Pwrpas y Swydd
Prif Swyddogaethau
Bod yn wyneb cyhoeddus i Lywodraeth y Cynulliad o ran patrolio ac ymateb i reoli digwyddiadau ar yr rhwydwaith cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Lleihau tagfeydd sy’n gysylltiedig â digwyddiadau drwy ymateb i ddigwyddiadau, peryglon a damweiniau ar y rhwydwaith, a'u rheoli.
Rhoi cefnogaeth broffesiynol effeithiol i'r Heddlu ac i asiantaethau eraill.
Cynrychioli Llywodraeth y Cynulliad drwy gyfleu delwedd gadarnhaol a phroffesiynol sy’n cryfhau gwerthoedd ac amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Hyrwyddo a meithrin perthynas waith dda gyda’r rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau cyrraedd y nod gyffredin o leihau tagfeydd sy’n gysylltiedig â digwyddiadau.
Nodi lle gallai seilwaith y ffordd, gan gynnwys yr arwyneb a’r arwyddion, gael ei wella neu’i drwsio, lle bo angen, er mwyn gwella diogelwch i ddefnyddwyr y ffordd, a rhoi gwybodaeth o'r fath yn ddi-oed a chywir i'r bobl briodol.
Hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr y ffordd, lle bo’n briodol, i geisio gwella eu diogelwch ar y ffyrdd.
Swyddogaethau Eilaidd
Cynnal patrolau ac archwiliadau i sicrhau bod y rhwydwaith yn ddiogel.
Nodi a chefnogi lle bo angen i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd,.
Patrolio, monitro a rhoi gwybod am y traffig a'r tywydd ar y rhwydwaith.
Sicrhau lle y bo modd bod diffygion ar y briffordd yn ddiogel.
Safonau Perfformiad
Cyflawni amcanion cerrig milltir a therfynau amser ycytunwyd arnynt yn foddhaol.
Cefnogi y datblygiad parhaus o ran rheoli’r darpariaeth yr Asiantaeth Cefnffyrdd.
Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol sy’n gysylltiedig â Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Sicrhau y glynir yn llym wrth Bolisïau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Sicrhau cysylltiadau da drwy gynnig gofal cwsmeriaid o safon.
Datblygu a chynnal perthynas waith dda a chynhyrchiant da yn unol ag amcanion sefydliadol a phersonol.
Bod yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
Cerbyd, radio, camera fideo, ffôn, tabled
Prif Ddyletswyddau
Cynnal patrolau amlwg iawn er mwyn darparu'r ymateb cychwynnol a threfnu cyngor arbenigol yn y man lle bu'r digwyddiad, y perygl neu'r ddamwain ar y ffordd.
Ymateb i ddigwyddiadau a gweithio’n ddiogel, yn unol â pholisi’r cwmni a hyfforddiant, i hwyluso clirio yn fuan ar ôl y digwyddiad neu gael gwared ar y perygl drwy roi systemau rheoli traffig brys ar waith.
Rhoi gwybod am y camau gweithredu a gymerir, a’u cofnodi gyda'r Ganolfan Reoli, yn ogystal â’r cyfarwyddiadau a roddir.
Cysylltu â’r Ganolfan Reoli i ofyn am adnoddau ychwanegol pan fydd angen.
Yn y gweithle, ymddwyn mewn ffordd nad yw’n peryglu eich iechyd a’ch diogelwch chi, nac eraill, gan gyflawni arferion gwaith yn unol â gofynion gweithredol a chyfreithiol.
Nodi a rheoli risg weithredol drwy gyfrwng asesiadau risg safonol a deinamig.
Rhoi Systemau Rheoli Traffig Brys ar waith yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a datganiadau ynghylch dulliau.
Cyfathrebu yn ysgrifenedig, yn electronig ac ar lafar ar ffurf adroddiadau a chofnodion yn ôl y gofyn.
Cynnal archwiliadau ar gerbydau, a’u cofnodi, a llenwi llyfrau oriau gyrwyr yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau’r cwmni.
Bod yn gyfrifol dros faterion y gallant effeithio ar weithredu’r rhwydwaith yn ddiogel, a bod yn ymwybodol ohonynt, a rhoi gwybod am faterion o'r fath cyn gynted ag y sylwir arnynt.
Sicrhau a chofnodi bod yr arwyddion, yr offer a’r deunyddiau rheoli traffig sydd yn cael eu cludo gan y cerbyd Swyddog Traffig yn iawn ar ddechrau pob shifft, a chymryd camau i gywiro unrhyw ddiffyg yn unol â pholisïau a gweithdrefnau.
Ymddwyn mewn modd proffesiynol bob amser gan sicrhau dull o ddelio â’r cyhoedd, yr Heddlu ac asiantaethau eraill sydd bob amser o safon uchel.
Cynnal patrolau/archwiliadau ar ddiogelwch y rhwydwaith a chofnodi gwybodaeth gan ddefnyddio dyfeisiau casglu data.
Adnabod a chofnodi anghenion o ran gwaith cynnal a chadw lle bo'n bosib.
Casglu a darparu gwybodaeth i’w dadansoddi gan y sefydliad ac asiantaethau eraill.
Mynychu achosion cyfreithiol i roi tystiolaeth fel tyst yn ôl y gofyn.
Mae pob un a gaiff ei gyflogi gydag ACGChC yn gyfrifol am gydymffurfio â'r Polisi Iechyd a Diogelwch, Polisi’r Amgylchedd a’r Polisi Ansawdd, fel y diffinnir yn System Reoli Busnes Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru.
Unrhyw ddyletswyddau eraill sydd yn ofynnol â graddfa y swydd wrth reoli'r rhwydwaith cefnffyrdd.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig . e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
Oriau gweithio:
Gofyniad i weithio sifftiau o 42 awr yr wythnos flynyddol (Pro Rata) sifftiau 12 awr, 4-on-4-off, 365 diwrnod y flwyddyn (07:00hrs to 19:00hrs) er mwyn cwrdd â’r gofynion gweithredol.
Gofyniad am hyblygrwydd ar achlysur yn y patrymau shifft i gwrdd â’r gofynion gweithredol;
Gofyniad ar adegau i weithio goramser ac yn ystod y nos;
Gofyniad i weithio ar Wyliau Banc a Phenwythnosau wrth i’r patrymau sifft cael eu penderfynu;
Gofyniad i weithio o leoliadau gweithredol eraill i gwrdd â’r gofynion gweithredol.
Mae’r uchod yn amlinelliad o’r dyletswyddau, er mwyn rhoi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.