Pwrpas y Swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Ymchwilio fewn i ffyrdd arloesol o annog tigolion, ysgolion ac ymwelwyr Gwynedd i fabwysiadu ymddygiad cadarnhol er mwyn cyflawni ein nodau fel adran.
•Cefnogi’r Adran wrth gyflwyno ymagweddau newydd gyfa ffocws ar ddefnyddio sianeli digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Unrhyw offer, cerbyd, beiriant neu nwyddau sy’n ymwneud â’r dyletswyddau a nodwyd.
Prif Ddyletswyddau.
Cynorthwyo ar ymgyrchoedd a thechnegau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, gydag ystyriaeth penodol i’r canlynol:
Cyfathrebu ac Ymgysylltu:
•Ymchwilio, datblygu a gweithredu mentrau newid ymddygiad newydd ac arloesol trwy sianeli cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu.
•Cynhyrchu deunyddiau cyfathrebu diddorol ym mhob fformat cyfrwng
•Adrodd, mesur a gwerthuso perfformiad y mentrau a'r gweithgareddau hynny yr ymgymerir â hwy gan gynnwys dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol.
•Ymchwilio i’r arferion gorau o ran gwaith ymgysylltu cyhoeddus a hyrwyddo ffyrdd arloesol o ymgynghori.
•Paratoi datganiadau i’r wasg, posteri, taflenni, negeseuon gwefannau cymdeithasol, clipiau fideo syml ac erthyglau byr yng nghoeddiadau’r Cyngor i hyrwyddo ymarferiadau ymgysylltu
Newid Ymddygiad:
•Ymchwilio mewn i dechnegau newid ymddygiad digidol i ymgysylltu â’r cyhoedd
•Cynhyrchu deunyddiau marchnata newid ymddygiad deniadol ar gyfer ymgyrchoedd, arddangosfeydd a digwyddiadau
•Sicrhau bod pob gwasanaeth o fewn yr adran yn hybu technegau newid ymddygiad er mwyn cyrraedd eu nodau strategol.
•Ysbrydoli a chydlynu partneriaid allanol i gefnogi mentrau newid ymddygiad o fewn y Sir.
Magu Perthnasau:
•Datblygu perthynas waith dda gyda holl randdeilliad yr adran, megis Cadw’ch Cymru’n Daclus, WRAP Cymru, WLGA.
•Datblygu perthnasoedd gwaith da gyda’r Tîm Cyfathrebu er mwyn sicrhau bod ein negeseuon yn dilyn polisïau’r Cyngor
•Cynorthwyo adran lle bo angen drwy fynychu fforymau a gweithgorau rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol.
•Cynorthwyo gwaith unrhyw asiantaethau arbenigol y gellir eu drafftio i mewn i helpu i gyflawni gweithgareddau penodol.
Corfforaethol:
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.
•Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Rhaid bod yn berchen ar drwydded yrru dilys