Lleoliad - Dalgylch Bala
Gwasanaeth : Gwasanaeth Darparu Gofal Cartref
Math Swydd/Oriau : Parhaol 33awr Patrwm shifftiau bloc
Swyddi Gofal –
Ydych chi wedi ystyried gweithio yn y maes Gofal?
A ydych yn awyddus i ddilyn gyrfa sy’n rhoi boddhad a phleser i chi wrth gefnogi eraill?
Mae cyfle nawr i chi ymuno hefo Tîm Gofalwyr Cartref Cyngor Gwynedd
Rydym eisiau clywed gennych nawr yn fwy nac erioed – cysylltwch hefo ni heddiw am fanylion.
Fel aelod o staff, byddwch yn manteisio ar becyn hyfforddiant cynhwysfawr sy’n berthnasol i waith gofal.
Byddwch yn cael cyfle i ennill cymhwyster proffesiynol.
DBS (CRB) di dal - Mae cyflogaeth yn amodol i dderbyn adroddiad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
25.5 Diwrnod a wyliau pro rata y flwyddyn ac hawl Gŵyl y banc (cynyddu i 28.5 diwrnod
pro rata yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth di-dor hefo’r Cyngor)
Pensiwn atyniadol ar gael
Buddiannau staff amrywiol
Tâl - £ 20,812 - £21,189 (llawn amser 37awr) £10.79 – 10.98 / awr
Teithio .45c/milltir
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth] (https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rhian Jarvis ar 07776227733
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 16/03/2023
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.