Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd yn unol â gofynion rheolaethol y Gwasanaeth Morwrol gan sicrhau gwelliant sylweddol yn ansawdd a rheolaeth yr arfordir.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb dirprwyedig am holl staff, cyllid ac adnoddau'r Gwasanaeth Morwrol yn unol â’r gofyn.
•Rheoli’r Gwasanaeth ar y cyd gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau yn absenoldeb y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol.
•Cyfrifoldeb rheolaethol am Swyddogion Traeth parhaol y Gwasanaeth.
•Penodi, hyfforddi a rheoli holl staff tymhorol y Gwasanaeth Morwrol ynghyd a phwrcasu a dosbarthu offer ag iwnifform ar eu cyfer.
•Cydgordio, a sicrhau bod holl offer a chyfarpar diogelwch arfordirol yn cael eu harchwilio yn unol â’r gofynion a bod y ffurflenni monitro yn cael eu cwblhau yn unol â’r drefn.
•Cyfrifoldeb am fflôt y traethau a throsglwyddiad arian cofrestru a ffioedd lansio i’r Swyddfa Forwrol, Swyddfa Bost neu Fanc.
Prif ddyletswyddau
•Paratoi rhaglenni gwaith gan adnabod amcanion mesuradwy a chlir ar gyfer y Gwasanaeth yn flynyddol.
•Cynorthwyo ag annog y Swyddogion Traeth i gynllunio rhaglenni gwaith a chytuno ar gynllun gwella ar gyfer traethau’r sir, gyda’r nod o gynnig gwasanaeth o ansawdd i’r cyhoedd. Sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau o fewn amserlen benodol.
•Penodi, hyfforddi a rheoli holl staff tymhorol y Gwasanaeth Morwrol a llunio rhaglenni gwaith ar eu cyfer.
•Rheoli ag annog staff y traethau i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol a diogel.
•Cyflwyno ceisiadau Gwobrau Traeth yn flynyddol gan sicrhau fod y traethau gwobrwyiedig yn cydffurfio ar meini prawf perthnasol.
•Sicrhau bod yna welliant sylweddol yng nghynllun bwiau / parthau'r traethau a chadw cofnod o'r holl offer a ddarperir.
•Goruchwylio a gorfodi rheoliadau ac is-ddeddfau arfordirol.
•Paratoi adroddiadau rheolaidd i’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol yn unol â’r gofyn a mynychu a chyfranogi mewn cyfarfodydd gyda Cynghorau Cymuned a grwpiau / mudiadau perthnasol ac adrodd ar yr hun a drafodwyd (cymryd cofnodion fel y bydd angen).
•Cynnal cyflwyniadau i grwpiau, ysgolion a mudiadau fel y bydd angen a threfnu a chynorthwyo mewn ymgyrchoedd hybu diogelwch arfordirol neu ymgyrchoedd gwirfoddol i wella ansawdd yr arfordir.
•Diweddaru ac ychwanegu at Gynllun Argyfwng y Gwasanaeth Morwrol a chyflawni a diweddaru holl Asesiadau Risg y gwasanaeth. Sefydlu gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfiaeth y traethau â gofynion statudol Iechyd a Diogelwch. Cynorthwyo gyda datblygiad polisïau mewnol y gwasanaeth.
•Cynorthwyo gyda datblygiad a rheolaeth cynllun cofrestru badau pwer y gwasanaeth ac archebu’r holl drwyddedau cofrestru’n flynyddol.
•Ymdrin ag ymateb i achosion o lygredd arfordirol yn unol â'r gofyn.
•Datblygu safleoedd gwybodaeth a fydd yn cynnwys hysbysfyrddau, paneli dehongli, posteri, taflenni arweiniol a gwybodaeth er mwyn hysbysu’r cyhoedd o bwysigrwydd diogelwch, yr amgylchedd a bywyd gwyllt yr arfordir.
•Cynorthwyo adran T.G. y Cyngor i ddatblygu, diweddaru a gwella safle we y Gwasanaeth
•Dylunio, pwrcasu a safoni holl arwyddion arfordirol y gwasanaeth.
•Cynorthwyo gyda gweinyddiaeth y Swyddfa Forwrol ag ymdrin ag ymateb i ymholiadau a dderbynnir yn y swyddfa - wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost neu lythyr.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd gofyn i’r Uwch Swyddog Traethau weithredu o unrhyw un o’r harbyrau neu draeth penodol pe bydd salwch neu ddiffyg staff. Bydd gofyn i’r Swyddog weithio ar nifer o benwythnosau yn ystod y cyfnod a fu yn arwain at Ŵyl Y Pasg hyd at ddiwedd mis Medi, gweithio pob Gwŷl Banc a rhai nosweithiau. Fe fydd gofyn i’r swyddog fod ar alwad ac yn barod i ymateb mewn achosion brys ac mewn argyfwng.