Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Darparu Gwasanaeth cwnsela i bobl ifanc o fewn ysgolion uwchradd a chynradd Gwynedd ac Ynys Môn. Ar hyn o bryd mae’r darpariaeth yn rhithiol ac yn cael ei gynnig drwy linc fidio, ffon, sgwrs ac e-bost, mae hyfforddiant ar gael i gefnogi hyn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gliniadur a ffon symudol
Prif ddyletswyddau
•Gwasanaethu fel aelod o dîm i ddarparu gwasanaeth cwnsela effeithlon, proffesiynol a statudol ar gyfer pobl ifanc pan a fel bo angen.
•Darparu gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb a/neu rithiol ar gyfer yr unigolion hynny yr ystyrir fyddai’n elwa o gwnsela:
-Darparu a trefnu asesiad un i un yn unol â rheoliadau BACP
-Cydymffurfio a chynnal nifer cyfyngedig o sesiynau yn unol â rheoliadau BACP
-Sicrhau y caiff pob cleient ei asesu a bod naill ai’r gwasanaeth yn delio a’r achos neu y caiff y cleient ei gyfeirio at y gwasanaeth priodol
•Gweithredu mewn modd sy’n cydymffurfio â safonau cydnabyddedig darparwyr cwnsela:
-Cydymffurfio â Chod Ymarfer a Fframwaith Moesegol y BACP
-Dilyn argymhellion Pecyn Cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar arfer dda
-Hoelio sylw ar drefniadau gwarchod ac amddiffyn plant a phobl ifanc
-Cynnal cydbwysedd yn annibynnol rhwng Gwarchod a Moeseg – Er budd y cleient
•Cadw cofnodion safonedig ar bob achos:
-Casglu nodiadau sylfaenol ar bob achos unigol
-Darparu data ac adborth a’i mewnbynnu ar system rheoli gwybodaeth y gwasanaeth
-Sicrhau cadw yr holl nodiadau yn unol â deddfwriaeth Gwarchod Data
•Dilyn gweithdrefn ble ceir barn y defnyddiwr ynglŷn â’r gwasanaeth
•Cynnal cysylltiadau cadarn a system cytunedig o gydweithrediad effeithlon gydag asiantaethau perthnasol o fewn ffiniau cyfrinachedd
•Ymgynghori a chydweithwyr allweddol eraill ym maes lles a iechyd meddwl plant a phobl ifanc a dilyn system gyfeirio gytunedig tuag at, ac ymlaen, o’r gwasanaeth.
•Darparu gwybodaeth ar y gwasanaeth cwnsela. Codi ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc, eu rhieni a phobl broffesiynol eraill ynghylch presenoldeb y gwasanaeth cwnsela a sut mae’n gweithredu. Gwneud staff yr ysgol yn ymwybodol o gwnsela, eu cynghori ynghylch y wefan gwasanaeth cwnsela o fewn yr ystod o wasanaethau cefnogol sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc.
•Cyflawni unrhyw dasgau sy’n gysylltiedig a darparu cwnsela mewn ysgolion, sy’n rhesymol i’w ddisgwyl o ystyried cyflog y swydd, ar gais rheolwr llinell.
•Gwarchod cleientiaid ac eraill sydd mewn perygl o gryn niwed:-
Mae cleientiaid yn ddibynnol ar y Gwasanaeth Cwnsela i ddarparu lefel uchel o gyfrinachedd. Mae’n hanfodol i’r Cwnselydd ddarparu’r amgylchfyd diogel hwn tra’n cadw cydbwysedd rhwng eu Deddfwriaeth Fframwaith Moesegol ac Amddiffyn Plant. Mae angen monitro anghenion y cleientiaid yn gyson trwy gydol y broses Therapiwtig.
•Cyd gordio’r gwasanaeth ar lefel ysgol drwy:
-Drefnu a gweinyddu’r gwasanaeth ar y cyd â staff yr ysgol;
-Cyfathrebu a chysylltu â staff yr ysgol, er budd yr unigolyn ifanc, gan gadw oddi mewn i derfynau cyfrinachedd y cleient;
-Gweithredu fel adnodd i staff ysgolion drwy roi cipolwg ar fyd cwnsela a hyrwyddo’r gwasanaeth lle bo modd;
•Cynnal a datblygu arfer broffesiynol drwy reolaeth gyson a pharhaus, goruchwyliaeth glinigol a hyfforddiant, a thrwy gymryd rhan mewn gwerthusiadau ac archwiliadau o’r gwasanaeth;
-Asesu a rheoli’r risgiau i unigolion, ac i chi’ch hun.
-Monitro, ail-asesu a rheoli’r risgiau i unigolion yn rheolaidd
-Cymryd camau ar unwaith ac sy’n gymesur i ddelio â/mynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad sy’n peri risg
-Cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion gwarchod y Bwrdd lleol Amddiffyn Plant a rhai’r adran.
-Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, safonau cenedlaethol a polisïau adrannol perthnasol.
-Cadw cofnodion achos cywir ac wedi ei diweddaru a sicrhau bod ffeiliau’n cydymffurfio â gofynion polisi’r adran ar amddiffyn data, cadw cofnodion a cyfrinachedd.
-Cyfrannu’n rhagweithiol mewn adolygiadau arfarnu perfformiad a goruchwyliaeth unigol.
-Gwneud cyfraniad positif tuag at y tîm, trwy gydweithio â chydweithwyr a’r rheolwr llinell.
-Mynychu cyfarfod tîm a cymryd rhan mewn unrhyw weithgorau perthnasol a cyfarfodydd adrannol a rhyng-asianaethol eraill fel bo angen.
•Cyffredinol
-Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
-Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
-Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
-Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
-Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
-Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
-Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-