Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Sicrhau bod yr holl blant 2-3 oed yn ardal Dechrau’n Deg Gwynedd yn ymwybodol o’u hawl gofal plant a’u bod yn cael eu cefnogi i dderbyn hyn yn un o’r ystod o leoliadau sydd ar gael gan gydweithio gyda’r lleoliadau a’r staff ategol i sicrhau presenoldeb da yn y lleoliadau
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifiadur
•Ffon Symudol.
Prif ddyletswyddau
•Cymryd rôl strategol i sicrhau llefydd gofal plant digonol ar gyfer y cynllun Dechrau’n Deg gan gydweithio gyda’r staff perthnasol a’r asiantaethau i gael gofal plant o ansawdd i blant 2 oed yn yr ardaloedd.
•Cynorthwyo’r lleoliadau , pwyllgorau rheoli a’r cyrff arweiniol i gydymffurfio i anghenion AGC fel gweithdrefnau gofal plant a pholisïau ar gyfer rhedeg yr holl leoliadau i gyrraedd gofynion Strategol Gofal Plant Dechrau’n Deg
•Cydlynu’r drefn o rannu llefydd gofal plant i’r teuluoedd sy’n deilwng o’u hawliad Dechrau’n Deg. Sefydlu a gweithredu trefniadau effeithiol i sicrhau bod y mwyafrif o’r plant yn derbyn yr hawliad yn llawn. Datblygu systemau i gofnodi dewisiadau gofal plant ar lein a fod yn bwynt cyswllt i’r drefn i deuluoedd a thargedu teuluoedd anodd ei cyrraedd i hyrwyddo’r cynnig
•Cydweithio gyda’r lleoliadau i sicrhau presenoldeb uchel yn y lleoliadau a gweithio’n agos gyda theuluoedd i hyrwyddo presenoldeb da. Adrodd ar berfformiad fel sydd angen gan weithio’n agos gyda’r Swyddog Monitro a’r Athrawon Ymgynghorol i adnabod a dadansoddi tueddiadau. Cynnal ymweliadau gyda lleoliadau lle gwelir pryderon presenoldeb.
•Hyrwyddo pwysigrwydd gofal plant i deuluoedd gan ddatblygu HWB teuluoedd Gwynedd ar gyfer hyn a bwydo’n rheolaidd i gyfryngau cymdeithasol arfer dda yn y lleoliadau gofal plant. Sicrhau cysondeb o ran y taflenni gwybodaeth a gwybodaeth am hyn a cynigir yn y lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg. Bod yn wybodus ynglŷn â’r holl wasanaethau Dechrau’n Deg a’u hyrwyddo’n weithredol i Deuluoedd a hwyluso gwaith o ran cyfathrebu gwybodaeth i’r cynllun.
•Ymgynghori’n rheolaidd gyda’r teuluoedd gan gynnal arolygon galw a chasglu gwybodaeth drwy holiaduron bodlonrwydd a.y.b gyda rhieni ar ddiwedd eu hawliad gofal plant a chreu adroddiad fel sydd angen a bwydo hyn i’r Bwrdd Rheoli a’r swyddogion perthnasol.
•Ar y cyd gyda’r Swyddog Datblygu Gofal Plant chwblhau awdit o anghenion hyfforddiant staff gofal plant y lleoliadau a rhaglennu hyfforddiant pwrpasol ar eu cyfer gan gydymffurfio gyda unrhyw ofynion statudol neu gytundebol.
•Gweithio’n agos gyda’r Swyddogion Datblygu i fwydo i gynlluniau gweithredu yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant. Rhoi cyngor ar dargedau blynyddol ar gyfer datblygu lleoedd gofal plant newydd a sefydlu lleoedd gofal plant newydd yn ôl y galw.
•Cadw ar y blaen gyda’r ddeddfwriaeth gyfredol yn ymwneud â phlant, teuluoedd a datblygiadau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth uchod.
•Bod yn rhan o dîm asiantaethol sy’n darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cefnogi nodau’r rhaglen, cyfarwyddyd a pholisïau Dechrau’n Deg.
•Cymryd rhan mewn cofnodi, monitro, gwerthuso ac adolygu gwasanaethau yn ôl cyfarwyddyd y Cydlynydd Blynyddoedd Cynnar a Llywodraeth Cymru
•Cydweithio a rhwydweithio gyda swyddogion eraill a phartneriaid er mwyn cyflawni gofynion y swydd.
•Ymchwilio i arfer da o fewn y maes datblygu’r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant.
•Trefnu a mynychu sesiynau estyn allan i godi proffil a hyrwyddo’r maes blynyddoedd cynnar a gofal plant.
•Mynychu cyfarfodydd grwpiau, fforymau a rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n rhoi faterion sy’n gysylltiedig â’r maes gofal plant.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol fel ar y penwythnosau neu ar y rota 8 i 6.
•Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.
•Gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn angenrheidiol.