Swyddi ar lein
Rheolwr Phrosiectau a Rhaglenni x3 - Cyf: 22-24640
£41,496 - £43,516 y flwyddyn | Parhaol
- Teitl swydd:
- Rheolwr Phrosiectau a Rhaglenni x3
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Darparu ac Arolygu
- Dyddiad cau:
- 23/02/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £41,496 - £43,516 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni (3 Swydd)
CYFLOG : PS4 (35-37) £41,496-£43,516
Wedi ei leoli yn un o’r lleoliadau isod :
Halkyn, Conwy Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberaeron, i gynnwys gweithio hybrid/
+ Hybrid working
Cyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig o Rheolwyr Brosiect a Rhaglen sy’n darparu prosiectau cyfalaf ar y rhwydwaith Cefnffyrdd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain ar reoli prosiectau gwella Priffyrdd, uwchraddio a phrosiectau cyfalaf cynnal a chadw, trwy ein cadwyni cyflenwi estynedig yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’r swydd yn elwa o’n model gweithio hybrid gyda’r cyfle i weithio gartref.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd cysylltwch â Clive Bayley ar 07971 674337.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076.
Dyddiad Cau: 10.00 AM, DYDD IAU 23 Chwefror 2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio dan bwysau
Yn ymroddgar â’r gallu i gymell ei hun
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o ffynonellau amrywiol
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol
neu
HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol a phrofiad
perthnasol sylweddol
Dymunol
Aelod o gorff proffesiynol priodol
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Hyfforddiant rheoli
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad perthnasol o reoli’r gwaith o gyflenwi strwythurau a chynlluniau gwella seilwaith
Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith
Profiad o weinyddu contractau a prosiectau chaffael
Dymunol
Profiad o reoli fframwaith contractau
Profiad o reoli adnoddau ar lefel uwch er mwyn cyflawni rhaglenni neu
gynlluniau gwaith amlddisgyblaethol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni
gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
Gallu cydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflwyno rhaglenni gwaith drwy
ddarparwyr gwasanaeth i derfynau amser penodedig
Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos
arloesedd a chreadigedd
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a
darparu argymhellion manwl
Profiad o beirianneg strwythurol a chyflawni cynlluniau sy'n ymwneud â
strwythurau
Trwydded yrru gyfredol
Dymunol
Sgiliau rhyngbersonol da a sgiliau dadansoddi cryf, a’r gallu i ysgrifennu adroddiadau’n fanwl, ynghyd â sgiliau cyflwyno effeithiol.
Sgiliau dadansoddi a rheolaeth ariannol.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â Rheoli Prosiect.
Gwybodaeth drylwyr o weinyddu prosiectau adeiladu drwy ddulliau caffael modern e.e. Trefniant Contractau NEC.
Gwybodaeth am gyflwyno prosiectau adeiladu gan ddefnyddio cytundebau fframwaith.
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu holl brosiectau strwythurau yr Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd.
•Cynorthwyo i gydlynu a rhaglennu cynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch blynyddol a phob pum mlynedd yr Asiant.
•Cefnogi’r Noddwyr Prosiect yr Asiant i ddatblygu a chyflawni rhaglenni gyffredinol o brosiectau refeniw a chyfalaf yr Asiant.
•Gweithredu fel arbenigwr strwythurau’r Asiantaeth a chynghori ar faterion strwythurol yn ôl yr angen
•Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
•Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig.
•Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad i monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
•Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunir.
•Bod yn rheolwr prosiect i’r gwasanaethau contractwyr a ymgynghorwyr yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (darparwyr gwasanaeth LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat).
•Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol.
•Rheoli system a chronfa ddata Sharepoint yr Asiant.
Prif ddyletswyddau
Rheoli Prosiect
Ymgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer gweinyddu holl gontractau’r Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd, gan gynnwys:
•Cynnal a monitro’r brif raglen ar gyfer holl brosiectau’r Asiant, gyda phwyslais penodol ar sicrhau y cânt eu cyflawni;
•Cynghori a gweithio’n agos gyda Noddwyr Prosiect yng nghyswllt paratoi brîff prosiect, gweithdrefnau tendro cystadleuaeth fach, rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect a chyflawni’r prosiect;
•Arddel egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2;
•Cysylltu gyda darparwyr Awdurdod Partneriaid a sector preifat ynghylch prosiectau strwythurau yn cynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol;
•Cysylltu gyda’r Uned Cyflawni ac Archwilio yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau;
•Cynorthwyo Noddwyr Prosiect i gau prosiectau, yn cynnwys comisiynu, cofnodion ‘fel yr adeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.
Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant i weinyddu contractau a phrosiectau chaffael.
Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau fel y cytunir. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn:
•Adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid a pharatoi prosiectau brîff.
•Sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
•Cytuno ar raglen a brîff y prosiect.
•Cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni.
•Cysylltu â staff perthnasol LlC.
•Bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect a rheoli’r gyllideb yn eu cyfanrwydd.
•Cytuno ar a chymeradwyo iawndal.
•Adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol.
•Derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
•Cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
•Adrodd ar y gwariant hyd yn hyn, a phroffil gwariant y dyfodol wrth Uned Fusnes yr Asiant.
•Trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
•Adolygu a chymeradwyo cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â phrosiect cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
•Sicrhau y caiff prosiectau eu cau’n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunir. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Rheoli Rhaglen
Cynorthwyo i gydlynu’r broses o adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglenni blynyddol a rhaglenni pum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch.
Cefnogi y Noddwyr Prosiect yr Asiant i ddatblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol yr Asiant o brosiectau refeniw a chyfalaf ar draws y rhwydwaith Cefnffyrdd yng ngogledd Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).
Galluogi i gyflawni’r rhaglenni drwy y gwasanaeth caffael ymgynghorol cefnffyrdd a gwaith adeiladu yn unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth.
Dyletswyddau Technegol Eraill
Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, a monitro ac adnewyddu fframwaith contractau yr Asiant.
Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system prosiectau rheoli SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig.Bydd hyn yn cynnwys materion hyfforddi a datblygu staff o fewn yr Asiant a gyda darparwyr gwasanaeth.
Sicrhau bod egwyddorion Rethinking Construction yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn eu gweithdrefnau caffael.
Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac cwblhau y gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
Cynorthwyo â rheoli, casglu, paratoi a chyflwyno bidiau cynllun drwy broses fidio’r Asiant.
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.
Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yr Asiant, yr Awdurdodau Partner a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau y DU / LlC, yn cynnwys:
•Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
•Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
•Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
•Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
•Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
•Contractau NEC3
•Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
•Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WAGMA
Rheoli Perfformiad
Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes ac Ansawdd a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiant.
Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau ar gyfer archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
Gweithredu dulliau o arolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
Mynd i’r afael â meysydd lle mae diffyg perfformiad gan y darparwr gwasanaeth.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yn yr Asiant i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol a Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cyfrifol am Iechyd a Diogelwch personol ar bob achlysur.
Cyffredinol
Cysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Meithrin diwylliant o arloesi a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cynorthwyo a chefnogi’r Tîm cyflawni ac Archwilio. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda budd-ddeiliaid.
Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Dim ond amlinelliad o’r dyletswyddau yw’r rhestr uchod. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn diwallu gofynion y Gwasanaeth.