Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Rhoi cefnogaeth gweinyddol dîm sirol aml-asiantaethol integredig (ar y cyd efo Iechyd) sy’n gweithio gyda plant anabl a phlant gwael.
•Gweithio mewn cydweithrediad gyda swyddogion gweinyddol eraill i gyflawni anghenion gweinyddol i gefnogi gwaith y tîm.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer swyddfa
•Arian parod ( gan gynnwys arian parod yr Ymddiriedolaeth Iechyd)
Prif ddyletswyddau
•Gweithredu dyletswyddau derbynfa gan ateb ffôn ac ymdrin â phlant a’u teuluoedd a phobl broffesiynnol sy'n galw yn y swyddfa mewn modd cyfrinachol a sensitif.
•Sefydlu a chynnal systemau ar gyfer y tîm aml asiantaethol i bwrpas cefnogi rhediad y gwasanaeth yn effeithlon o ddydd I ddydd. (mewnbynnu amserlenni gweithwyr cefnogol, arian parod iechyd)
•Dylunio ffurflenni a thempledi cyfrifadurol ar gyfer pwrpas y gwasanaeth, gan gynnwys mewnfwydo gwybodaeth i sustemau cyfrifiadurol ar gyfer cofnodion electroneg ffeiliau unigol teuluoedd (WCCIS).
•Cadw systemau cyfrifiadurol yn gyfredol megis Bas Data ar systemau electroneg Ymddiriedolaeth Iechyd a’r Awdurdod Lleol gan fewnbynnu cyfeiriadau newydd a gwybodaeth arall; agor achosion a sganio dogfennau yn ymwneud ag achosion unigol.
•Cadw ystadegau o'r systemau uchod i gynorthwyo rheolwyr wrth fonitro'r gwasanaeth.
•Dyletswyddau cyffredinol megis teipio adroddiadau, llun gopïo a ffeilio.
•Trefnu cyfarfodydd, gan gynnwys cofnodi i safon dderbyniol mewn cyfarfodydd strategaeth, Cynadleddau Achos ac wrth baratoi adroddiadau ar gyfer achosion llys teulu.
•Cofnodi mewn cyfarfodydd mewnol y gwasanaeth integredig.
•Sicrhau stoc priodol nwyddau ac offer swyddfa ar gyfer gwaith y gwasanaeth, gan gynnwys prosesu anfonebau i’w talu.
•Gweithredu fel rhan o dîm gweinyddol, a fydd o bryd i’w gilydd, yn golygu dirprwyo neu cyflawni gwaith aelodau eraill o’r tîm os ydynt yn mynychu Cyfarfodydd, ar wyliau neu ar gyfnod o salwch.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-