NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg gyda chwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid mewn iaith glir, cywir a hawdd ei deall, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Sgiliau trefnu effeithiol
Gallu i weithio fel rhan o dîm ac adeiladu a chynnal perthnasau effeithiol gyda rhanddeiliaid a phartneriaid
Gallu i weithio’n annibynnol
Gwydn, dibynadwy a hyblyg
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gymhwyster cyfatebol
DYMUNOL
Cymhwyster neu gyffelyb mewn Cyfathrebu a/neu marchnata
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio mewn sefydliad cyhoeddus neu mewn sefydliad mawr
Profiad o weithio i amserlenni tynn
DYMUNOL
Profiad o gynhyrchu a dilyn cynllun cyfathrebu
Profiad o gydweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, e.e. swyddogion, aelodau etholedig, y cyhoedd
Profiad o hyrwyddo amryw o gynlluniau ar yr un pryd
Profiad o greu deunydd hyrwyddo a marchnata e.e. fideos, cylchlythyrau, graffigau, postiadau cyfryngau cymdeithasol neu gyffelyb
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau marchnata, cyfathrebu neu hyrwyddo cryf
Trin meddalwedd cyfrifiadurol sylfaenol Microsoft Office
Yn cyfathrebu’n effeithiol a rhwydd
Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu tasgau a llwyth gwaith yn effeithiol
DYMUNOL
Sgiliau dylunio effeithiol
Gallu trin rhaglenni a rhyngweithiau dylunio megis Canva, Powtoon neu gyffelyb arall
Sgiliau datrys problemau
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad – Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd
Ysgrifennu – Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.