u cynorthwyo i nodi beth fyddai yn eu helpu ac adeiladu ar eu cryfderau a’u sgiliau drwy ddefnyddio sgiliau cymhelliant a chyfweld ysgogiadol.
• Cydlynu darpariaeth cyrsiau a grwpiau drwy:
I. Cynefino a’r ystod o raglenni sydd ar gael i gefnogi teulu gan weithredu arlwy o ymyraethau gan ddefnyddio’r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd gydag anghenion y teuluoedd
II. Cydgordio cyfeiriadau a rhestrau aros ar gyfer cyrsiau/grwpiau a chadw deialog agored am hyn gyda chyfeirwyr, rhieni a rheolwyr.
III. Adnabod lleoliadau addas a chynnal asesiadau risg.
IV. Adnabod a threfnu darpariaeth gofal plant o safon uchel mewn cydweithrediad a rhieni.
V. Cydgordio asesiadau cychwynnol a chau er mwyn mesur pellter a deithiwyd.
VI. Sicrhau fod trafnidiaeth addas a diogel yn cael ei drefnu ar gyfer mynychwyr.
VII. Defnyddio sgiliau arwain grŵp cadarnhaol i sicrhau fod cyrsiau a grwpiau yn rhedeg yn effeithiol ac yn bodloni canllawiau a rheolau ffyddlondeb rhaglenni yn y maes rhiantu.
• Gweithio fel rhan o dîm aml disgyblaethol integredig gan barchu sgiliau, arbenigedd a chyfraniad cyd-weithwyr. Cymryd cydberchnogaeth dros sicrhau gweithio mewn modd integredig.
• Cydweithio gyda’r cyfeirwyr gwasanaeth fel y Cydlynwyr TAT a Dechrau’n Deg i sicrhau fod y tîm cefnogi teulu yn cyfrannu i gynlluniau gofal a chefnogaeth i sicrhau bod y ddarpariaeth rhiantu yn cyfarfod ac anghenion yr unigolyn.
• Mynychu a chyfrannu’n weithredol at ystod o gyfarfodydd, digwyddiadau a seminarau sy’n rhoi sylw i faterion sy’n gysylltiedig â datblygiad yn y maes rhiantu a chefnogi teuluoedd er mwyn rhaeadru’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion a meddylfryd cyfredol.
• Mewn cydweithrediad a chydweithwyr priodol marchnata’r gwaith y tîm gan wneud defnydd o rwydweithiau cymdeithasol a Hwb Teuluoedd Gwynedd.
• Cydweithio i sefydlu a chynnal systemau i fonitro’r ddarpariaeth drwy fesur effaith y rhaglenni a sicrhau systemau rheoli perfformiad effeithiol. Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau data mewn modd amserol a thaclus a sicrhau y bodlonir yr holl ofynion adrodd perfformiad.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
37 awr yr wythnos
Yn achylusrol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.