Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cynorthwyo gyda dyletswyddau ariannol a rheolaethol yn y cartref preswyl cofrestredig a darparu gofal personol unigol i'r defnyddwyr gwasanaeth. Dirprwyo ar ran y rheolwr pan fydd yn absennol o'r cartref.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Parchu a defnyddio'n briodol holl offer a cyfarpar sydd yn y cartref. Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i'r rheolwr neu'r person sydd a chyfrifoldeb am y cartref ar y pryd o unrhyw diffyg mewn unrhyw offer, neu o'r gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb)
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau a pherchir urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol a'r Safonau Gofynion Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Preswyl a Dydd.
•Bod yn sensitif i'r angen am barchu hawliau yr unigolyn ar bob achlysur.
•Cadw cyfrinachedd ar bob agwedd o weithrediadau'r cartref.
•Bod yn rhan o'r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu cynllun y defnyddiwr unigol.
•Gweithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer nifer penodedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd adolygu a chynhadleddau achos y defnyddwyr hynny gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
•Ymgymeryd a dyletswyddau glanhau a londri.
•Paratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.
•Ymgymeryd a'r dasg o dderbyn a dosbarthu meddyginiaeth yn unol a polisi'r Cyngor.
•Mynychu cyrsiau hyfforddi ac ymrwymo i ddilyn NVQ 3.
•Mynychu cyfarfodydd yn unol a chyfarwyddid Rheolwr y Cartref.
•Ymgyfarwyddo a gweithredu polisïau, trefniadaeth a chanllawiau’r Cyngor yngln ag arferion da a materion yn ymwneud a Iechyd a Diogelwch.
•Sicrhau fod anfonebau/biliau yn cael eu prosesu.
•Archebu nwyddau o dan oruchwyliaeth y rheolwr neu Is-reolwr.
•Monitro defnydd o nwyddau glanhau, sicrhau cyflenwad llawn o ddefnyddion glanhau.
•Cadw stôc o’r defnyddiau.
•Ymgymeryd ag unrhyw dasg sydd yn addas a rhesymol i’r swydd yn ôl Rheolwr y Cartref ag sydd
•er lles a datblygiad defnyddwyr y gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•I weithio oriau anghymdeithasol