Swyddi ar lein
Cydlynydd Prosiect Trawsffurfio Blynyddoedd Cynnar
£33,486 - £35,336 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2024
- Cyfeirnod personel:
- 22-22767-H3
- Teitl swydd:
- Cydlynydd Prosiect Trawsffurfio Blynyddoedd Cynnar
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Uned Blynyddoedd Cynnar
- Dyddiad cau:
- 25/08/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2024 | 37 Awr
- Cyflog:
- £33,486 - £35,336 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth] (https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sioned Owen ar 01286 678824
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 25 AWST, 2022
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Un sy’n rhoi sylw i fanylion, yn blaenoriaethu gwaith, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol
• Un sy’n perchnogi gwaith ac yn ei gwblhau a’i gyflwyno i’r safon uchaf posib
• Un sy’n cydweithio’n effeithiol a gallu gweithio fel rhan o dîm
• Un sy’n gallu arwain a rheoli gwahanol pecynnau gwaith ac ymdopi ag adegau o waith trwm
• Person egnïol gyda disgwyliadau uchel ac agwedd hyblyg gyda’r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun
• Un sy’n dangos creadigrwydd a chymhelliant amlwg, ac yn gweithredu’n rhagweithiol i yrru’r gwaith yn ei flaen
• Sgiliau rhyngbersonol o’r radd flaenaf.
• Un sy’n barod i gynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfodydd gan gyfrannu a chyflwyno Gwybodaeth
• Cymeriad diplomyddol ac amyneddgarDYMUNOL
• Un sy’n gallu arwain a hyfforddiCYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy'n berthnasol i anghenion y swyddDYMUNOL
• Cymhwyster Rheoli Prosiect e.e. Prince 2
• Cymhwyster ECDL neu gymhwyster cyfwerth yn nefnydd TGChPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o ddatblygu fframweithiau a gweithdrefnau er mwyn cyflwyno gwell gwasanaeth
• Profiad o weithio gydag a chyfathrebu a nifer o fudd-ddeiliaid
• Profiad o gymryd cyfrifoldeb, perchnogi, arwain a rheoli prosiectau cymhleth
• Profiad o gynghori, herio a dylanwadu ar lefel strategol mewn sefydliad cymhleth
• Profiad o greu ystod eang o ddogfennaeth i wahanol fforymau gan addasu modd fel bo’n briodol i’r sefyllfa a’r gynulleidfa darged
• Profiad o arwain ar becynnau gwaith cymhleth
• Profiad o wneud gwaith ymchwil i hysbysu penderfyniadauDYMUNOL
• Profiad o weithio gyda methodoleg rheoli prosiectau e.e. PRINCE 2
• Profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol
• Profiad o weithio yn y maes Blynyddoedd Cynnar
• Profiad o greu Adroddiadau Cabinet
• Profiad o hyfforddi a / neu mentoraSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth
• Y gallu i gynllunio, monitro, adrodd, trefnu, cynllunio a cyfathrebu’n effeithiol
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin a phobl, ac ar bapur a pharchu’r angen i fod yn gyfrinachol
• Ymwybyddiaeth o’r ystod o brosesau a gofynion sydd ynghlwm wrth faes ad-drefnu ysgolion
• Gwybodaeth a phrofiad llunio achosion busnes
• Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gyfundrefn gwleidyddol y Cyngor
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru
• Y gallu i weithio o dan gyfarwyddyd a chydweithio fel aelod o dîm
• Y gallu i ddefnyddio asesiadau’n effeithiol
• Y gallu i wirio, arwain a rheoli ansawdd y gwaith - gan sicrhau cysondeb, a'i bod yn gydnaws â strategaethau eraill y Cyngor
• Profiad o ddefnyddio gwahanol becynnau meddalwedd gan gynnwys Microsoft Office (e.e. Word, Outlook, Excel, PowerPoint)
• Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a’r gallu i adeiladu perthynas proffesiynol gydag ystod o ymgynghorai
• Trwydded yrruDYMUNOL
• Gwybodaeth am hanfodion methodoleg rheoli prosiectau e.e. PRINCE2
• Gwybodaeth am fethodoleg VanguardANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
Darllen a Deall Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd
Ysgrifennu Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Lleoliad
I’w gadarnhau2 Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Bydd y rôl hon yn gweithio gyda'r holl wasanaethau Blynyddoedd Cynnar gan gynnwys iechyd, gofal plant, chwarae, rhiantu a darpariaeth addysg gynnar. Bydd disgwyl i’r rheolwr prosiect ddatblygu meddylfryd a chanlyniadau fydd yn arwain at gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus mewn modd cydweithredol ac integredig ac yn nodi ymrwymiad penodol i greu system sy'n rhoi anghenion unigryw pob plentyn yn ganolog iddi.
• Bydd y swyddog yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau lleol y Gogledd a rhan-ddeiliaid allweddol sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoli amrywiaeth o brosiectau mewn perthynas â’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar. Bydd hyn yn cynnwys cydlynu grŵp llywio a ffrydiau gwaith lleol, rheoli prosiectau a newid, hwyluso gweithdai, ymgynghori ac ymgysylltu â'r gymuned, gweithio mewn partneriaeth i hwyluso a chefnogi integreiddio a thrawsnewid y blynyddoedd cynnar.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Offer TG
Cyllid GrantPrif Ddyletswyddau. .
• Arwain ar sefydlu trefniadau a gweithredu’r Prosiect Trawsffurfio’r Blynyddoedd Cynnar gan gynnwys cydlynu trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd gyda’r Grŵp Llywio; datblygu methodoleg a sgôp y prosiect. Cyflawni’r rôl rheolaeth prosiect gan lunio dogfennau o safon uchel, gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i: y Ddogfen Cychwyn Prosiect, cynlluniau prosiect, y log risgiau a materion ac adroddiadau monitro cynnydd ac ariannol. Bydd angen sicrhau bod yr holl ddogfennau yn parhau’n gyfredol gydol y prosiect
• Cydlynu a chynorthwyo Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a’r Pennaethiad Cynorthwyol i ddatblygu cynlluniau, targedau a rhaglenni gwaith a mecanweithiau adrodd i sicrhau cyfathrebu effeithiol y prosiect
• Mapio a gwerthuso'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn erbyn y Matrics Aeddfedrwyd gan gydweithio’n agos gyda’r ‘Early Intervention Foundation’ gan alluogi integreiddio a thrawsnewid o fewn y blynyddoedd cynnar drwy ddatblygu strategaethau i fynd i'r afael ag unrhyw bylchau yn y ddarpariaeth o wasanaethau i deuluoedd a'u plant 0-7 oed.
• Diffinio a sgopio'r 'system' blynyddoedd cynnar presennol ar draws y lefelau anghenion (cyffredinol; ymyrraeth gynnar ac ataliol; wedi’i dargedu; statudol); ac ar draws themâu’r blynyddoedd cynnar (addysg, gofal, rhiantu, chwarae, iechyd).
• Hwyluso gweithdai ac ymgynghoriadau i gefnogi arweinwyr a rheolwyr i rannu dealltwriaeth gyffredin o’r blynyddoedd cynnar, i ddadansoddi, cynllunio a datblygu systemau sy’n cadw’r plentyn yn y canol o fewn terfynau amser a chyllideb y cytunwyd arnynt.
• Adrodd ar gynnydd yn rheolaidd yn unol â’r trefniadau llywodraethu, i’r prif ran-ddeiliaid a grwpiau eraill yn ôl yr angen.
• Rheoli’r gwaith ymchwil a'r dadansoddiad sydd ei angen mewn perthynas a’r prosiect gan gydweithio gyda Uned ymchwil y Cyngor. Ymgymryd â'r ymchwil a'r dadansoddi sydd eu hangen gan drosi a dadansoddi gwybodaeth ddamcaniaethol, data, polisi ac arfer eich asiantaethau partner ac asiantaethau partner ar waith i gefnogi gweithrediad gwasanaethau effeithiol ar draws y blynyddoedd cynnar.
• Archwilio sut ellir ail-gyflunio systemau blynyddoedd cynnar o fewn cyllidebau presennol gan adeiladu ar ein rhaglenni, gwasanaethau a chefnogaeth blynyddoedd cynnar presennol, a chreu system ymyrraeth gynnar ac ataliol sy'n fwy cyd-gysylltiedig, yn ddi-dor ac ymatebol sy'n rhoi anghenion unigryw pob plentyn yn ganolog iddi.
• Mapio systemau TG y Blynyddoedd Cynnar ac adnabod cyfleon i wneud defnydd gwell o systemau ar y cyd.
• Nodi ac asesu anghenion hyfforddi gweithwyr, gan sicrhau bod gan y gweithwyr y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio'n effeithiol gyda phlant (gan gynnwys plant ag anableddau) a theuluoedd ar draws y lefelau angen.
• Canolbwyntio ar wella cydlyniant gwasanaethau, cynllunio, comisiynu a gweithredu dull sy’n seiliedig ar anghenion
• Rheoli cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid gan gynnwys y prosesau ymgynghori anffurfiol a ffurfiol sydd eu hangen gan sicrhau cyfathrebu clir ac effeithiol gan addasu’r modd fel bo’n briodol i’r sefyllfa. Datblygu a chynnal cysylltiadau â phrosiectau lleol a chenedlaethol perthnasol.
• Cydweithio gydag aelodau eraill y tîm, swyddogion Cyfadrannau’r Cyngor, prosiectau lleol a chenedlaethol perthnasol.a budd-ddeiliaid allanol fel Gweision Sifil Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y prosiectau
• Cynllunio strategaeth / cynllun busnes i ddatblygu systemau’r blynyddoedd cynnar, gyda blaenoriaethau, i gydweithio i ddarparu gwasanaethau mewn modd cydlynol, integredig ac amserol.
• Asesu sefyllfa fusnes y ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar fewnol bresennol, nodi potensial ar gyfer datblygu a chreu cynllun busnes cadarn i symud y gwasanaeth yn ei flaen.
• Sicrhau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, gan gynnwys Rheoliadau Ariannol y Cyngor.
• Casglu, dehongli a sicrhau cydyffmurfiaeth gyda’r holl ddeddfwriaeth, canllawiau a mentrau polisi cenedlaethol a lleol perthnasol yng nghyswllt darpariaeth blynyddoedd cynnar.
• Paratoi adroddiadau i’r Cabinet a fforymau gwleidyddol eraill yn unol â threfniadau mewnol y Cyngor
• Paratoi dogfennaeth, mynychu ac adrodd mewn cyfarfodydd i sicrhau bod y prosiectau yn symud i’r cyfeiriad cywir ac yn parhau’n hyfyw
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Gweithio rhai oriau anghymdeithasol
Disgwylir teithio yn rhan o’r swydd.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.