NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser
- Y gallu i feddwl a gweithio yn greadigol a systemig
- Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
DYMUNOL
- Bod yn ymwybodol o weledigaeth Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Cymhwyster lefel gradd (2:1 neu Uwch) mewn Seicoleg
- Cymwys am achrediad gan y BPS
DYMUNOL
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o weithio gyda plant a phobl ifanc
DYMUNOL
- Profiad o gasglu data
- Profiad o weithio gyda plant a phobl ifanc mewn lleoliad addysgol
- Dealltwriaerth o faterion ADY a Chynhwysiad
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Gwybodaeth a dealltwriaeth am ddatblygiadau diweddar ym maes Seicoleg
- Y gallu i weithio dan arweiniad a goruchwyliaeth oddi mewn i rwydweithiau gwasanaeth i blant a’u teuluoedd.
DYMUNOL
- Arbenigedd mewn meysydd penodol
- Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
- Dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth ADYaCh a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
- Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
- Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)