Swyddi ar lein
Gweithredwr Ystafell Reoli a Danfonwr Swyddog Traffig - Cyf: 22-24641
£35,965 - £38,721 y flwyddyn | Parhaol
- Teitl swydd:
- Gweithredwr Ystafell Reoli a Danfonwr Swyddog Traffig
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 02/03/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 42 Awr
- Cyflog:
- £35,965 - £38,721 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru (CRhTGC/NWTMC), Conwy
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gweithredwr Ystafell Reoli a Danfonwr Swyddog Traffig (1 swydd oriau hyblyg)
CYFLOG: S2 (18-22) £35,965 - £38,721.36
(42 awr yr wythnos yn flynyddol (Pro Rata) shifftiau 12 awr, 4-ar-4-off, (yn cynnwys dyddiau a nosweithiau), 365 diwrnod y flwyddyn).
LLEOLIAD: TMC, Conwy
Bydd y Gweithredwr Ystafell Reoli a Danfonwr Swyddog Traffig yn gyfrifol am gefnogi ac ymateb i Wasanaeth Swyddog Traffig LlC, y Gwasanaethau Brys, Stiwardiaid Llwybrau, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwyr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddefnyddio systemau'r ystafell reoli ar gyfer gwaith wedi'i drefnu. Rheoli adnoddau Swyddog Trafnidiaeth yn effeithiol, gan gynnwys danfon Swyddogion Traffig, monitro digwyddiadau, ailddosbarthu adnoddau a rhoi cyngor ar adnoddau safle materion ehangach sy'n ymwneud â digwyddiadau.Am fwy o wybodaeth am y swydd, darllenwch: Telerau ac Amodau Ychwanegol
Noder, mae ffurflen gais penodol ar gyfer ceisio am y swydd hon, cysylltwch a adminteam@nmwtra.org.uk er mwyn derbyn y pecyn cais.
Dyddiad Cau: 10.00am, DYDD IAU, 02/03/23.
Rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar gyfer y rownd gyntaf o asesu o'r 28ain o Fawrth. Dyddiadau eraill i ddilyn.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Yn gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
Hyblygrwydd wrth weithio shifftiau a gallu i weithio dros amser / newid shifft yn rhesymol pan fo'n ofynnol er mwyn diwallu galw gweithredol
DYMUNOL
Profiad o weithio shifft mewn amgylchedd gwaith 24/7/365
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
O leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, gradd C neu uwch, neu gymhwyster cyffelyb mewn pwnc perthnasol.
Neu
Profiad helaeth mewn amgylchedd ystafell reoli / gweithredol
A
Rhaid cwblhau Pecyn Hyfforddi Twneli ACGChC sy'n gyfwerth ag NVQ Lefel 3 ymhen dwy flynedd o'r penodiad.DYMUNOL
HNC neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol.
Swyddog Traffig / Danfonwr Gwasanaethau Brys
Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Twneli Ffyrdd / Rheoli Traffig
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio mewn amgylchedd gweithredol neu wasanaethol.
DYMUNOL
Profiad o weithio mewn amgylchedd gweithredol priffyrdd / ystafell reoli
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i gofnodi a logio data a gwybodaeth ar y pryd
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol
Sgiliau trefnu da
Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau
Gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid
Sgiliau TG da gyda’r gallu i ddefnyddio TG a rhaglenni technoleg
Gallu i'ch ysgogi eich hun a datblygiad proffesiynol parhaus amlwg
Gallu i weithio dan amgylchiadau all fod yn heriol a rheoli gwrthdaro’n effeithiol
Gallu i ddefnyddio a rheoli adnoddau
Bod ag agwedd ‘diogelwch yn gyntaf’ i weithgareddau
Trwydded Yrru ddilys gyfredol yn y DU.
DYMUNOL
Gwybodaeth o Ddeddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Gwybodaeth am Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch perthnasol
Profiad mewn defnyddio systemau cyfathrebu diogel/agored a theleffoni IPFX
Gwybodaeth am y Gwasanaeth Swyddogion Trafnidiaeth
GOFYNION IAITHGwrando a siarad
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.
Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a deall
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.
Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Dylid nodi’r nodweddion hynny sy’n ddisgwyliedig gan ddeiliad y swydd. Dylid defnyddio’r rhain fel meini prawf asesu ar gyfer pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS Y SWYDD
Danfon Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru a chwblhau swyddogaethau rheoli digwyddiadau'r ystafell reoli.
Monitro rhwydwaith cefnffyrdd a thwneli ar sail 24/7/365, asesu cyflwr y rhwydwaith yn barhaus a gweithredu yn ôl y gofyn, er mwyn cynnal rhwydwaith cefnffyrdd diogel a dibynadwy.
Ymateb, cefnogi a chynorthwyo'r Gwasanaethau Brys, Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru a Darparwyr Gwasanaeth Eraill Llywodraeth Cymru mewn modd proffesiynol ac ymdrin â digwyddiadau a chynnal a chadw ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
Isafu tagfeydd a gyfyd yn sgil digwyddiadau a'r potensial am ddigwyddiadau eilaidd trwy asesu risg digwyddiadau yn weithredol a datblygu ymateb rheoli i ddigwyddiadau ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd.
Rheoli a gweithredu Systemau Trafnidiaeth Deallus Llywodraeth Cymru a systemau rheoli twneli.
Ymgymryd â darpariaeth a dosbarthu gwybodaeth Gwasanaeth Gwybodaeth Traffig Llywodraeth Cymru trwy amryw o gyfryngau er mwyn sicrhau teithiau mwy diogel a dibynadwy ar y rhwydwaith.
Cydlynu gweithgareddau a gweithredoedd Cynnal a Chadw yn y Gaeaf.
CYFRIFOLDEB AM ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, offer)Rheoli ac ymdrin â chardiau allwedd a diogelwch ar gyfer Canolfan Rheoli Traffig Gogledd a Chanolbarth Cymru (CRhTGChC).
Rheoli gwaith cynnal a chadw radios yn CRhTGChC.
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOLCyffredinol
Swydd Danfonydd:
Blaenoriaethu a monitro'r gwaith o ddanfon adnoddau yn effeithiol a chofnodi gwybodaeth yn gywir ar ein systemau.
Rhoi adborth ble bo'n briodol at ddiben gwella Gweithdrefnau Swyddogion Traffig yn barhaus.
Hysbysu'r Rheolwr Tîm Gweithrediadau ar shifft o'r wybodaeth berthnasol er mwyn sicrhau trosglwyddiad di-dor a pharhad y swyddogaethau rheoli digwyddiad/rhwydwaith.
Ymgymryd â hyfforddiant a chynnal y galluoedd sy'n ofynnol gan yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru ac sy'n berthnasol i'r swydd.
Ymddwyn yn broffesiynol bob amser a sicrhau bod y ffordd yr ymdrinnir â'r cyhoedd, y Gwasanaethau Brys ac Asiantaethau eraill o safon uchel yn gyson.
Cefnogi ac ymateb i'r Gwasanaethau Brys, Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddanfon Swyddog Trafnidiaeth.
Swyddogaeth Gweithredwr:Monitro systemau ystafell reoli Llywodraeth Cymru (LlC) (megis TCC, Citilog) yn ystafell reoli CRhTGChC er mwyn canfod gwrthdrawiadau a digwyddiadau.
Cefnogi ac ymateb i Wasanaeth Swyddog Traffig LlC, y Gwasanaethau Brys, Stiwardiaid Llwybrau, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwyr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddefnyddio systemau'r ystafell reoli ar gyfer gwaith wedi'i drefnu.
Rhoi'r wybodaeth berthnasol i staff y shifft nesaf er mwyn sicrhau trosglwyddiad di-dor a pharhad o weithgareddau rheoli digwyddiad / y rhwydwaith.
Rhoi adborth ble bo'n briodol at ddiben gwella gweithdrefnau gweithredu'n barhaus.
Ymgymryd â hyfforddiant a chynnal y galluoedd sy'n ofynnol gan yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru ac sy'n berthnasol i'r swydd.
Ymddwyn yn broffesiynol bob amser a sicrhau bod y ffordd yr ymdrinnir â'r cyhoedd, y Gwasanaethau Brys ac Asiantaethau eraill o safon uchel yn gyson.
Ymlynu at Systemau Rheoli Ansawdd yr Asiant Cefnffyrdd.
Cefnogi a chynorthwyo Rheolwr y Rhwydwaith, Rheolwr Gweithrediadau, Rheolwr Tîm Gweithrediadau, Rheolwr Twneli, Rheolwr Llwybrau, a'r Gwasanaeth Swyddogion Traffig gyda'u dyletswyddau.
Cynnal diogelwch ystafell reoli, adeiladau gwasanaeth twneli, ac adeiladau darlledu CRhTGC
Rheoli DigwyddiadauSwyddogaeth Danfonwr:
Ymateb trwy gymryd camau gweithredol i ymdrin â digwyddiadau ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn ardal y twneli a'u rheoli, gan gynnwys danfon Swyddogion Traffig a chyfathrebu gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol, Unedau Gwaith Priffyrdd Awdurdodau Partner, Unedau Cefnogi Digwyddiad, a'r Gwasanaethau Brys.
Cofnodi, adrodd a logio'r holl gyfathrebu ar systemau niferus, yn gywir a chlir a chyfredol, ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd a allai gynnwys asiantaethau allanol. Logio digwyddiadau sy'n cael eu hadrodd ar y cefnffyrdd gan ddefnyddio system Gorchymyn a Rheoli LlC i gynorthwyo gyda'r dad-friffio a'r dadansoddi.
Monitro ac adrodd ar unrhyw weithgareddau maleisus/amheus ar y rhwydwaith.
Rhoi gwybod i Reolwr y Tîm Gweithrediadau am unrhyw ddigwyddiad sydd angen sylw.
Swyddogaeth Gweithredwr:
Ymateb trwy gymryd camau gweithredol i ymdrin â digwyddiadau ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn ardal y twneli a'u rheoli, gan gynnwys cyfathrebu gyda budd-ddeiliaid allweddol, megis LlC, Gwasanaeth Swyddogion Traffig, Rheolwyr Llwybrau, Unedau Gwaith Priffydd Awdurdodau Partner, Unedau Cefnogi Digwyddiad, a'r Gwasanaethau Brys.
Ymateb trwy ddilyn gweithdrefnau i gefnogi Gwasanaeth Swyddogion Traffig LlC, y Gwasanaethau Brys, Stiwardiaid Llwybrau, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddefnyddio systemau'r ystafell reoli yn ystod digwyddiadau ar y rhwydwaith.
Ymgysylltu â Chadlywyddion Aur/Arian/Efydd yr Asiantaeth/Llywodraeth Cymru a'u hysbysu am faterion yn ymwneud â digwyddiadau; derbyn cyngor gan benaethiaid a gweithredu fel y bo'n briodol.
Ymateb i alwadau'r System Teliffon Brys (ETS) ac ymdrin â nhw, gan gynnwys gwneud trefniadau i adfer cerbydau yn ôl y gofyn.
Ymateb trwy gymryd camau gweithredol i ymdrin â thagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn ardal y twneli drwy osod Arwyddion Negeseuon Amrywiol, Arwyddion Rheoli Lôn ac amryw dechnegau rhannu gwybodaeth eraill.
Cofnodi, adrodd a logio'r holl ddigwyddiadau sy'n cael eu monitro neu'u hadrodd ar y cefnffyrdd yn gywir ac ar y pryd gan ddefnyddio system Gorchymyn a Rheoli LlC, i gynorthwyo gyda gwaith dad-friffio a dadansoddi.
Monitro ac adrodd ar unrhyw weithgareddau malieisus/amheus ar y rhwydwaith.
Rhoi gwybod i Reolwr y Tîm Gweithredu am unrhyw ddigwyddiad sydd angen sylw.
Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru
Swyddogaeth Danfonwr:
Rheoli adnoddau Swyddog Trafnidiaeth yn effeithiol, gan gynnwys danfon Swyddogion Traffig, monitro digwyddiadau, ailddosbarthu adnoddau a rhoi cyngor ar adnoddau safle materion ehangach sy'n ymwneud â digwyddiadau.
Cyfarwyddo'r Uned Swyddogion Traffig at y digwyddiad agosaf unwaith bydd lleoliad wedi'i adnabod, gan ystyried a phennu'r adnoddau mwyaf addas ar gyfer y digwyddiad.
Rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â hawliadau trydydd parti ac ymholiadau gan yr Heddlu.
Mynychu gweithgareddau cyfreithiol i gyflwyno tystiolaeth fel tyst ble bo'r angen.
Swyddogaeth Gweithredwr:
Rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â hawliadau trydydd parti ac ymholiadau gan yr Heddlu.
Mynychu gweithgareddau cyfreithiol i gyflwyno tystiolaeth fel tyst ble bo'r angen.
Cyfrifoldebau Cyfathrebu
Swyddogaeth Danfonwr:
Cyfathrebu'r anghenion a'r cyfarwyddiadau'n glir i Unedau Swyddogion Traffig niferus.
Cynnal a diweddaru cofnodion o'r holl ddigwyddiadau sy'n cael eu trosglwyddo trwy'r systemau cyfathrebu.
Hyrwyddo a meithrin perthnasoedd gwaith da gyda’r holl fudd-ddeiliaid allweddol, er mwyn cefnogi cydweithio rhwng sefydliadau
Swyddogaeth Gweithredwr:
Gweithredu fel unig bwynt cyswllt yr Asiant ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru ar gyfer sefydliadau allanol gan gynnwys LlC, y cyhoedd, y gwasanaethau brys, cludwyr nwyddau, a chydlynu ymatebion gan bersonél ar-alwad yr Asiant, gan gynnwys Cadlywyddion Aur/Arian/Efydd.
Ymdrin â chwynion ac ymholiadau gan y cyhoedd a sefydliadau eraill yn gwrtais a phroffesiynol.
Gwasanaeth Gwybodaeth Traffig
Swyddogaeth Danfonwr:
Cyfuno'r wybodaeth a gyflwynir gan Swyddogion Traffig am oedi posib o ganlyniad i ddigwyddiadau neu waith ffordd a fydd yn effeithio'r cyhoedd.
Swyddogaeth Gweithredwr:
Gweithredu fel unig bwynt cyswllt yr Asiant ar sail 24/7/365 a hysbysu'r Asiant a Swyddogion LlC am wybodaeth am y rhwydwaith.
Cyfyngu ar ddelweddau TCC o wefan Traffig-Cymru os ceir digwyddiad.
Dilyn gweithdrefnau i ddiweddaru gwefan Traffig-Cymru a dosbarthu rhybuddion geiriol i grwpiau defnyddwyr (trwy Clickatell).
Darpariaeth llinell wybodaeth Traffig-Cymru y tu hwnt i oriau gwaith
Rheoli Twneli a Rhwydwaith
Swyddogaeth Danfonwr:Ymlynu at safonau, gweithdrefnau gweithredu, a pholisïau Llywodraeth Cymru.
Lleihau tagfeydd sy'n digwydd yn sgil digwyddiadau, gan sicrhau nad oes unrhyw gyfaddawdu gydag Iechyd a Diogelwch. Monitro'r twneli a chyfarwyddo Swyddogion Traffig i'r ardal gywir pe bai angen cau'r Twneli.
Swyddogaeth Gweithredwr:Monitro systemau rheoli twneli (e.e. rheolaeth amgylcheddol, adeiladau gwasanaeth).
Adnabod, cofnodi ac adrodd ar ddiffygion mewn offer gwallus a phrofi offer sydd wedi'i drwsio mewn modd ymarferol.
Fel rhan o'r Rheoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd 2007, dylai Gweithredwyr roi gweithdrefnau a phrotocolau Rheoli Digwyddiad Twneli ar waith a'u rheoli er mwyn cynorthwyo rheng flaen y Gwasanaethau Brys wrth reoli digwyddiadau yn ardal twneli'r A55.
Ymlynu at safonau, gweithdrefnau gweithredu, a pholisïau Llywodraeth Cymru.
Cyfuno a rhannu gweithredoedd cynnal a chadw'r gaeaf ac adroddiadau ar gyflwr y ffyrdd.
Iechyd a Diogelwch a’r AmgylcheddDanfonydd/Gweithredwr:
Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yr Asiantaeth i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o ofynion deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Gyfadran er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r gofynion perthnasol.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen gweithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati)Fel arfer, mae'n ofynnol gweithio shifft 12 awr dros batrwm shifft 42 awr yr wythnos (4 yn y gwaith 4 i ffwrdd) blynyddol, gan gynnwys gweithio oriau anghymdeithasol (nosweithiau, penwythnosau a Gwyliau Banc), a darparu gwaith shifft cyflenwi 24/7/356 ar gyfer Ystafell Reoli Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru.
Bydd y shifft diwrnod 12 awr yn cael ei rhannu'n ddwy; 6 awr danfonwr a 6 awr gweithredwr.
Bydd y shifft nos 12 awr yn cynnwys dyletswyddau Gweithredwr, yn ogystal â'r gofyn i ymgymryd â gwaith Danfon i ddiwallu anghenion gweithredol.
Bydd goramser rhesymol yn rhan ofynnol o'r swydd
Bod yn rhan o’r rota ar alwad i gynorthwyo mewn argyfyngau, absenoldeb salwch a digwyddiadau mawr ar y rhwydwaith yn ôl yr angen.
Mae gofyn cwblhau Diploma Twneli ymhen dwy flynedd o gael eich cyflogi.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau a nodir uchod, er mwyn rhoi syniad o lefel y cyfrifoldeb a olygir. Nid yw'r disgrifiad swydd hwn yn gynhwysfawr yn fanwl, a gall dyletswyddau swyddi newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'i lefel o gyfrifoldeb.