Lleoliad
Ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn - Ardal Meirionnydd yn benodol i gychwyn 01/09/2022
2 Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cyfrannu tuag at yr agenda o wella presenoldeb disgyblion ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn.
• Gweithredu prosesau cyfreithiol mewn perthynas â:
- Rhybuddion Cosb Benodol (Addysg).
- Paratoi achosion i'w herlyn yn y llysoedd.
- Gorchmynion Goruchwyliaeth Addysgol
- Gorchmynion Mynychu Ysgol
• Cynorthwyo efo’r broses o weithredu’r broses sy’n gysylltiedig â materion cyflogaeth plant
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Gliniadur a ffôn symudol
Prif Ddyletswyddau. .
1. PRESENOLDEB
• Cydweithio ag ysgolion i fonitro presenoldeb yn ysgolion eu hardal, a gweithredu'n briodol yn dilyn cyfeiriadau.
• Llunio a gweithredu amrywiol strategaethau effeithiol i leihau absenoldebau.
• Paratoi a chyflwyno achosion i'r Llys pan erlynir rhieni (Deddf Addysg 1996).
• Sicrhau fod y drefn o gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodol yn cael ei ddilyn yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
• Gweinyddu Gorchmynion Goruchwyliaeth Addysgol yn unol â gofynion Deddf Plant 1989.
• Paratoi adroddiadau tymhorol ar bresenoldeb a thriwantiaeth mewn ymgynghoriad ag Ysgolion ar gyfer Cyrff Llywodraethwyr.
2. AMDDIFFYN PLANT
• Gweithredu yn unol â gofynion Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
• Cynrychioli'r Awdurdod Addysg ar unrhyw bwyllgor rhyng asiantaethol perthnasol os yn berthnasol.
• Cynrychioli'r Awdurdod Addysg mewn cyfarfodydd strategaeth i drafod achosion unigol os yn berthnasol.
• Cynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig ar gyfer cyfarfodydd rhyng asiantaethol neu gyfarfodydd strategaeth.
• Gweithredu fel pwynt cyswllt mewn perthynas â'r maes a chynnig arweiniad i’r Ysgol.
3. PROSESAU ASESU DEDDF ADDYSG 1996 (Anghenion Addysgol Arbennig)
• Darparu tystiolaeth i ysgolion a'r Awdurdod Addysg.
4. GWAHARDDIADAU
• Bod ynglŷn â strategaeth atalion yn y maes.
• Darparu adroddiadau i’r Corff Llywodraethol.
• Sicrhau fod disgyblion a waherddir yn barhaol yn derbyn addysg o fewn yr hualau amser cenedlaethol.
5. CYFLOGAETH PLANT
• Sicrhau y cydymffurfir a'r Is-Ddeddfau.
• Codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o’r Is-Ddeddfau perthnasol.
• Erlyn cyflogwyr a darganfyddir yn cyflogi plant yn groes i'r Is-Ddeddfau perthnasol.
• Prosesu ceisiadau cyflogaeth plant.
• Ymweld â chyflogwyr yn achlysurol o sicrhau fod y lleoliadau gwaith yn addas.
• O fewn canllawiau pendant cynnal Asesiadau Risg ar gyfer lleoliadau profiad gwaith Blwyddyn 10 lle’n briodol.
6. ADDYSG GARTREF DEWISIOL
• Hysbysu Pennaeth y Gwasanaeth Ysgolion ynglŷn â theuluoedd sy'n dewis addysgu eu plant gartref.
• Ymweld â chartrefi, ar gais Pennaeth y Gwasanaeth Ysgolion i fonitro sefyllfaoedd.
7. MATERION LLES CYFFREDINOL - MEGIS BWLIO, CYFFURIAU, ATAL TROSEDDAU.
• Bod ynglŷn â'r maes mewn ymgynghoriad ag asiantaethau eraill.
• Darparu cyngor i ysgolion, rhieni a disgyblion.
• Cynhyrchu a chyflwyno adnoddau cyfredol i addysgu plant, rhieni ac ysgolion.
• Cyfrannu i nifer o weithgareddau hybu lles.
8. CYSYLLTIADAU AG ASIANTAETHAU ERAILL
• Sefydlu a chynnal cysylltiadau effeithiol ag asiantaethau eraill sy'n weithredol yn y maes lles, e.e. Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Y Gwasanaethau Iechyd, yr Heddlu a.y.b.
• Ymateb yn briodol i gais o feddiant asiantaeth arall am wybodaeth ynglŷn â disgyblion.
9. GORFODAETH
• Gweinyddu’r broses Rhybuddion Cosb Benodol gan sicrhau gweithredoedd mewn achosion o beidio’u talu.
• Darparu cyngor i reolwyr ysgolion mewn perthynas â materion gorfodaeth.
• Cadw cofnodion achos priodol, manwl a chyfredol, a data ystadegol yn ôl yr angen.
10. DARPARU CYNGOR
• Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer darparu cyngor i’r ysgol.
• Gweithredu fel pwynt cyswllt i rieni a disgyblion.
11. MYNEDIAD/CLUDIANT
• Cynghori'r Adran Cludiant pan fo agweddau lles yn ystyriaeth.
12. YMWELIADAU CARTREF
• Ymweld â chartrefi disgyblion er mwyn canfod ffordd i wella canran presenoldeb.
• Ymweld â chartrefi i drafod agweddau o les y disgybl all fod yn achosi pryder i’r ysgol.
• Sicrhau cyswllt cryf rhwng ysgol a chartref.
13. CYFFREDINOL
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Click here to enter text.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.