Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd iaith a Chraffu, a’r Ymgynghorydd Iaith i:
- cyfrannu at ddatblygu diwylliant Gymraeg y Cyngor drwy ysbrydoli eraill a’u hannog i gydnabod a gwerthfawrogi’r fraint o gael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg
- datblygu a sicrhau trefniadau’r Cyngor i gwrdd â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan adrodd i Gomisiynydd y Gymraeg
- cefnogi ymchwiliadau’r Pwyllgor Iaith
- cefnogi datblygu sgiliau cynllunio ieithyddol ac ymwybyddiaeth iaith i staff a Chynghorwyr
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Prif Ddyletswyddau
Safonau’r Gymraeg
• Cynorthwyo i sicrhau cymdymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg ar draws y Cyngor er mwyn cyd-fynd â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a darparu cyngor i eraill
• Cefnogi gwaith adrannau i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a’u cynghori ar gydymffurfiaeth a’r Safonau.
• Cynorthwyo gydag ymchwilio ac ymateb i gwynion iaith.
• Sicrhau trefniadau monitro cynhwysfawr, gan gydlynu data angenrheidiol ar gyfer adrodd ar ddangosyddion a llunio Adroddiad Blynyddol y Cyngor i Gomisiynydd y Gymraeg.
• Annog y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â monitro’r defnydd a’r galw.
• Datblygu dealltwriaeth y gweithlu o gynllunio ieithyddol ac ymwybyddiaeth iaith ar draws y Cyngor
• Cyfrannu at ddatblygu diwylliant Gymraeg y Cyngor drwy ysbrydoli eraill a’u hannog i gydnabod a gwerthfawrogi’r fraint o gael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg
Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd
• Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu, adolygu, monitro a chyhoeddi Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd (strategaeth iaith y Cyngor)
• Cydweithio gyda phenaethiaid adrannau a gwasanaethau i ddatblygu cynlluniau, ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a threfniadau gwaith sydd yn hybu’r Gymraeg yn unol â’r gofyn statudol ar y Cyngor.
Asesiadau effaith iaith
• Sicrhau mewnbwn priodol i warchod buddiannau’r iaith Gymraeg mewn asesiadau effaith cydraddoldeb o gynlluniau, polisiau a gweithgareddau’r Cyngor.
• Cyflwyno sylwadau ar ddatganiadau ac asesiadau iaith a gyflwynir gyda cheisiadau cynllunio ar ran yr Uned Iaith a monitro unrhyw effaith.
• Cynnig a darparu cyngor ieithyddol ar gyfer ymgeiswyr sy’n dymuno derbyn cyngor cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio.
Polisi iaith y Cyngor
• Cynorthwyo i adolygu a datblygu’r Polisi Iaith i sicrhau ei fod yn gyfredol ac addas
• Cyfathrebu, monitro a hyrwyddo’r Polisi Iaith gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Polisi gan swyddogion Gwynedd.
• Cynorthwyo i lunio canllawiau a pholisiau atodol eraill sy’n gysylltiedig gyda’r Polisi Iaith er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth adrannau a gwasanaethau gyda gofynion y Polisi Iaith a’r Safonau.
Prosiectau yng Nghynllun y Cyngor
• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a’r Ymgynghorydd Iaith gyda phrosiectau blaenoriaeth sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun y Cyngor sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a datblygu’r diwylliant yng Ngwynedd.
Pwyllgor Iaith
• Cyfrannu tuag at sicrhau mewnbwn priodol i adolygiadau o bolisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol, gan gyfrannu at ymatebion gan y Cyngor i’r adolygiadau hynny.
• Cefnogi’r ymchwiliadau a gomisiynir gan y Pwyllgor Iaith, gan lunio rhaglen waith, casglu data, cynllunio a chynnal cyfweliadau, drafftio adroddiad a llunio argymhellion.
• Ymchwilio i gwynion iaith a chanfod datrysiadau iddynt gan adrodd arnynt i’r Pwyllgor Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg.
• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu i lunio rhaglen waith y Pwyllgor a llunio adroddiadau.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd disgwyl gweithio oriau hyblyg ac oriau anghymdeithasol yn achlysurol