skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

Swyddog Cyfathrebu (Cyfryngau a Chyfryngau Cymdeithasol)

£36,298 - £41,496 y flwyddyn

Cyfeirnod personel:
22-23430
Teitl swydd:
Swyddog Cyfathrebu (Cyfryngau a Chyfryngau Cymdeithasol)
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
25/11/2022 10:00
Cyflog:
£36,298 - £41,496 y flwyddyn
Lleoliad(au):
Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd gyda’r hyblygrwydd i weithio gartref ac o bell yn unol â’n Polisi Gweithio Hyblyg (mae hon yn swydd dros Gymru gyfan felly disgwylir y bydd angen teithio i Gaerdydd a thros Gymru yn rheolaidd).

Manylion

Hysbyseb Swydd

Swyddog Cyfathrebu (Cyfryngau a Chyfryngau Cymdeithasol) Communications Officer (Media and Social Media)
Dyddiad Cau: Dydd Sul 27 Tachwedd 2022
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 2022 Closing Date: Sunday 27th November 2022
Interview Date: Thursday 13th December 2022

Gradd/Cyflog: Gradd 4 (SCP 30 – 35) £36,298 - £41,496
Tymor: Parhaol
Lleoliad: Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd gyda’r hyblygrwydd i weithio gartref ac o bell yn unol â’n Polisi Gweithio Hyblyg (mae hon yn swydd dros Gymru gyfan felly disgwylir y bydd angen teithio i Gaerdydd a thros Gymru yn rheolaidd).

Swydd dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi.
Cymraeg yn hanfodol: Ydi

Ynglŷn â’r Swydd
Rydyn ni’n edrych am Swyddog Cyfathrebu brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno â thîm cyfathrebu CLlLC.

Bydd gennych chi reddf dda o ran newyddion a dawn am ddweud stori. Gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, byddwch chi ’n cefnogi uwch swyddogion ac arweinyddiaeth wleidyddol CLlLC i helpu i hyrwyddo buddiannau llywodraeth leol yng Nghymru.

Fel aelod allweddol o’r tîm cyfathrebu, byddwch chi’n chwarae rhan ganolog yn cyfrannu syniadau ac i ail-siapio a datblygu ffordd CLlLC o wneud busnes. Byddwch chi’n gallu dangos profiad o reoli a datblygu cysylltiadau da gyda newyddiadurwyr allweddol ar draws y wasg a’r cyfryngau ledled Cymru a’r DU, ac o ysgrifennu copi perswadiol o ansawdd uchel ar draws nifer o sianeli. Byddwch chi’n hen law ar reoli a datblygu sianeli cyfryngau cymdeithasol a bydd gennych chi lygad dda am greu cynnwys effeithiol a gafaelgar.

Bydd profiad gennych chi o weithio mewn newyddiaduraeth neu gysylltiadau cyhoeddus, yn ddelfyrdol o fewn gwasanaeth cyhoeddus neu awyrgylch gwleidyddol, ac o weithio i derfynnau amser tynn. Byddwn ni’n disgwyl i chi fod yn ragweithiol ac yr un mor gyfforddus yn gweithio ar eich liwt eich hun neu fel rhan o dîm. Byddwch chi mewn cysylltiad agos ac yn rheolaidd gydag arweinwyr ac uwch aelodau etholedig o fewn CLlLC, gan ddarparu cyngor a cefnogaeth yn hyderus gan ddatblygu perthnasau dibynadwy ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno gyda sefydliad â phroffil uchel sydd wrth galon llywodraethiant Cymru. Os ydych chi’n gyfathrebwr blaengar a chreadigol, hoffwn ni glywed gennych chi.

Gwnewch gais Rŵan!

I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Dilwyn Jones, Rheolwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus ar 07554 056520.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma - www.wlga.cymru/jobs1

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.
Mae WLGA yn cyflogi ei staff yn ôl egwyddorion cyfleoedd cyfartal.

Chwilio am swydd