Pwrpas y swydd
•I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn yr Uned Gyllid mewn darparu gwasanaeth cyllidol a chyfrifeg i Adrannau Grŵp Datblygu
•I fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol a chyfrannu at alluogi’r Adrannau gyflawni eu nod a’u hamcanion
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•I gynorthwyo gwaith yr Uned Gyllid mewn perthynas i’r ddarpariaeth gwasanaeth gyllid, cyfrifeg rheolaeth a chyfrifeg ariannol.
•Maes gwaith yr Uned yn cynnwys :-
-Darparu cyllideb refeniw a chyfalaf blynyddol
-Monitro rheolaidd o’r gyllideb, sicrhau cydsynio o fewn y gyllideb, dosbarthiad o wybodaeth monitro reolaidd i reolwyr cyllidebau, ac i dynnu sylw’r Uwch Gyfrifydd at unrhyw ymadawiad neu ymadawiad dichonadwy o’r gyllideb
-Darparu cyngor ariannol i swyddogion yr Adran
-Cynnal cyfrifon y lejar a darparu cyfrifon terfynol y gwasanaeth
-Sicrhau fod gweithgareddau ariannol a chyllidol yn cydsynio o fewn y rheolau sefydlog a rheoliadau ariannol y Cyngor a chonfensiwn cyfrifeg sefydledig
-Darparu adroddiadau ariannol, a gwybodaeth ystadegol fel yn ofynnol i’r Adran, y Cyngor, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill
-Sicrhau casgliad rheolaidd o incwm a grantiau dyledus, gan gynnwys monitro sefyllfa dyledwyr a chredydwyr
-Cynnal cyffredinol o gyfrifon y lejar gyfrifeg gan gynnwys cyfrifon personol, cyfrifon dros dro, a chyfrifon rheolaeth benodedig o fewn y fantolen ariannol
-Cyfranogi yn y broses o ddatblygu sustemau perthnasol i faes gwaith yr Uned Cyllid
-Cynorthwyo a chefnogi gwaith Adrannau’r Grŵp Datblygu yn y broses tendro fel yn berthnasol i faes gwaith yr uned.
-Hyrwyddo a chynorthwyo yn y gwaith o hyfforddi staff yr Adran fel yn berthnasol i’r maes ariannol a chyllidol.
-Sicrhau fod gwaith yn cael ei drefnu yn amserol i sicrhau cyflawni targedau ac amserlenni penodedig.
-I fod yn bresennol a chynrychioli’r Uned mewn cyfarfodydd perthnasol ac i ddarparu adroddiadau briffio fel yn briodol.
•Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymgymryd unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol a natur y swydd a’i graddfa yn unol â cheisadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yn achlysurol, angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol
•I gefnogi datblygiad parhaol yr unigolyn, fe ddisgwylir yn achlysurol i ddeilydd y swydd fod yn barod i dreulio cyfnodau byr mewn unedau cyllid eraill o fewn yr adran i ddatblygu sgiliau ac i ymestyn profiad mewn gwahanol feysydd.