skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

Rheolwr Caffael a Chontract

£42,503 - £45,495 y flwyddyn

Cyfeirnod personel:
22-23544
Teitl swydd:
Rheolwr Caffael a Chontract
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
29/12/2022 12:00
Cyflog:
£42,503 - £45,495 y flwyddyn
Lleoliad(au):

Manylion

Hysbyseb Swydd

RHEOLWR CAFFAEL A CHONTRACT

Yr Adran Cyllid a Chaffael Parhaol, 37 awr yr wythnos Graddfa GTAGC 10 £42,503 i £45,495 y flwyddyn

Rydym yn eisiau penodi rheolwr Caffael a Chontractau i fod yn arweinydd proffesiynol ar gyfer caffael ar draws y gwasanaeth. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda staff ar draws y Gwasanaeth i ddatblygu'r system cyrchu / caffael, gan gynnwys y prosesau ar gyfer adolygiadau cyfnodol yn ogystal â goruchwylio’r gwaith o reoli ein hadran Storfa. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfathrebwr cryf ac effeithiol, gyda'r gallu i weithio ar ei liwt ei hun a chynnal sgwrs syml ar Lefel 2 Cymraeg. Gan feddu ar ymagwedd ragweithiol a hunangymhellol, bydd angen sgiliau rhyngbersonol rhagorol ar ddeiliad y swydd i feithrin perthnasoedd gwaith effeithiol gydag unigolion a grwpiau mewnol ac allanol ar bob lefel. Lleolir y rôl yn ein Pencadlys ym Mharc Busnes Llanelwy, ond rydym hefyd yn cynnig y gallu i weithio’n hyblyg, lle gallwch weithio o gartref, yn amodol ar argaeledd, yn ogystal â bod ar gael i weithio o leoliadau eraill Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Gellir trafod hyn ymhellach yn ystod y cyfweliad. Sylwch fod y swydd hon yn destun Gwiriad DBS a geirdaon boddhaol. Am fanylion pellach ynglŷn â'r rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 9 Ionawr 2023. Am ragor o wybodaeth am y rolau hyn, gan gynnwys swydd ddisgrifiadau a phecynnau cais, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru neu anfonwch e-bost at: hrdesk@tangogleddcymru.llyw.cymru Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw hanner dydd, 29.12.2022 Byddwn yn glynu wrth y dyddiad cau yn llym ac ni fydd eithriadau

Chwilio am swydd