PWRPAS Y SWYDD
Gweithredu fel aelod o dim sydd yn cyflenwi cefnogaeth weinyddol.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
CYFRIFOLDEB AM ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, offer)
-
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL
• Gwaith gweinyddol cyffredinol gan gynnwys teipio, llungopio, ffacsio, ffeilio, pasio anfonebau, ateb y ffôn, dosbarthu’r post a.y.y.b.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau sy’n gyson â lefel cyffredinol o gyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.)
-
Noder mai braslun o swydd ddisgrifiad gweinyddol cyffredinol ydi’r uchod ac nid yn angenrheidiol yn swydd ddisgrifiad fydd ymgeiswyr llwyddiannus yn weithio iddi gan fod amrediad eang o swyddi eraill yn gallu codi o fewn y pwl ar sail dros dro.