Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cyfrifoldeb dros edrych ar ol y gynulleidfa yn cynnwys gwerthu tocynnau, gwerthu nwyddau, darparu gwybodaeth, tywys ac arwain cynulleidfa a diogelwch y gynulleidfa tra yn yr adeilad.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Drebyn a thrafod arian trwy werthiant tocynnau a nwyddau.
Prif ddyletswyddau
•Rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth mae’r gwasanaeth yn ei wneud gan weithio yn unol â strategaethau a pholisïau a fabwysiedir gan Gyngor Gwynedd.
•Bod yn wyneb blaen y Theatr/Sinema gan arddangos sgiliau gofal cwsmer da yn cynnwys bod yn groesawus a chlên wrth holl ddefnyddwyr
•Ymdrin gydag ymholiadau gwybodaeth cwsmeriaid sy’n ymweld a’r safle yn cynnwys gwerthu tocynnau a nwyddau bar coffi/siop yn cynnwys delio gyda thrafodion arian a chymryd tal ar-lein a thros y ffon.
•Sicrhau fod unrhyw gwmnïau, contractwyr neu ymwelwyr i’r adeilad yn derbyn ‘visitor lanyards’ a’u bod yn arwyddo i mewn ac allan o’r adeilad
•Adrodd yn dyddiol ar gwerthiant consesiynau a niferoedd cynulleidfa i’r theatr a sinema i gwmniau allanol megis Rentrack
•Cadw cofnod o werthiant a chynulleidfaoedd yn ddyddiol a’u mewnbynnu i daenlennau mewnol
•Ymgymryd gyda gwaith y dderbynfa ar sail rota, yn cynnwys dyletswyddau gweini yn ymwneud a’r bar coffi, bar diodydd, gwerthu tocynnau ac ateb ymholiadau cyffredinol gan y cyhoedd yn cynnwys rhai yn ymwneud a’r elfen gwasanaethau eraill yn yr adeilad, yn unol a’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng y Gwasanaeth Sinema/Theatr a’r Gwasanaeth Llyfrgell. Sicrhau a chadw at safonau a rheolau hylendid bwyd ac ymgymryd gydag unrhyw hyfforddiant penodol yn y maes hwn. Gweini diodydd poeth, diodydd meddal a diodydd alcoholig i gwsmeriaid.
•Sicrhau trefn a diogelwch yn ystod dangosiadau ffilm, sioeau a pherfformiadau, yn cynnwys tywys ac arwain cwsmeriaid i’r awditoriwm a’r balconi, derbyn tocynnau a chynorthwyo gyda materion mynediad a gadael.
•Bod yn ymwybodol o reolau tân ac yn gallu cynorthwyo i wacau’r adeilad yn ddiogel mewn argyfwng
•Cynorthwyo i gadw’r adeilad yn lan a diogel, yn cynnwys, glanhau atodol o fannau cyhoeddus a phreifat Neuadd Dwyfor, megis gwagio biniau, glanhau toiledau os bydd angen, glanhau’r cyntedd ayyb
•Adrodd i aelod uwch o dim Neuadd Dwyfor a gweithredu unrhyw ddylestswyddau achlysurol yn unol a gofyn neu gyfrifoldebau’r swydd.
•Cydymffurfio gyda pholisi a chanllawiau Diogelu Plant ac Oedolion Bregus Cyngor Gwynedd gan gymryd mai cyfrifoldeb pob unigolyn a gyflogir yw bod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau sy’n ymwneud a materion diogelu plant ac oedolion bregus.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Oriau gweithio yw 7.5 awr yr wythnos ar sail rota a disgwylir i’r deilydd weithio oriau ychwanegol yn achlysurol ar rai nosweithiau a phenwythnosau.
•Gall rai o’r oriau gwaith syrthio ar Sadyrnau neu Suliau a chyda’r hwyr ac yn unol â gofynion y rhaglen gweithgareddau. Delir yr hawl i newid patrwm oriau gweithio yn ôl gofynion y Gwasanaeth. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gymhwyso i’r lefel briodol yng nghyswllt defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Darperir hyfforddiant yn ôl yr angen.
•Y prif safle gwaith fydd Neuadd Dwyfor.