Pwrpas y swydd
•Gweithio fel aelod o dîm Iechyd Meddwl Aml Ddisgyblaethol a bydd ganddo/ganddi gyfrifoldeb am asesu, trefnu a darparu gwasanaethau i bobl sydd a phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr. Yn ogystal a hyn disgwylir i ddeilydd y swydd gysylltu a gweithwyr cymunedol eraill o’r sector statudol a’r sector wirfoddol pan fo’n briodol er mwyn cyd drefnu’r gwasanaeth a gyflawnir. Bydd hefyd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl fel Gweithwir Cydnabyddedig (AMHP) neu gallu a’r sgiliau i gwblhau cwrs AMHP o fewn dwy flynedd i gychwyn y swydd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Dim penodol ond disgwylir i’r deilydd fod yn ymwybodol o oblygiadau/cyd-destun ariannol unryw becyn y maent yn ei drefnu ee lleoliad preswyl.
Prif ddyletswyddau
•I weithio o fewn Y Cynllun Rhaglen Gofal ac Asesiad Unedig y gwasanaeth.
•Bod yn aelod gweithredol o’r tim derbyn o fewn y gwasanaeth ac I ymgymryd a gwaith cyfeirio ac asesu anghenion defnyddwyr gwasanaeth
•Asesu anghenion defnyddwyr a threfnu a darparu gwasanaethau.
•Cloriannu, paratoi a gweithredu cynlluniau gofal mewn partneriaeth gyda defnyddwyr y gwasanaeth a phobl berthnasol eraill.
•Adolygu’r cynlluniau gofal yn reolaidd.
•Gweithio ar y cyd gyda’g aelodau eraill y tim pan fo angen.
•Rhoi gwybodaeth/cyfarwyddyd i ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr.
•I ffurfio perthynas agos efo’r sector Gofal Sylfaenol.
•Os yw deilydd y swydd yn gydnabyddedig dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 bu’n ofynnol iddo/iddi wneud gwaith statudol dan y Ddeddf.
•Os nad yn gydnabyddedig dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bydd disgwyl iddo/iddi gwblhau cwrs addas er mwyn derbyn cydnabyddiaeth o fewn dwy flynedd o gychwyn y swydd.
•Cymryd rhan yn rhaglen datblygu staff y Cyngor a mynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a bod yn ymwybodol o syniadau newydd, deddfwriaeth newydd ym maes iechyd meddwl.
•Cymryd rhan mewn arolygaeth gyda’r rheolwr tim.
•Mynychu cyfarfodydd aml ddisgyblaethol, cynadlleddau achos, cysylltu ag asiantaethau cymunedol a chynrychioli’r tim ar bwyllgorau/grwpiau perthnasol.
•Cydymffurfio a’r holl bolisiau a threfn y Cyngor a’r Adran.
•Cydymffurfio a’r holl bolisiau a threfn y Tim.
•Gall y swydd ddisgrifiad yma gael ei adolygu o dro i dro ac nid ddylid ei hystyried fel rhestr gyflawn o ‘r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a’r swydd ond yn unig fel mynegiant o’r prif ddyletswyddau.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-