Swyddi ar lein
Dirprwy Reolwr Cyfathrebu
£35,336 - £37,568 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 22-22674
- Teitl swydd:
- Dirprwy Reolwr Cyfathrebu
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 30/06/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £35,336 - £37,568 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS2
- Lleoliad(au):
- Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru (CRhTGC/NWTMC), Conwy
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gwasanaeth Traffig Cymru (GTC)– Dirprwy Reolwr Cyfathrebu
LLEOLIAD: Conwy/ Hybrid
Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr Cyfathrebu profiadol gyda chymhelliant cryf i ymuno â'r tîm i
gynorthwyo a ddirprwyo ar ran Rheolwr Cyfathrebu GTC i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076.
Dyddiad Cau: 30/06/2022
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Arddangos mentergarwch personol arwyddocaol a'r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel yn gwrtais, yn sensitif a phroffesiynol.
Gallu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun ac i arwain eraill a rheoli blaenoriaethau gwaith staff is.
Gallu gweithio o dan bwysau a gallu delio â dyddiadau cau llym.
Yn ymroi i gywirdeb a chyflawni tasgau mewn modd amserol.
Agwedd arloesol a blaengar at welliant parhaus.
Ymrwymiad cryf i gyflawni gwasanaeth cwsmer ardderchog.
Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiadau personol a phroffesiynol parhaus.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd neu gyfwerth mewn cyfathrebu, newyddiaduriaeth, cysylltiadau
cyhoeddus neufaes perthnasol.
Dymunol
ECDL
ILM Lefel 3
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio yn llwyddiannus gyda'r amgylchedd cyfathrebu gan weithio ar draws ystod eang o sianeli.
Profiad o ddatblygu a rheoli gwefan.
Profiad o reoli prosiect effeithiol a chyflawni targedau penodol.
Gallu i feithrin partneriaethau llwyddiannus gydag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol.
Medru dangos profiad mewn creu cynnwys wedi ei dargedu.
Gwybodaeth gadarn am arferion a thechnegau cyfathrebu.
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
Rhaid bod yn gallu ymgymryd â llawer o dasgau ar yr un pryd a gweithio'n dda dan bwysau.
Dymunol
Rheoli cyfathrebu mewn cyd-destun ble mae angen wynebu'r cyhoedd.
Profiad o reoli a goruchwylio tîm.
Profiad mewn rôl gofal cwsmer.
Profiad o gynorthwyo gyda gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus sefydliad.
Profiad o reoli cyllidebau.
Profiad o reoli digwyddiadau.
Profiad o ddatblygu a gweithio yn unol â threfniadau Rheoli Ansawdd achrededig, e.e. ISO9001.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Dealltwriaeth eglur o fyd y cyfryngau cymdeithasol ac amryfal lwyfannau fel Twitter, Facebook, YouTube ac Instagram.
Gwybodaeth drylwyr o systemau rheoli cynnwys, yn ogystal ag, olrhain dulliau arfarnu ar draws ystod o sianeli cyfathrebu.
Meddylfryd creadigol.
Gwybodaeth drylwyr o becynnau cyfrifiadurol, h.y. Windows, Excel, dadansoddeg gwefannau, dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol.
Gallu i gynhyrchu cynnwys llawn gwybodaeth sy'n ymgysylltu i amrywiaeth o sianeli a chynulleidfaoedd.
Y gallu i gyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg gyda llygad ofalus am fanylion yn y cynnwys creadigol ac ysgrifenedig.
Sgiliau trefnu da a'r gallu i weithio’n effeithiol i gwrdd â thargedau a chyflawni canlyniadau eglur.
Sgiliau cyflwyno da.
Sgiliau datrys problemau a'r gallu i ymdrin â blaenoriaethau sy'n cystadlu.
Trwydded yrru lawn, gyfredol.
Dymunol
Ffotograffiaeth, ffilmio fideo a sgiliau golygu.
Yn gyfarwydd gydag optimeiddio peiriant chwilio a thechnegau marchnata.
Hyfedr gyda chodio HTML.
Cyfarwydd gyda gweithdrefnau perthnasol llywodraeth leol a/neu ganolog fel prosesau rheoli tîm.
Cyfarwydd gyda Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
Gwybodaeth dda o systemau Sicrwydd Ansawdd.
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Cyflog £35,336 - £37,568
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
AM Y GWASANAETH:
Gwasanaeth Traffig Cymru (TWS) yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru sy'n darparu cyswllt rhwng y cyhoedd a Chanolfannau Rheoli Traffig Llywodraeth Cymru yng Nghonwy (gogledd Cymru) a Choryton (de Cymru).
Mae'r ddwy asiantaeth ffyrdd, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (ACDC) yn gyfrifol am reoli, cynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith cefnffyrdd strategol yng Nghymru, a hynny ar ran Llywodraeth Cymru.
Caiff GTC ei reoli gan ACGCC ond mae yn gweithio yn agos gyda'r ddau Asiant a Llywodraeth Cymru i gyflawni'r gwasanaeth ar draws Cymru.
PWRPAS Y SWYDD:
Cynorthwyo a dirprwyo ar ran Rheolwr Cyfathrebu Gwasanaeth Traffig Cymru (GTC) yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru i gwrdd â'r amcanion strategol allweddol:
•Gweithredu'r Rhwydwaith a Gwaith Stryd yn effeithiol, yn ddiogel ac yn effeithlon
•Lleihau tagfeydd a gwella dibynadwyedd hyd siwrneiau
•Cefnogi strategaethau cyfathrebu Llywodraeth Cymru
Yn gyfrifol am:
•gyflawni gweithrediad y GTC, e.e. creu proses a gweithdrefnau i'w cyflawni ar sail Cymru gyfan, yn datblygu llwyfannau cyfathrebu newydd.
•arwain ar ddichonoldeb, dyluniad a gweithrediad prosiectau Llywodraeth Cymru a GTC.
•arwain ar gyfathrebu a chydgysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol pan fo digwyddiadau sylweddol yng Nghymru, e.e. tywydd garw, digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol.
•cynorthwyo gyda'r strategaeth gyfathrebu a datblygiad strategol y gwasanaeth.
•datblygu gwell dealltwriaeth gan y cyhoedd o waith Llywodraeth Cymru a gwaith yr Asiantau a hyrwyddo defnydd GTC i wella profiad teithio defnyddwyr ffordd yng Nghymru.
•gweithredu'r strategaeth gyfathrebu ac ymgyrchoedd sy’n addysgu ac yn hysbysu'r cyhoedd ac yn barhaus yn gwella ymwybyddiaeth am frand GTC.
•cefnogi'r Rheolwr Cyfathrebu gyda rheolaeth llinell tîm GTC.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Cyfrifol am:
•saith aelod o staff yn nhîm Gwasanaeth Traffig Cymru.
•rheoli'r rota a llwyth gwaith staff Traffig Cymru i ddarparu gwasanaeth parhaus o 7 y bore i 7 yr hwyr ynghyd â gwasanaeth ar alwad dros nos.
•Offer marchnata a digwyddiadau, ffôn boced, gliniadur / cyfrifiadur swyddfa
(Noder - Offer TG cyffredinol a reolir gan TG Gwynedd. Offer TG GTC a systemau a reolir gan Dîm Technegol ACGCC)
Prif ddyletswyddau
Rheolaeth Weithredol
•Cynorthwyo a dirprwyo ar ran Rheolwr Cyfathrebu GTC, yn cynnwys cyfrifoldebau rheolaeth llinell.
•Trefnu rotas staff i sicrhau y cyflawnir gofynion gweithredol Llywodraeth Cymru.
•Datblygu, arwain, gweithredu ac arfarnu gweithdrefnau gweithredu a phrotocolau GTC i hyrwyddo'r gwasanaeth, gweithgareddau'r Asiant a gwaith Llywodraeth Cymru o ran y rhwydwaith ffyrdd strategol a mentrau cludiant ehangach.
•Darparu gwasanaeth yn ystod cyfnodau o absenoldeb i sicrhau bod oriau craidd y gwasanaeth yn cael eu cadw a chymryd rhan mewn rota ar alwad 24 awr a darparu cefnogaeth cyfathrebu brys.
•Cydgysylltu gyda rhanddeiliaid mewnol i roi cefnogaeth gyda chynllunio, dylunio a gweithredu strategaethau ac ymgyrchoedd cyfathrebu mewnol.
•Gweithredu fel cyswllt allweddol gyda gwaith cyfathrebu rhanddeiliaid mewnol / allanol a thimau ymgysylltu cymunedol, e.e.
-Timau Gweithrediadau ACGCC/ACDC
-Timau Rheoli Rhwydwaith ACGCC/ACDC
-Timau Cyflawni Cyfalaf ACGCC/ACDC
-Timau Gwaith Stryd ACGCC/ACDC
-Staff Cyfathrebu Canolog Llywodraeth Cymru
-Gwasanaethau Argyfwng (e.e. Heddlu, Tân ac Ambiwlans)
-Gwasanaethau Statudol (e.e. dŵr, nwy, darparwyr telegyfathrebu)
-Y Wasg a’r sefydliadau eraill o'r cyfryngau
-Awdurdodau Lleol
-Aelodau etholedig
-Sefydliadau sy'n cynrychioli diwydiannau, e.e. Cymdeithas y Cludwyr Nwyddau
-Gweithredwyr Adfer, e.e. AA / RAC / Green Flag
-National Highways (Highways England yn flaenorol)
-Cyfoeth Naturiol Cymru
•Cefnogi'r gwaith o ddosbarthu gwybodaeth berthnasol, ddwyieithog i'r cyhoedd sy'n teithio, drwy ddefnyddio gwefan Traffig Cymru, ap ffôn boced ac amryfal lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
•Ymateb i ymholiadau a chwynion y cyhoedd ynglŷn â theithio, trwy'r cyfryngau cymdeithasol, ffôn neu e-bost.
•Sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â gofynion statudol a hyrwyddo cydweithrediad rhwng Canolfannau Rheoli Traffig Coryton a Chonwy.
•Ysgrifennu, golygu ac adolygu cynnwys sianeli cyfathrebu GTC gan gynnwys y wefan, datganiadau newyddion a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, sicrhau eu bod o ansawdd uchel, yn addas i'r gynulleidfa darged, yn hygyrch ac yn ddefnyddiol.
•Cynorthwyo gyda datblygiad a rheoli cynnwys gwefan Traffig Cymru a sianeli ymgysylltu gyda defnyddwyr.
Rheoli Perfformiad
•Cynnal archwiliadau blynyddol o dudalennau gwe Traffig Cymru a'r ap ffôn boced, defnyddio dadansoddeg i wneud argymhellion.
Rheoli Prosiect
•Arwain ar brosiectau cyfathrebu yn unol â blaenoriaethau strategol GTC, e.e. cyfathrebu wrth gefn ar adegau o dywydd drwg, mentrau diogelwch ffordd a chynnal a chadw twneli.
•Sefydlu, tyfu a rheoli sianeli cyfathrebu datblygol GTC i ddosbarthu gwybodaeth ddibynadwy, amserol a dwyieithog i gael effaith arwyddocaol o gadarnhaol ar reoli'r rhwydwaith ffyrdd strategol yn effeithiol.
•Cynorthwyo gyda datblygiad a gweithrediad ymgyrchoedd cyfathrebu effeithiol sydd o gymorth i ddylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiad defnyddwyr y ffordd, tyfu ymwybyddiaeth brand a gwella profiad y defnyddiwr.
•Cefnogi cyflwyno dyluniad, cynnwys a chynhyrchiad yr holl ddeunyddiau marchnata.
Cydymffurfiaeth Statudol
I sicrhau bod GTC yn cydymffurfio gyda'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), Deddf Rhyddid Gwybodaeth a gofynion deddfwriaethol eraill a pholisïau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru / yr Asiant.
GOFYNION ERAILL
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arferion gorau pan fo hynny’n briodol.
Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill y Cyngor, ac Awdurdodau Partner er mwyn sicrhau bod yr Asiant a’r Gyfadran yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiant i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Canfod a chadw'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â:
•safonau, datblygiadau technegol a chyfrifiaduron
•arferion gorau cyfredol o ran cyfathrebu
Dyletswyddau rheoli, gweinyddol, technegol a phroffesiynol eraill sy’n gymesur â statws y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•I ffurfio rhan o'r rota ar-ddyletswydd a darparu cyfar ar gyfer rotas shifft fel mae angen.
•Bydd gofyn gweithio tu allan i oriau gwaith arferol fel bo'r angen.
•Cynorthwyo staff gweithredol yr Asiant i ddelio gydag agwedd cyfathrebu argyfyngau a digwyddiadau tywydd garw os oes angen.
•Bydd yna ofyniad i deithio i swyddfeydd yr Asiant yn ardal yr Asiant yn ogystal ag yn achlysurol i'r ganolfan rheoli traffig yn ne Cymru yng Nghoryton, Caerdydd.
•Presenoldeb achlysurol mewn digwyddiadau, e.e. Y Sioe Frenhinol gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau os oes angen.
