Swyddi ar lein
Arweinydd Ymarfer Awstistiaeth
£39,493 - £41,496 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2027
- Cyfeirnod personel:
- 22-24746
- Teitl swydd:
- Arweinydd Ymarfer Awstistiaeth
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Adnoddau Gofal / Comisiynu
- Dyddiad cau:
- 10/03/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2027 | 37 Awr
- Cyflog:
- £39,493 - £41,496 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS3
- Lleoliad(au):
- Hyblyg
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu ag Aled Gibbard neu Helen Fon Owen ar 01286 679713 neu 01286 679809
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD GWENER, 10 MAWRTH, 2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu i weithio mewn modd gwrth ormesol.
Gallu i arwain (staff a prosiect)
Gallu i gyfrannu at drafodaethau, cynlluniau a datblygiadau adrannol, trawsadrannol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Gallu i ddylanwadu ac ysgogi eraill.DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOLHANFODOL
Cymhwyster perthnasol mewn gwaith cymdeithasol (DipSW,CQSW,CSS)
neu gymhwyster Nyrsio a/neu gymhwyster Rheoli Prosiect.
Cofrestriad gyda chorff proffesiynol perthnasol e.e."Mae'n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol (neu unrhyw un sy'n disgrifio'i hun yn weithiwr cymdeithasol) fod wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Bydd Cyngor Gwynedd yn ad-dalu'r ffi cofrestru flynyddol i'r gweithiwr."
DYMUNOL
Cymhwyster uwch mewn Gwaith Cymdeithasol neu Nyrsio neu
Cymhwyster Rheoli Staff (e.e. TMDP, ILM) neu gymhwyster rheoli prosiect.PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad sylweddol o waith plant a/neu oedolion bregus neu gyda gwaith prosiect mewn maes perthnasol i hynny.
Profiad sylweddol o weithredu o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 neu o fod wedi bod yn rhan o brosiect/au sy’n gysylltiedig â’r ddeddf.
Profiad a dealltwriaeth o anghenion pobl awtistig/cyflwr niwroddatblygiadol.DYMUNOL
Profiad o reoli staff/llwyth gwaith.
Profiad o asesu neu fod wedi gweithio gyda pobl awtistig, neu’n ran o brosiect cysylltiedig.
Profiad o fod wedi datblygu gwasanaeth neu brosiect.
Profiad o weithio ar sail ranbarthol a chyfrannu at drafodaethau cenedlaethol.
O fod wedi darparu hyfforddiant.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i weithredu fel aelod o dîm.
Gallu i gyfathrebu o safon uchel, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, yn arbennig y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth.
Gallu i arwain ac ysgogi tîm, a gweithio a chynllunio’n drefnus.
Gallu i weithio dan bwysau a blaenoriaethu’n effeithiol.
Gallu i weithio’n amlddisgyblaethol
Trwydded Yrru gyfredolDYMUNOL
Gallu i ddarparu hyfforddiant
Gwybodaeth am ddarpariaeth gwasanaethau awtistiaeth a’r hyn sy’n bwysig i blant ac oedolion awtistig wrth ganfod canlyniadau da ar eu cyfer.ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Arwain ar brosiect datblygiadol a thrawsffurfiol ar draws yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant i hyrwyddo gweithrediad o’r Cod Ymarfer ar gyfer Awtistiaeth a datblygu gwasanaethau fel rhan o gynllun awtistiaeth ar gyfer y Sir. Drwy hyn, bydd y swydd yn cyfrannu at nod y Cyngor o alluogi pobl i fyw eu bywydau fel y maent yn dymuno a rhoi’r person yn ganolog yn unol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Goruchwylio a mentora gweithwyr o fewn y gwasanaeth awtistiaeth (5 swydd).
• Mentora a dylanwadu staff mewn timau eraill ac ar draws adrannau.
• Cyfrifoldeb am fonitro cyllidebau penodol, e.e. y gyllideb RIF ac awtisitaeth.
Prif Ddyletswyddau.
• Cydlynu maes gwaith awtistiaeth, datblygu ymarfer a hybu cydweithio wrth ddatblygu’r cynllun ar gyfer cyfarfod ag anghenion unigolion awtistig. Defnyddio’r Cod Ymarfer ar gyfer Awtistiaeth i sicrhau fod y Cyngor yn gweithredu ei ddyletswyddau statudol ac yn datblygu gwasanaethau o fewn y maes. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio gydag adrannau eraill o fewn y Cyngor, ynghyd ag asiantaethau allanol gan sicrhau fod y gwasanaethau yn gweithredu mor effeithiol a phosib ac yn cyd fynd ag egwyddorion Ffordd Gwynedd.• Darparu cyngor, cyfarwyddyd, cefnogaeth a mentora proffesiynol i ymarferwyr a datblygu ymarfer proffesiynol o fewn eu timau a’r gwasanaethau yn gyffredinol.
• Cydweithio gyda holl dimau yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Theuluoedd i sicrhau fod y gwasanaethau yn cyfarch anghenion trigolion Gwynedd a’u teuluoedd/gofalwyr a cefnogi’r gwasanaethau sydd yn cael eu cynnig yn cyrraedd eu potensial yn llawn.
• Bod y prif bwynt cyswllt o fewn y ddwy adran ar faterion awtisitaeth.
• Herio yn effeithiol pan yn briodol er mwyn sicrhau gwasanaethau o safon.
• Sicrhau dogfennaeth o safon uchel tra’n arwain ar y prosiect. Paratoi adroddiadau i reolwyr ac aelodau o dan arweiniad yr Uwch Reolwr Gweithredol.
• Sicrhau fod deunyddiau addas a hygyrch ar gael er mwyn gallu rhannu gwybodaeth gyda trigolion Gwynedd a’u teuluoedd/gofalwyr i hybu gwybodaeth am ddatblygiadau a digwyddiadau yn y maes. Sicrhau bod gwybodaeth cyfredol ar gael ar gyfryngau cymdeithasol a tudalen we’r Cyngor. Cydweithio gyda tim y wê a’r tim cyfathrebu.
• Mynychu, ffurfio ac arwain ar fforymau perthnasol gyda cynrychiolwyr o wahanol dimau, gan gynnwys partneriaid megis y Gwasanaeth Awtisitaeth Rhanbarthol a Chenedlaethol, Bwrdd Iechyd, yr Adran Addysg a defnyddwyr gwasanaeth.
• Cyd weithio gyda gwasanaethau a hybiau cymunedol ayyb i sicrhau bod negeseuon am wasanaethau awtisitiaeth yn cael eu cyfathrebu yn lleol gyda unigolion.
• Ymgyfarwyddo a chadw i fyny gyda datblygiadau yn y maes awtisitaeth a chydweithio gyda partneriaid i sicrhau fod y wybodaeth ddiweddaraf ar gael i drigolion Gwynedd er mwyn hybu annibynniaeth a lleihau dibyniaeth ar wasanaethau craidd.
• Adolygu a datblygu perthynas agos gyda chyrff ac unigolion sydd yn cyfrannu at y maes awtisitaeth, e.e. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithasau Tai, Mudiadau Trydydd Sector.
• Sefydlu systemau addas ar gyfer sicrhau monitro perfformiad a pharatoi adroddiadau cynnydd yn rheolaidd.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gall fod amseroedd achlysurol ble bydd angen gweithio oriau hyblyg (er enghraifft mynychu cyfarfodydd neu cyfarfod grwpiau cymunedol tu allan i oriau gwaith).
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.