Peiriannydd Trydanol
CYFLOG: S4 (SCP 26-28) (£30,984 – £32,798)
LLEOLIAD: - Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru, Conwy
Mae gan ACGChC gyfle cyffrous i ymgeisydd brwdfrydig ymuno â'n tîm technoleg deinamig.
Mae'r swydd barhaol hon yn addas iawn ar gyfer unigolyn sy'n dymuno symud ymlaen yn ei yrfa gyda rheoli seilwaith trydanol a rheoli asedau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi i swydd beiriannydd trydanol er mai dim ond am gyfnod dros dro (tua 18 mis) y bydd hyn gan mai'r bwriad yw datblygu sgiliau a gwybodaeth yr ymgeiswyr a fydd yn caniatáu iddynt gael dyrchafiad i swydd Rheolwr Cynorthwyol Twneli a Thechnoleg.
Byddai'r swydd yn addas ar gyfer ymgeisydd sydd â sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf ac sy'n llawn cymhelliant ac yn gallu defnyddio ei fenter ei hun i gwblhau tasgau. Elfen allweddol o'r rôl hon yw'r gallu i graffu'n gywir ar wybodaeth megis lluniadau technegol, manylebau a thystysgrifau.
Byddai gan yr ymgeisydd delfrydol angerdd am osodiadau trydanol ac arloesi. Byddent yn cefnogi cyflawni prosiectau sy'n ymwneud â gosod seilwaith trydanol ar y rhwydwaith cefnffyrdd gan sicrhau bod gosodiadau yn bodloni'r lefelau ansawdd gofynnol yn ogystal â sicrhau eu bod yn cadw at y safonau perthnasol. Byddai'r ymgeisydd hefyd yn cefnogi'r tîm gyda rheoli adnoddau, cyllidebau a chyswllt cleient/rhanddeiliaid.
Bydd yr ymgeisydd yn cynorthwyo'r tîm i godi proffil galluoedd y tîm technoleg o fewn y sefydliad.
Bydd yr ymgeisydd yn cael cyfleoedd i fod yn rhan o arferion gorau a safonau cyfredol a newydd sy'n ymwneud â chynllunio, dylunio a gweithredu datrysiadau trydanol a thechnoleg.
Rhaid i'r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda'r gallu i addasu eich arddull i weddu i'ch cynulleidfa. Rhaid iddynt hefyd fwynhau gweithio'n agos gyda chleientiaid ac aelodau eraill o'r tîm proffesiynol a chefnogi'r tîm gyda datblygu datrysiadau sy'n rhagori ar ddisgwyliadau ein cleient.
Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad o weithio mewn amgylchedd cefnogol, gallu mynd i'r afael â phroblemau'n rhesymegol a defnyddio tystiolaeth i ddod o hyd i atebion neu argymhellion, bod yn gyfforddus wrth ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd, a dysgu'n gyflym sut i ddefnyddio systemau a rhyngwynebau newydd.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad a dealltwriaeth o systemau rheoli asedau, gosodiadau trydanol a Thechnolegau Microsoft megis Word, Excel a PowerBI.
Gan weithio i ACGChC byddwch yn profi amgylchedd gwaith cynhwysol, cyfeillgar a hyblyg lle caiff cydweithwyr eu hannog i dyfu a datblygu. Cyfle gyrfa ystyrlon a gwerth chweil lle byddwch yn helpu i drawsnewid cymdeithas. Manteision eraill o weithio gyda ni yw pensiwn sector cyhoeddus, gwyliau â thâl a gostyngiadau staff eraill.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol yn ymwneud â'r swyddi uchod, cysylltwch â Stuart Hancocks ar 01492 564712
Dyddiad Cau: 10y.b Dydd Iau 18/08/2022
Os byddwch yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad bydd E-BOST yn cysylltu â chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad a ddarperir ar eich ffurflen gais. Mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd