Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu cefnogaeth weinyddol i’r Uwch Reolwr Diogelu ag Ansawdd
•Darparu cefnogaeth i’r Uned Ddiogelu ag Ansawdd, Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Gwynedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Defnyddiant gliniadur
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifol am weinyddu’r trefniadau ar gyfer trefn ‘Honiadau yn erbyn unigolion mewn swyddi o ymddiriedaeth’ yn unol a Rhan 5 o Ganllawiau Diogelu Cymru.
•Trefnu cyfarfodydd, man cyfarfod, gwahodd aelodau, cofnodi, llythyru a dosbarthu cofnodion cyfarfodydd Strategaeth Rhan 5
•Datblygu a cynnal bâs data cyfredol o gyfarfodydd Strategaeth Rhan 5 er mwyn sicrhau fod gweithredoedd yn cael eu gwneud yn dilyn cyfarfodydd e.e. llythyrau yn cael eu gyrru allan
•Sicrhau fod cofnodion cyfarfodydd Strategaeth Rhan 5 ynghyd a dogfennau perthnasol yn cael eu cofnodi ar system WCCIS.
•Gweinyddu’r Panel Rhiant Corfforaethol gan gynnwys trefnu amserlen, man cyfarfod, gwahodd aelodau a chofnodi cyfarfodydd.
•Gweinyddu’r Panel Cam-fanteisio Gwynedd gan gynnwys trefnu amserlen, man cyfarfod, gwahodd aelodau a chofnodi cyfarfodydd.
•Gweinyddu Bwrdd Rheoli Tîm Nos gan gynnwys trefnu amserlen, man cyfarfod, gwahodd aelodau a chofnodi cyfarfodydd Bwrdd.
•Gweinyddu’r Panel Adolygiadau Marwolaethau Plant gan gynnwys trefnu amserlen, man cyfarfod, gwahodd aelodau, trefnu rhaglen a chofnodi cyfarfodydd Panel.
•Cofnodi a threfnu Grŵp Arweinwyr Diogelu a cyfarfodydd eraill ar alw (gan gynnwys darparu cefnogaeth i gofnodi Tim Rheoli pan fo’r Ysgrifenyddes i’r Pennaeth Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd ddim ar gael)
•Sicrhau a chynnal rhestrau cyfredol a chywir o aelodau y Paneli a’r Is-Grwpiau
•Mewnbynnu gwybodaeth LAC wrth i blant gychwyn/newid/adael gofal/lleoliad pan fo’r hysbysiadau yn dod i law
•Mewnbynnu Asesiadau Iechyd yn WCCIS ar ôl eu derbyn gan WCCIS a hysbysu’r Gweithwyr Cymdeithasol a’r Swyddog Adolygu Annibynnol fod y ffurflen yn WCCIS.
•Darparu cefnogaeth weinyddol i Uwch Reolwr Diogelu ag Ansawdd drwy drefnu cyfarfodydd goruchwyliaeth staff yr Uned, cyfarfodydd hefo rheolwyr timau,
•Unrhyw ddyletswyddau eraill priodol ar gais y Pennaeth Gwasanaeth
•Bod yn ymwybodol o ofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran i sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
•Mae’r Cyngor yn gweithredu rhaglen barhaus o hyfforddiant a ddatblygu sgiliau personol ynghyd a phroses Gwerthuso sydd yn cyfrannu tuag at hyn, disgwylir i ddeilydd y swydd cydymffurfio a hyn.
•Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol a gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol a natur y swydd ai graddfa yn unol a chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•