Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Fflyd drwy archebu darnau cerbydau a pheiriannau yn ogystal a gwasanaeth gweinyddol yng ngweithdai'r Gwasanaeth Fflyd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff sy’n gysylltiedig â’r dyletswyddau a nodwyd. Unrhyw offer, cerbyd, beiriant neu nwyddau sy’n ymwneud â’r dyletswyddau a nodwyd.
Prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Fflyd i ddarparu gwasanaeth effeithiol, effeithlon ac economaidd gydag ystyriaeth benodol i’r canlynol:
•Pwrcasu darnau ar gyfer defnydd dydd i ddydd y gweithdai ar gyfer amrywiaeth o gerbydau a pheiriannau
•Cynnal gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer gweinyddiaeth y gweithdai
•Prosesau, mewnbynnu a chynnal unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i waith y gweithdai yn y System Rheolaeth Fflyd ac unrhyw system gyfrifiadurol berthnasol
•Cysylltu â chleientiaid i gyd-drefnu’r gwasanaeth
•Rheoli lefelau stoc storfeydd y gweithdai gan gynnwys cynnal arolygon o lefelau stoc a gweinyddiaeth gyffredinol y storfeydd
•Ymateb i ymholiadau gan gleientiaid
•Monitro dyddiadau archwiliadau diogelwch a gwasanaethau yn ogystal â dyddiadau profion cerbydau
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen gweithio tu allan i oriau gwaith i ymateb i anghenion y gwasanaeth a digwyddiadau argyfwng.