PWRPAS Y SWYDD
Agor a chau Pont Aber i gerddwyr a thraffig yr afon.
CYFRIFOLDEB AM ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, offer)
Unrhyw offer, beiriant neu nwyddau sy’n ymwneud a’r dyletswyddau a nodwyd.
Ymgymryd ag unrhyw waith man cynnal a chadw ar y Bont a’r ardal o’i chwmpas yn y bore.
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL
• Agor a chau Pont yr Aber i gerddwyr a thraffig yr afon mewn modd diogel.
• Sicrhau fod y gweithle yn cael ei gadw yn daclus a glân.
• Gwaith codi man ysbwriel, peintio a cynnal a chadw.
• Dyletswydd barhaol i sicrhau diogelwch eich hun, y gweithlu a’r cyhoedd.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei drin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.)
Gwaith Bont Aber
Mae’r bont yn agored 364 diwrnod o’r flwyddyn o 7.00 y bore hyd at 11.00 o’r gloch y nos.
Mae’r bont ar gau diwrnod Nadolig.
Bydd angen gweithio shifftiau.