Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog ym mhopeth rydym yn ei wneud.
• Rheoli prosiectau mewn cydymffurfiaeth â Rheoli prosiect YGC.
• Gweithdrefnau ac anghenion cleientiaid fel y cyfarwyddwyd gan y Prif Beiriannydd / Rheolwr y Gwasanaeth.
• Bod yn rhan o Dîm Rheoli Prosiect a chydymffurfio gyda Gweithdrefnau Rheoli Prosiectau YGC ac anghenion y cleient.
• Datblygu modelau hydrolig 1D, 2D a 1D-2D i gyfarch anghenion y cleientiaid.
• I weithredu i feithrin a chynnal perthynas broffesiynol gyda chleientiaid newydd a phresennol a sicrhau bod gwelliant parhaus wrth gyflawni drwy sicrhau a gweithredu ar yr adborth i'r perfformiad.
• Datblygu arbenigedd personol mewn modelu hydrolig ac arwain modelau hydrolig.
• Rheoli a goruchwylio Timau Prosiect hyblyg gan gynnwys staff prosiect mewnol ac allanol ynghyd â chontractwyr.
• Bod yn rhan o Dîm Prosiect hyblyg a chyflawni'r cyfan a ddisgwylir gan aelodau'r tîm prosiect i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.
• Darparu a chydymffurfio â holl ofynion adrodd i'r Rheolwr Gwasanaeth/Rheolwr Prosiect yn ôl cywirdeb disgwyliedig a dyddiadau terfyn.
• Mentora staff iau a bod yn adeiladol a rhyngweithiol i ddatblygu staff i'r safon uchel ddisgwyliedig.
• Darparu'r raddfa ddisgwyliedig o arolygu safle yn unol â chyflawni briff y prosiect.
• Bod yn ymwybodol o, a gweithredu gweithdrefnau newydd a gyflwynwyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Cyngor yn ogystal â datblygiadau cenedlaethol er mwyn bod yn ymwybodol o holl fentrau'r Llywodraeth/UE a'u goblygiadau.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Rheoli a goruchwylio staff eilaidd.
• Dirprwyo i’r rheolwr yn ei h/absenoldeb.
• Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
• Bod yn hollol gyfarwydd gyda chynlluniau a gweithdrefnau'r adran gan gynnwys yr holl ddogfennau safonol, canllawiau/gweithdrefnau gweithredol a'r Cynllun Busnes.
• Bod yn hollol gyfarwydd gyda'r holl feddalwedd a'r systemau TG sy'n hwyluso gweithredu'r gweithgareddau a amlinellwyd ac sy'n rhan o adran 'Pwrpas y Swydd' (uchod).
Prif Ddyletswyddau
• Caffael a chynnal y wybodaeth fwyaf diweddar ynglŷn â’r: -
• Arfer gorau cyfredol o ran materion dylunio
• Dull caffael ar gyfer prosiectau
• Safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol)
• Cyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982).
• Rheoli a goruchwylio staff eilaidd.
• Dirprwyo i’r rheolwr yn ei h/absenoldeb.
• Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
• Bod yn hollol gyfarwydd gyda chynlluniau a gweithdrefnau'r adran gan gynnwys yr holl ddogfennau safonol, canllawiau/gweithdrefnau gweithredol a'r Cynllun Busnes.
• Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Rheoli eich gwariant eich hun ar brosiectau.
• Y gallu i weithio dan bwysau. Gallu ysgogi staff er mwyn sicrhau llwyddiant YGC.
• Yr angen i weithio tu allan i oriau swyddfa mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosiadau a chyfarfodydd y Cyngor a phan fyddwch yn cael eich galw allan i sefyllfaoedd argyfwng.
Mae’r uchod yn amlinelliad o’r dyletswyddau, er mwyn rhoi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.