PWRPAS Y SWYDD
• Darparu cymorth gweinyddol o safon uchel o fewn GwE.
• Bod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol a chyfrannu tuag at alluogi’r gwasanaeth i gyflawni ei amcanion a’i nod.
PRIF GYFRIFOLDEBAU
1. Cyflawni dyletswyddau derbynfa, gan ateb ymholiadau cyffredinol.
2. Bod yn gyfrifol am gynnal a chadw'r swyddfeydd - ystafelloedd hyfforddi ac offer hyfforddi, cyfleusterau te/coffi, cadw dyddiadur yr ystafelloedd, taflunydd ayb.
3. Ymdrin ag ymholiadau a ddaw i law, dros y ffôn ac ar e-bost, yn broffesiynol ac yn gadarnhaol.
4. Sicrhau dosbarthiad a gweithrediad priodol prosesau post – yn cynnwys agor, didoli, tracio a dosbarthu ayb.
5. Gweithredu prosesau archebu ac anfonebu yn effeithlon, cywir a phriodol.
6. Sicrhau bod nwyddau/gwasanaethau perthnasol yn cael eu caffael yn effeithlon ac effeithiol a bod y prosesau perthnasol yn cael eu dilyn e.e. nwyddau swyddfa.
7. Rhoi cymorth clerigol/gweinyddol cyffredinol.
8. Cefnogi’r Swyddogion Cefnogol o ran trefnu cyrsiau, cynadleddau a gwaith amrywiol.
9. Defnyddio pecynnau TGCh (e.e. Office 365, Outlook, Word, Excel, TEAMS, Zoom, Hwb) a chynhyrchu rhestrau/gwybodaeth/data yn unol â’r gofyn.
10. Trefnu cyfarfodydd yn ôl yr angen.
11. Rhoi cymorth i gadw dyddiaduron yn ôl yr angen.
CYFFREDINOL
• Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad.
• Cyfrifoldeb cyffredinol i gyfrannu i weithrediad llwyddiannus GwE trwy gydnabod mai diben y gwasanaeth yw hwyluso a chefnogi dysgu yn y chwe Awdurdod Lleol. Mae hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i staff weithio gyda’i gilydd mewn timau ac i dderbyn hyblygrwydd rolau er mwyn bodloni gofynion ac amgylchiadau sy’n newid.
• Bydd deilydd y swydd yn arddel ac yn arddangos y safonau uchaf o ymddygiadau a gwerthoedd y gwasanaeth.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Diogelwch y gwasanaeth.
• Gweithredu o fewn polisiau’r gwasanaeth yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y gwasanaeth. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau Cyfleoedd Cyfartal a Chyfartaledd y gwasaneth.
Amlinelliad o’r dyletswyddau yn unig yw’r uchod. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd â chyfrifoldebau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.