Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynorthwyo arweinyddion y Feithrinfa a Rheolwraig y Feithrinfa i drosglwyddo gofal o safon uchel ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu meithrinfa Plas Pawb, gan sicrhau bod eu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol yn cael eu cwrdd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Dim
Prif Ddyletswyddau
• Cyfrannu tuag at gynllunio a gweithredu rhaglenni priodol o weithgaredd ar gyfer y plant mewn cydweithrediad â Rheolwr y Feithrinfa, arweinyddion y Feithrinfa a staff eraill, yn cynnwys myfyrwyr. Bydd rhaglenni gweithgaredd yn cael eu trosglwyddo trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Cynorthwyo arweinyddion y Feithrinfa i drosglwyddo gofal o safon uchel, gan sicrhau bod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol y plant yn cael eu cwrdd.
• Meddu ar ddealltwriaeth lawn o system y Feithrinfa o gadw cofnodion a chyfrannu tuag at arsylwi a chofnodi datblygiad plant unigol, gan ddefnyddio’r system gweithwyr allweddol.
• Gweithio ochr yn ochr â’r rheolwr a’r staff i sicrhau darpariaeth o ystod o offer, gweithgareddau ac arddangosfeydd sy’n ysgogi, dan do ac yn yr awyr agored, sy’n berthnasol i oedrannau ac anghenion y plant.
• Sicrhau bod y mannau chwarae, boed dan do neu yn yr awyr agored, yn amgylcheddau diogel, hapus a gofalgar, sy’n cymell y plant i chwarae’n rhydd.
• Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cwrdd ag anghenion pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, gan sicrhau rhoddir ystyriaeth ddyledus i genedl, diwylliant, hîl, crefydd, iaith ac anabledd.
• Bod mewn cyswllt â rhieni/gofalwyr ac annog iddynt fod a wnelo â lleoliad eu plentyn yn y feithrinfa a’u datblygiad.
• Parchu a dilyn trefniadau ar gyfer babanod a phlant bach sy’n mynychu’r feithrinfa fel yr amlinellir gan eu rhieni/gofalwyr.
• Cynorthwyo gyda gwasanaeth codi plant o’r ysgol.
• Cynorthwyo mewn darparu ymborth cytbwys iachus ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, yn cynnwys paratoi bwyd, cynorthwyo gyda bwydo’r plant, sicrhau bod amseroedd prydau yn achlysuron cymdeithasol, a chlirio ar ôl amseroedd prydau.
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau a nodir gan Gyngor Gwynedd a Meithrinfa Plas Pawb.
• Ymgyfarwyddo â dilyn Safonau Cenedlaethol gofal dydd llawn mae’n ofynnol eu cyrraedd o leiaf, fel yr amlinellir o fewn canllawiau cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW).
• Cydrannu’r cyfrifoldeb dros warchod a hyrwyddo lles pob plentyn yn y feithrinfa, fel y cynhwysir o fewn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
• Sicrhau meddiant parhaus ar wybodaeth weithiol o egwyddorion ac amcanion y prosiect Dechrau’n Deg.
• Meithrin perthnasoedd gweithio da gydag a dealltwriaeth o asiantaethau allanol a phobl broffesiynol eraill sydd yn ymwneud â datblygiad a gofal plant unigol.
• Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad personol parhaus, trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a dal i feddu ar y wybodaeth ddiweddaraf o ddeddfwriaeth a rheolau sy’n berthnasol i’r swydd. Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn barod i weithio tuag at sicrhau cymhwyster galwedigaethol a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol, e.e. NVQ 3.
• Mynychu cyfarfodydd wythnosol y tîm, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd misol unigol ac arfarniadau blynyddol gyda Rheolwr neu Arweinydd y Feithrinfa.
• Cynorthwyo yn rheolaeth ddomestig ddyddiol y feithrinfa, gan gynnwys sicrhau y cedwir y feithrinfa yn ddiogel, saff a glân gydol yr amser.
• Sicrhau y cwblheir tasgau gofal plant penodol i’r safonau disgwyliedig, yn cynnwys helpu plant gyda bwydo, newid dillad a thoiledu, yn cynnwys newid cewynnau; cynnal safonau uchel o hylendid trwy’r amser; rhoi cysur a chynhesrwydd i blentyn gwael; a hysbysu ynghylch unrhyw arwyddion o salwch neu anaf, neu bryderon ynghylch cam-drin.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Oriau gwaith yw gadarnhau tuag at yr amser, ond gofynnir i weithio ar rota sy’n hyblyg o 8 y bore i 6 yn y nos.
Mae’r Adran yn rhedeg rhaglen ddatblygu hyfforddiant a sgiliau personol parhaus. Caiff Cynllun Arfarnu ei weithredu sy’n cyfrannu tuag at y ddarpariaeth honno. Disgwylir i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.
Gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.